Part of the debate – Senedd Cymru am 5:14 pm ar 7 Rhagfyr 2016.
Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy’n croesawu’r ddadl hon heddiw. Mae’n rhoi cyfle i ni ymateb i’r hyn na ellir ond ei ddisgrifio fel cyfle a gollwyd gan Lywodraeth y DU. Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ddatganiad ysgrifenedig ar ddiwrnod datganiad yr hydref yn nodi’r goblygiadau i Gymru. Cafodd gyfle yn y Siambr ddoe hefyd i glywed beth y mae datganiad yr hydref yn ei olygu i gyllideb Cymru a’n cynlluniau gwariant yn y dyfodol. Ond rwy’n meddwl bod y ddadl heddiw yn rhoi cyfle arall—ac mae’n amlwg fod hynny wedi ei ddangos y prynhawn yma—i fyfyrio ar effaith mesurau caledi Llywodraeth y DU ar Gymru.
Rydym wedi cael bron i ddegawd o bolisïau caledi Llywodraeth y DU, ac mae’n amlwg nad ydynt yn gweithio. Ochr yn ochr â datganiad yr hydref, fel y dywedwyd y prynhawn yma, mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidol wedi israddio llawer o’i rhagolygon allweddol ar gyfer gweddill y Senedd hon, ac nid yw’r dyfodol yn addo gwelliant mawr. Gallwn edrych ymlaen at gyllideb yn parhau mewn diffyg tan ar ôl diwedd y Senedd hon, gyda fawr ddim gwelliant mewn safonau byw, os o gwbl. Os rhywbeth, gallwn ddisgwyl cynnydd mewn chwyddiant, pwysau parhaus ar ddyfarniadau cyflog a dirywiad parhaus yn y safonau byw. Fel y dywedodd Huw Irranca-Davies, mae caledi wedi dyfnhau anghydraddoldebau.
Os dilynwch wedyn y pwyntiau pwerus a wnaed gan Mark Carney, Llywodraethwr Banc Lloegr—hoffwn innau hefyd ailadrodd rhai o’r pwyntiau a wnaeth yn Lerpwl. Dywedodd mai twf gweddol yn unig a gofnodwyd ar gyfer y DU yn yr economi a fawr ddim twf o gwbl mewn cynhyrchiant. Yn y cyfamser, mae’r diffyg yn y gyllideb yn parhau a dyled y Llywodraeth wedi cynyddu’n aruthrol. Siaradodd am yr effaith ar fywydau pobl, fel y mae Huw Irranca-Davies wedi gwneud heddiw, a dywedodd:
O gyfuno’r effaith â chynnydd isel mewn incwm ac wedi’i gwreiddio mewn anghydraddoldeb rhwng cenedlaethau, nid yw’n syndod fod llawer yn cwestiynu eu rhagolygon.
Ond rydych chi’n iawn, Nick Ramsay, wrth gynnig y cynnig hwn, mai un maes sy’n cynnig rhywfaint o addewid yw’r hwb i fuddsoddiad yn y seilwaith—rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru wrth gwrs wedi bod yn dadlau’n gryf drosto ers nifer o flynyddoedd. Byddwn yn gwneud defnydd da o’r cyfalaf ychwanegol o £442 miliwn rhwng 2016-17 a 2020-21. Mae’r chwystrelliad yn mynd beth o’r ffordd i adfer y toriadau y mae Llywodraeth y DU wedi gwneud i’n cyllideb gyfalaf dros y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, bydd ein cyllideb gyfalaf yn dal i fod 21 y cant yn is mewn termau real yn 2019-20 nag yr oedd yn 2009-10.
Mae’n siomedig nad yw Llywodraeth y DU wedi manteisio ar y cyfle i roi terfyn ar galedi. Mewn cyfnod o chwyddiant cynyddol gyda phoblogaeth sy’n heneiddio, gadewch i ni edrych ar y newidiadau i’n cyllideb refeniw. £35.8 miliwn ychwanegol rhwng 2016-17 a 2019-20—bach iawn. Nid yw’n dechrau gwneud iawn am y toriadau dwfn rydym wedi’u gweld i’n gwariant cyhoeddus dros y blynyddoedd diwethaf. Ac erbyn diwedd y degawd, bydd ein refeniw DEL wedi gweld toriad o 8 y cant mewn termau real, sy’n cyfateb i oddeutu £1 biliwn yn llai ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yng Nghymru. Ar ben hynny, fel y buom yn trafod ddoe, mae £3.5 biliwn o doriadau yn ein haros ar gyfer 2019-20, gan fygwth mwy o doriadau i gyllideb Cymru. Mae hyn yn parhau’r ansicrwydd rydym yn ei wynebu ar adeg pan fo darparu sefydlogrwydd a sicrwydd yn bwysicach nag erioed.
A beth am feysydd allweddol eraill lle rydym wedi bod yn chwilio am gynnydd—gyda’n gilydd, fe fyddwn yn dweud, ar draws y Siambr hon—i helpu i symud ein heconomi yn ei blaen? Rwy’n cytuno gydag Adam Price, wrth i chi gynnig eich gwelliant; mae’n siomedig na chafodd y mentrau a’r dulliau allweddol hynny, megis datganoli’r doll teithwyr awyr a phwysigrwydd morlyn llanw Abertawe, eu cefnogi yn natganiad yr hydref—cyfle arall a gollwyd. Ni ddywedwyd dim, ond rwy’n croesawu’r ffaith fod y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi ein galwad, fel y gwnaethant yn y comisiwn Silk trawsbleidiol. Mae cefnogaeth i’r alwad ar draws y Siambr hon ac ar draws y pleidiau, am ddatganoli’r doll teithwyr awyr.
Bob amser, pan fyddwn yn siarad gyda llais unedig, mae gennym achos cryfach, mwy pwerus, i gefnogi Mark Drakeford wrth iddo gael ei drafodaethau hollbwysig—fel y dywedwch, Nick Ramsay, o ran y fframwaith cyllidol—a dadlau wrth gwrs, fel y mae’n gwneud heddiw mewn Cyd-bwyllgor y Gweinidogion ar Ewrop ar ein hanghenion o ran effaith Brexit.
Cyn datganiad yr hydref, ysgrifennodd Mark Drakeford at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys i gadarnhau cefnogaeth Llywodraeth Cymru i forlyn llanw bae Abertawe ac rwy’n falch fod cytundeb dinas Abertawe a bargen twf gogledd Cymru wedi cael eu cydnabod yn natganiad yr hydref. Erbyn hyn rhaid i ni weld Llywodraeth y DU yn symud ymlaen o ran ymateb.
Ond Lywydd, mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu ymagwedd wahanol tuag at galedi. Fe’i nodwyd yn ein cyllideb ddrafft, cyllideb ar gyfer sefydlogrwydd ac uchelgais, a basiwyd ddoe yn y Siambr hon. Er gwaethaf blynyddoedd o galedi, rydym yn ymdrechu’n galed i amddiffyn ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol—ac yn cael canlyniadau. Fel y dywedodd Rhianon Passmore, mae angen sicrwydd a gweithredu go iawn ar bobl Cymru.