Part of the debate – Senedd Cymru am 4:37 pm ar 7 Rhagfyr 2016.
Rwy’n ddiolchgar i Adam Price am ildio. Anghofiais sôn am y doll teithwyr awyr yn fy araith, ond rydych newydd gyfeirio ati, ac rydych yn gwneud pwynt dilys iawn, a byddwn yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru ar y doll teithwyr awyr. Rwy’n credu y byddai’n adnodd pwysig iawn yng nghasgliad adnoddau Llywodraeth Cymru.