Part of the debate – Senedd Cymru am 5:40 pm ar 7 Rhagfyr 2016.
Diolch yn fawr, Lywydd. Rydw i’n cynnig y gwelliannau. Rydw i hefyd yn datgan diddordeb fel mam i bedwar o bobl ifanc sydd wedi talu crocbris mewn ffïoedd gosod ar hyd y blynyddoedd.
Mae Plaid Cymru’n falch o gefnogi’r cynnig yma i wahardd ffïoedd gosod. Fel rydych chi’n gwybod, fe wnaethom ni gyflwyno gwelliannau i’r perwyl hwnnw yn ystod y drafodaeth ar y Bil rhentu tai, a, bryd hynny, fe gawsom ni ein cefnogi gan y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Ceidwadwyr yn ystod y ddadl honno. Mae’n amlwg o’r cynnig sydd gerbron heddiw, y buasai UKIP hefyd wedi cefnogi’r gwelliannau hynny, sy’n golygu mai’r unig blaid sydd ddim eto wedi ymrwymo’n gyhoeddus i wahardd ffïoedd asiantau gosod yw’r blaid Lafur. Ond, mae’r gwelliannau gan y Llywodraeth heddiw yn arwydd gobeithiol, a, gobeithio’n wir, erbyn diwedd y dydd heddiw, y byddan nhw hefyd yn cefnogi rhoi diwedd ar y ffïoedd tramgwyddus hyn. Rwy’n edrych ymlaen at weld hynny’n digwydd.
Mae gwelliant 1, felly, yn gresynu na fanteisiwyd ar y cyfle i wahardd y ffïoedd hyn yn gynharach. Nod ein hail welliant ni ydy ceisio ychwanegu at y cynnig a galw am ystyried ffyrdd o roi diwedd ar daliadau gwasanaeth eithafol ac annheg, neu godiadau mewn taliadau gwasanaeth lle mae pobl sydd yn dal prydles yn aml yn gorfod ei dalu. Felly, mae’r ail welliant yn ehangu’r maes. Mae’r taliadau hyn yn aml yn debyg eu natur i ffïoedd gosod eithafol yn yr ystyr bod y defnyddiwr eisoes wedi ei glou i mewn i drefniant tymor hir, heb fedru siopa o gwmpas, ac y bydd weithiau’n gorfod talu’n ddrud am wasanaeth sy’n aml jest ddim yn cael ei ddarparu. Gall codiadau mawr mewn ffïoedd hefyd greu anhawster wrth werthu fflat neu eiddo arall, sy’n golygu na all rhywun symud fel y maen nhw’n dymuno.
Mae’r gwelliant olaf yn ymwneud â’r stori a oedd yn y cyfryngau ychydig wythnos yn ôl, lle’r honnwyd bod y Llywodraeth wedi dweud wrth ei meincwyr cefn mai’r rheswm nad oedd am bleidleisio dros welliant Plaid Cymru i wahardd ffïoedd gosod oedd oherwydd bod yna gwestiynau cyfreithiol ynghylch cymhwysedd. Rŵan, nid dyna ydy’r ddadl a wnaed yn gyhoeddus gan y Llywodraeth ar y pryd, ac mae rhywun angen gofyn cwestiwn pam na ddefnyddiwyd y ddadl honno. Ond, mi oedd o’n rhan o batrwm cyffredinol gan y Llywodraeth i atal gwelliannau a deddfwriaeth a defnyddio dadleuon technegol nad oedd llawer o Aelodau Cynulliad mewn sefyllfa i graffu arnyn nhw na’u cwestiynu. Rydym ni, felly, o’r farn os ydy’r Llywodraeth yn dymuno defnyddio dadleuon cyfreithiol yn erbyn gwelliant neu Fil arfaethedig, yn hytrach na dadleuon o egwyddor, yna fe ddylai’r dadleuon cyfreithiol hynny gael eu cyhoeddi ymlaen llaw. Mi fyddai hynny wedyn yn rhoi digon o amser i bobl sydd, efallai, ddim yn cyd-fynd efo’r farn yna i gael y ddadl at ei gilydd ac i gael cyngor annibynnol.
Ond, i fod yn glir, mae Plaid Cymru yn bendant o’r farn bod gwahardd ffïoedd asiantau gosod yn rhywbeth y gall ac y dylai’r Siambr hon ddeddfu arno fo, a gobeithio bod y Llywodraeth, bellach, yn sylweddoli eu bod nhw wedi gwneud cam gwag mawr yn hyn o beth yn y gorffennol. Mae’n ddiddorol iawn gweld bod UKIP yn defnyddio’r Alban fel esiampl o arfer dda. Mae’n dangos, wrth gwrs, onid ydy, fod Llywodraethau datganoledig yn gallu bod yn llawer mwy goleuedig na’r wladwriaeth ganolog.