Part of the debate – Senedd Cymru am 5:19 pm ar 7 Rhagfyr 2016.
Mae’n siŵr mai’r feirniadaeth fwyaf dinistriol o weithredu Llywodraeth Cymru hyd yma ar wasanaethau cyhoeddus yw’r feirniadaeth a wnaed ddoe ar addysg, sy’n dangos bod maes polisi y bu Llafur Cymru’n ei reoli ers 17 mlynedd wedi methu’n llwyr wrth ei feincnodi’n rhyngwladol yn erbyn y gorau yn y byd. Honno, yn sicr, yw’r feirniadaeth sylfaenol o’r modd y mae Llafur Cymru wedi gwneud cam â’r Cymry? Drwy addysg, rydych yn grymuso ac rydych yn rhoi ffyniant, ac nid ydych wedi rhoi hynny i filoedd lawer o blant ledled Cymru.