8. 6. Dadl UKIP Cymru: Ffioedd Asiantau Gosod

– Senedd Cymru ar 7 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 3 a 4 yn enw Rhun ap Iorwerth, a gwelliant 2 yn enw Jane Hutt.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:28, 7 Rhagfyr 2016

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw dadl UKIP ac rwy’n galw ar Gareth Bennett i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6181 Neil Hamilton, Gareth Bennett

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cynigion gan Lywodraeth y DU i ddileu ffioedd a godir gan asiantau gosod i denantiaid yn Lloegr.

2. Yn gresynu bod tenantiaid yn talu £233, ar gyfartaledd, mewn ffioedd gosod.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

(a) cymryd camau i ystyried effaith dileu'r ffioedd hyn, sydd eisoes wedi digwydd yn yr Alban;

(b) cyflwyno deddfwriaeth yn y Cynulliad hwn i wahardd ffioedd rhentwyr, gan sicrhau na ellir codi'r costau hyn, wedyn, ar:

(i) tenantiaid, drwy godi rhenti artiffisial uwch; a

(ii) landlordiaid preifat, gan nodi eu bod yn rhan werthfawr o'r broses o helpu rhentwyr ar yr ysgol eiddo.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 5:28, 7 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Diolch am y cyfle i gyflwyno’r ddadl hon heddiw. Fel y mae llawer ohonom yn gwybod, gall symud o un eiddo rhent i un arall fod yn anodd weithiau. Rwy’n deall hyn, gan nad wyf erioed wedi cael morgais preswyl, ac felly erioed wedi bod yn berchennog preswyl. Felly, rwyf wedi treulio llawer o amser yn fy mywyd yn byw yn y sector rhentu preifat. Yn rhyfedd ddigon, fodd bynnag, mae gennyf forgais prynu i osod hefyd, felly rwyf hefyd wedi bod yn landlord. O’r herwydd, rwyf hefyd wedi ymdrin â thenantiaid o’r safbwynt arall. Felly, mae angen i mi ddatgan buddiant pan fyddaf yn ymdrin â materion tai. Ond mae gennyf fantais ddamcaniaethol fach hefyd, gobeithio, gan fy mod wedi gallu edrych ar holl fater perchnogaeth eiddo a rhentu o’r ddwy ochr i’r ffens.

I fynd yn ôl at yr hyn roeddwn yn ei ddweud ar y dechrau, mae symud fel arfer yn amser anodd, ac weithiau’n drawmatig. Gall hyn fod yn berthnasol i rentwyr preifat, a rhai ohonynt, wrth gwrs, yn deuluoedd cyfan, lawn cymaint ag i berchen-feddianwyr sy’n symud i fyny neu i lawr yr ysgol eiddo. Yn gynyddol, gyda phrinder tai yn y DU, gall fod problemau gyda dod o hyd i’r eiddo cywir a’i brynu cyn iddo gael ei fachu. Yn gysylltiedig â’r anhawster hwn, mae’r gost sy’n rhan o’r broses. Nid oes modd osgoi rhai o’r costau a geir wrth symud. Fodd bynnag, mae yna hefyd gostau ychwanegol sydd nid yn unig yn amheus, ond yn aml yn hollol anesboniadwy. Ffioedd yr asiantaethau gosod tai yw’r rhain.

Yng Nghymru a Lloegr, mae hwn yn faes sydd, i raddau helaeth, heb ei reoleiddio. Yn y 1980au, pan ddechreuodd prisiau eiddo ddod yn bwnc trafod cyffrous i fwyfwy o bobl a oedd yn anelu i symud i fyny mewn cymdeithas ar draws y DU, câi ei ddweud yn aml gyda pheth dirmyg, er bod cyfreithwyr a chyfrifwyr angen rhyw fath o broses arholi er mwyn cymhwyso, nid oedd gofyniad o’r fath ar gyfer gwerthwyr tai ac asiantaethau gosod tai.

Er bod gennym y gymdeithas fasnach a elwir yn Gymdeithas Asiantaethau Gosod Preswyl, neu ARLA, ers 1981, mae’r sefyllfa honno o ddiffyg rheoleiddio yn parhau i fod yr un fath i raddau helaeth heddiw. Mae ARLA yn ceisio gosod cod ymddygiad gofynnol ar gyfer asiantaethau gosod tai, ond y gwahaniaeth hanfodol yma yw nad oes yn rhaid i rywun ddod yn aelod o ARLA i weithredu fel asiant gosod tai. Nid yw’n debyg i Gyngor y Bar neu Gymdeithas Feddygol Prydain. I ddyfynnu o adroddiad o lyfrgell Tŷ’r Cyffredin ym mis Mawrth 2015,

Nid oes unrhyw reoleiddio statudol trosfwaol mewn perthynas ag asiantau sy’n gosod neu’n rheoli tai y sector preifat yn Lloegr nac unrhyw ofyniad cyfreithiol iddynt berthyn i gymdeithas fasnach, er bod llawer o asiantau sy’n gosod a rheoli tai yn gwirfoddoli i gael eu rheoleiddio.

Mae’r sefyllfa yma yng Nghymru ychydig yn wahanol, yn yr ystyr ein bod eisoes wedi pasio Deddf Tai (Cymru) 2014. Roedd hon yn cyflwyno cynllun cofrestru gorfodol i gynnwys landlordiaid preifat ac asiantau sy’n gosod a rheoli tai, cynllun a gâi ei oruchwylio gan y corff cyhoeddus newydd o’r enw Rhentu Doeth Cymru. Mae’r system drwyddedu yn darparu man cychwyn defnyddiol ar gyfer y pwnc rydym yn edrych arno heddiw, gan fod gennym y fframwaith rheoleiddio yng Nghymru eisoes i gyflwyno safonau pellach yn ymwneud yn benodol â ffioedd yr asiantaethau gosod tai. Pam y mae’n gymaint o bwnc llosg yn awr? Wel, gyda phrinder tai cyngor a thai cymdeithasol, mae mwy o bobl yn gorfod mynd i mewn i’r sector rhentu preifat i ddod o hyd i eiddo addas i symud iddo. Daw hyn â mwy a mwy o bobl i mewn i fyd yr asiant gosod tai. Felly, efallai ei bod yn bryd ystyried rhyw fath o reoleiddio ar gyfer y sector, rheoleiddio, o bosibl, a allai ategu rhai o’r mesurau uchod a gyflwynodd y Cynulliad yn ystod pedwerydd tymor y Cynulliad i reoleiddio landlordiaid preifat.

Wrth gwrs, nid oes diben cyflwyno rheoliadau os nad oes unrhyw beth o’i le ar y sector. Yn anffodus, profiad nifer sylweddol o bobl sy’n rhentu yng Nghymru yw bod llawer o gostau ynghlwm wrth symud a rhentu, a hyd yn oed wrth adnewyddu tenantiaeth, sy’n ychwanegu at y gost ac yn aml, nid ydynt yn eu deall. Canfu Shelter Cymru, mewn adroddiad diweddar, fod un o bob tri thenant sy’n defnyddio asiantaethau gosod wedi talu mwy na £200 mewn ffioedd asiantaeth er mwyn dechrau tenantiaeth. O’u cymryd gyda rhent ymlaen llaw a bond, mae hyn yn golygu bod y gost o symud i gartref tair ystafell wely cyffredin yng Nghaerdydd yn cael ei gwthio i fyny dros £1,600. Mae’r rhain yn gostau sylweddol. Beth y mae’r ffioedd hyn yn ei gynnwys? Wel, yn aml cânt eu disgrifio’n syml drwy ddefnyddio’r ymadrodd cyffredinol, ‘taliadau gweinyddol’. Cyn symud i mewn, byddai disgwyl i ganolwyr a chredyd personol darpar denantiaid gael eu harchwilio. Fodd bynnag, nid yw llawer o’r gwiriadau hyn yn arbennig o gostus i’w cynnal, a phrin eu bod yn cyfiawnhau’r ffioedd sydd weithiau’n afresymol ac sy’n cael eu codi ar y darpar denantiaid mewn rhai achosion.

Datgelodd adroddiad ar y sefyllfa yn Lloegr gan Bwyllgor Cymunedau a Llywodraeth Leol Tŷ’r Cyffredin lawer o arferion llym sydd yr un mor gyffredin yng Nghymru yn ôl pob tebyg. Un o’r rhai a nodwyd yn yr adroddiad oedd prisio ychwanegol cudd, techneg werthu lle nad yw’r taliadau ond yn cael eu datgelu’n raddol i’r darpar brynwr, neu yn yr achos hwn, y darpar denant. ‘Gall fod ffioedd i’w talu’ yw’r ymadrodd gweithredol yma. Gall tâl dwbl gael ei godi, pan fo landlord a’r tenant yn talu i’r asiantaeth am gyflawni’r un archwiliadau. Mewn rhai achosion, nid yw’r landlord yn gwybod bod yr asiantaeth yn codi tâl ar y darpar denant. Mewn achosion lle y ceir ceisiadau lluosog am yr un eiddo, gall yr asiantaethau gael arian gan nifer o ddarpar denantiaid, ac ni fydd y rhan fwyaf ohonynt yn symud i mewn. A gall darpar denantiaid sy’n chwilio am gartref newydd orfod talu am wiriadau credyd a ffioedd gweinyddol eraill sawl gwaith cyn gallu symud i mewn i eiddo o’r diwedd, gobeithio. Efallai mai’r mathau mwyaf enbyd o’r ffioedd hyn yw taliadau sy’n ailadrodd ar gyfer tenantiaid sy’n byw yn yr eiddo eisoes ac sydd ond yn adnewyddu eu tenantiaeth bresennol. Yn yr achos hwn, ni ddylai fod angen gwiriadau credyd a geirda personol mwyach, ond bydd y math mwy diegwyddor o asiantaeth gosod tai yn dal i godi tâl dirgel iawn. Wrth gwrs, mae asiantaethau gosod tai yn wynebu costau, ond mae eu prif ffynhonnell incwm i fod i ddod o’r ganran o’u comisiwn ar y rhent misol ar eiddo y byddant yn ei gymryd gan y landlord, a hynny’n briodol. Felly, bonws iach iddynt, a dim mwy na hynny, yw ffioedd gweinyddu gormodol.

Ym mis Tachwedd 2015, daeth Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 yn gyfraith, deddf San Steffan a oedd hefyd yn berthnasol i Gymru. Roedd i fod i orfodi asiantaethau gosod tai i fod yn dryloyw wrth arddangos eu ffioedd, fel bod cwsmeriaid—yn yr achos hwn, darpar denantiaid—yn gallu gwneud dewis gwybodus ynglŷn â pha asiantaeth roeddent am ei defnyddio. Yn anffodus, pan aeth Shelter Cymru ati i archwilio pa mor dda roedd hyn yn gweithio ym misoedd cynnar 2016, darganfu fod y gyfraith yn cael ei herio ar raddfa eang. Cynaliasant archwiliad dirgel o 85 o asiantaethau gosod tai ar draws Cymru i weld sut roeddent yn arddangos eu ffioedd ac a oedd y ffioedd hyn yn dal i fod yn gyson. Mae’r gyfraith yn mynnu bod asiantaethau’n dangos rhestr lawn o ffioedd yn y swyddfa ac ar y wefan. Nid oedd mwy na hanner—52 y cant—yr asiantaethau yn arddangos ffi wirioneddol neu’n wir, unrhyw ffordd o allu cyfrifo’r ffi. Rhoddodd mwy na hanner yr asiantaethau ffi wahanol i’r hyn a oedd ar eu gwefan pan gysylltwyd â hwy dros y ffôn.

Felly, beth sydd angen ei wneud yn awr? Wel, rwyf weithiau’n cael fy siomi braidd o ran i ba raddau y mae’n ymddangos ein bod yn dilyn llwybr yr Alban yma yn y Cynulliad. Ar yr achlysur hwn, fodd bynnag, os edrychwn tua’r gogledd, yna fe welwn fod yna gwrs deddfwriaethol y gallem ei ddilyn o bosibl. Ym mis Tachwedd 2012, pleidleisiodd Senedd yr Alban o blaid cymeradwyo deddfwriaeth newydd a oedd yn gwahardd pob taliad tenantiaeth, ar wahân i rent a blaendal ad-daladwy. Effeithiodd y symudiad hwn ar Loegr wedyn. Ym mis Gorffennaf 2013, lluniodd pwyllgor dethol Tŷ’r Cyffredin ar gymunedau a llywodraeth leol adroddiad ar y sector rhentu preifat. Ystyriwyd dilyn arweiniad yr Alban ar ffioedd asiantaethau gosod tai bryd hynny, ond yn gall iawn, penderfynodd y pwyllgor aros i fwy o dystiolaeth ddod yn amlwg o’r Alban ynglŷn â’r effaith roedd y newidiadau deddfwriaethol yn yr Alban wedi ei chael ar y sector rhentu preifat yn yr Alban.

Ym mis Mawrth 2015, cyhoeddodd yr un pwyllgor Tŷ’r Cyffredin adroddiad lle y casglwyd ynghyd y dystiolaeth o’r Alban ac edrychodd eto ar y sefyllfa. Roedd yna bryder mawr, os nad oedd asiantaethau gosod tai yn gallu codi tâl ar denantiaid mwyach am wahanol archwiliadau, yna efallai y byddent yn codi tâl ar y landlordiaid yn lle hynny, a byddai’r landlordiaid yn syml yn trosglwyddo’r ffioedd ymlaen i’r tenantiaid drwy godi’r rhent. Fodd bynnag, ni chanfu ymchwiliad Tŷ’r Cyffredin dystiolaeth glir fod rhenti wedi codi o ganlyniad i ddiddymu ffioedd asiantaethau gosod tai. Argymhelliad y pwyllgor oedd y dylid cael asesiad effaith cynhwysfawr o effeithiau cyflwyno gwaharddiad tebyg yn Lloegr. Ers hynny, yn natganiad yr hydref yn ddiweddar, dywedodd y Canghellor y bydd y Gweinidogion yn cyflwyno gwaharddiad cyn gynted ag y bo modd.

Ai gwaharddiad cyffredinol ar y ffioedd hyn rydym ei eisiau, er hynny? A fydd gwaharddiad o’r fath yn orfodadwy? Ac os cyflwynir gwaharddiad o’r fath, a fydd yn codi’r rhenti’n uwch? O ran gorfodi, mae angen i ni fynd yn ôl at enghraifft yr Alban. Yno, roedd yn anghyfreithlon i godi premiymau mewn gwirionedd—hynny yw, ffioedd a godir ar ddechrau’r denantiaeth—ar ôl Deddf tai (yr Alban), a basiwyd gan Senedd San Steffan yn ôl yn 1984. Fodd bynnag, roedd deddf 2012 a basiwyd gan Senedd Holyrood yn ei hegluro ac arweiniodd at roi camau gorfodi ar waith o’r diwedd. Mae’r bwlch o 30 mlynedd bron yn dangos y perygl o basio deddfwriaeth a ddrafftiwyd yn wael a’i bod yn anorfodadwy yn sgil hynny, ac mae’n rhaid i ni fod yn wyliadwrus rhag hynny wrth gwrs.

Beth am fater taliadau’n cael eu trosglwyddo i denantiaid ar ffurf codiad yn y rhent? Wel, edrychodd Generation Rent, y grŵp ymgyrchu, ar yr Alban cyn ac ar ôl y gwaharddiad a daeth i’r casgliad nad oedd diddymu ffioedd o reidrwydd yn cynyddu rhenti. Fodd bynnag, y broblem amlwg oedd bod rhenti wedi codi yn y cyfnod dan sylw ac ni allodd Generation Rent wahanu mater ffioedd asiantaethau oddi wrth ffactorau eraill yn y farchnad dai. Felly, yn syml iawn, nid oeddent yn gwybod. Daeth pwyllgor dethol Tŷ’r Cyffredin i’r casgliad hefyd fod y dystiolaeth yn amhendant, a bod angen gwneud mwy o ymchwil ar hyn tra oedd Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid yn credu, yn yr Alban, fod y ffi osod yn dal i fodoli, ond ei bod wedi ei throsglwyddo’n rhan o’r rhent; mae tenantiaid bellach yn talu rhent uwch.

Roedd PricedOut, grŵp pwyso arall, o’r farn hyd yn oed os yw rhai o’r ffioedd wedi eu trosglwyddo ymlaen ar ffurf rhent uwch, byddai hyn yn golygu bod y taliadau’n cael eu gwasgaru ar hyd y denantiaeth, a oedd yn well na bod tenantiaid yn cael eu taro gan gyfandaliad enfawr pan fyddent eisiau symud i le newydd. Mae ARLA, Cymdeithas Asiantaethau Gosod Preswyl, wedi bod yn feirniadol o’r gwaharddiad arfaethedig yn Lloegr. Maent yn honni mai’r ffi gyfartalog mewn gwirionedd yw £202 am bob tenant a bod hon yn ffi deg at ei gilydd i dalu costau asiantaethau. Dywed y Gymdeithas Landlordiaid Preswyl y byddai wedi bod yn well gwella tryloywder ffioedd a godir gan asiantaethau drwy eu gorfodi i roi sylw i’w ffioedd a beth y mae’r ffioedd yn talu amdano mewn gwirionedd yn hytrach na chael gwaharddiad llwyr. Y broblem gyda hyn yw bod deddfwriaeth y Ddeddf defnyddwyr eisoes wedi gwneud hyn, ar gyfer Cymru a Lloegr, ac roedd tystiolaeth Shelter Cymru i’w gweld yn datgelu’n derfynol mai ychydig iawn o effaith a gafodd ar ymddygiad masnachol llawer o asiantaethau gosod tai.

Felly, os ydych am ymdrin â’r broblem hon, mae gennych ddau opsiwn yn ôl pob tebyg. Gallech alw am dryloywder cyflawn. Byddai hyn yn golygu bod asiantaethau’n gorfod cyhoeddi dadansoddiad llawn o’r ffioedd ochr yn ochr ag unrhyw hysbyseb eiddo. Byddai hefyd yn gwahardd codi tâl dwbl a fyddai’n gorfodi asiantaethau gosod tai i ddatgelu pob un o’r taliadau tenantiaeth i’r landlordiaid y maent yn gweithio iddynt. Ond darparwyd ar gyfer hyn eisoes yn y Ddeddf hawliau defnyddwyr ac mewn gwirionedd, mae’n debyg nad yw’n gweithredu’n dda iawn yn y sector tai mewn gwirionedd. Y dewis arall yw cael gwaharddiad llwyr a gwneud yr holl ffioedd a thaliadau, heblaw rhenti a blaendaliadau, yn anghyfreithlon pan gânt eu codi ar y darpar denant. Gallai fod achos dros y naill opsiwn neu’r llall. Ond gan fod deddfwriaeth gynharach wedi methu, mae’n ymddangos i mi y gallai fod angen i ni fynd i’r afael â hyn yn awr fel mater deddfwriaethol, wedi’i dargedu’n llwyr ar yr asiantaethau gosod tai. A dyna yw’r ddadl y mae UKIP Cymru wedi ei chyflwyno yma heddiw.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:40, 7 Rhagfyr 2016

Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i’r cynnig. Rydw i’n galw ar Sian Gwenllian i gynnig gwelliannau 1, 3 a 4 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.

Gwelliant 1—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu fel pwynt 3 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi methu â manteisio ar y cyfle yn y Cynulliad blaenorol i wahardd ffïoedd gormodol gan asiantau gosod.

Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:

ystyried ymhellach ffyrdd o fynd i'r afael â thaliadau gwasanaeth gormodol ac annheg, neu gynnydd heb gyfiawnhad mewn taliadau gwasanaeth, a gaiff eu gosod ar lesddeiliaid.

Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu, os yw Llywodraeth Cymru wedi llunio cyngor cyfreithiol yn awgrymu y byddai Bil ar wahardd ffïoedd gormodol asiantau y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad, y dylai'r cyngor hwn gael ei gyhoeddi.

Cynigiwyd gwelliannau 1, 3 a 4.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 5:40, 7 Rhagfyr 2016

Diolch yn fawr, Lywydd. Rydw i’n cynnig y gwelliannau. Rydw i hefyd yn datgan diddordeb fel mam i bedwar o bobl ifanc sydd wedi talu crocbris mewn ffïoedd gosod ar hyd y blynyddoedd.

Mae Plaid Cymru’n falch o gefnogi’r cynnig yma i wahardd ffïoedd gosod. Fel rydych chi’n gwybod, fe wnaethom ni gyflwyno gwelliannau i’r perwyl hwnnw yn ystod y drafodaeth ar y Bil rhentu tai, a, bryd hynny, fe gawsom ni ein cefnogi gan y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Ceidwadwyr yn ystod y ddadl honno. Mae’n amlwg o’r cynnig sydd gerbron heddiw, y buasai UKIP hefyd wedi cefnogi’r gwelliannau hynny, sy’n golygu mai’r unig blaid sydd ddim eto wedi ymrwymo’n gyhoeddus i wahardd ffïoedd asiantau gosod yw’r blaid Lafur. Ond, mae’r gwelliannau gan y Llywodraeth heddiw yn arwydd gobeithiol, a, gobeithio’n wir, erbyn diwedd y dydd heddiw, y byddan nhw hefyd yn cefnogi rhoi diwedd ar y ffïoedd tramgwyddus hyn. Rwy’n edrych ymlaen at weld hynny’n digwydd.

Mae gwelliant 1, felly, yn gresynu na fanteisiwyd ar y cyfle i wahardd y ffïoedd hyn yn gynharach. Nod ein hail welliant ni ydy ceisio ychwanegu at y cynnig a galw am ystyried ffyrdd o roi diwedd ar daliadau gwasanaeth eithafol ac annheg, neu godiadau mewn taliadau gwasanaeth lle mae pobl sydd yn dal prydles yn aml yn gorfod ei dalu. Felly, mae’r ail welliant yn ehangu’r maes. Mae’r taliadau hyn yn aml yn debyg eu natur i ffïoedd gosod eithafol yn yr ystyr bod y defnyddiwr eisoes wedi ei glou i mewn i drefniant tymor hir, heb fedru siopa o gwmpas, ac y bydd weithiau’n gorfod talu’n ddrud am wasanaeth sy’n aml jest ddim yn cael ei ddarparu. Gall codiadau mawr mewn ffïoedd hefyd greu anhawster wrth werthu fflat neu eiddo arall, sy’n golygu na all rhywun symud fel y maen nhw’n dymuno.

Mae’r gwelliant olaf yn ymwneud â’r stori a oedd yn y cyfryngau ychydig wythnos yn ôl, lle’r honnwyd bod y Llywodraeth wedi dweud wrth ei meincwyr cefn mai’r rheswm nad oedd am bleidleisio dros welliant Plaid Cymru i wahardd ffïoedd gosod oedd oherwydd bod yna gwestiynau cyfreithiol ynghylch cymhwysedd. Rŵan, nid dyna ydy’r ddadl a wnaed yn gyhoeddus gan y Llywodraeth ar y pryd, ac mae rhywun angen gofyn cwestiwn pam na ddefnyddiwyd y ddadl honno. Ond, mi oedd o’n rhan o batrwm cyffredinol gan y Llywodraeth i atal gwelliannau a deddfwriaeth a defnyddio dadleuon technegol nad oedd llawer o Aelodau Cynulliad mewn sefyllfa i graffu arnyn nhw na’u cwestiynu. Rydym ni, felly, o’r farn os ydy’r Llywodraeth yn dymuno defnyddio dadleuon cyfreithiol yn erbyn gwelliant neu Fil arfaethedig, yn hytrach na dadleuon o egwyddor, yna fe ddylai’r dadleuon cyfreithiol hynny gael eu cyhoeddi ymlaen llaw. Mi fyddai hynny wedyn yn rhoi digon o amser i bobl sydd, efallai, ddim yn cyd-fynd efo’r farn yna i gael y ddadl at ei gilydd ac i gael cyngor annibynnol.

Ond, i fod yn glir, mae Plaid Cymru yn bendant o’r farn bod gwahardd ffïoedd asiantau gosod yn rhywbeth y gall ac y dylai’r Siambr hon ddeddfu arno fo, a gobeithio bod y Llywodraeth, bellach, yn sylweddoli eu bod nhw wedi gwneud cam gwag mawr yn hyn o beth yn y gorffennol. Mae’n ddiddorol iawn gweld bod UKIP yn defnyddio’r Alban fel esiampl o arfer dda. Mae’n dangos, wrth gwrs, onid ydy, fod Llywodraethau datganoledig yn gallu bod yn llawer mwy goleuedig na’r wladwriaeth ganolog.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:45, 7 Rhagfyr 2016

Rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i gynnig yn ffurfiol gwelliant 2 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.

Gwelliant 2—Jane Hutt

Ym mhwynt 3, dileu is-bwyntiau (a) a (b) a rhoi yn eu lle:

(a) ystyried sut y gallai deddfwriaeth ar y maes hwn weithio yng ngoleuni tystiolaeth ar effaith dileu'r ffioedd hyn yn yr Alban a'r ymatebion i'r ymgynghoriad yn Lloegr.

(b) ymgynghori â'r pleidiau eraill yn y Cynulliad, a rhanddeiliaid, ar y ffordd orau ymlaen i Gymru.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Photo of Michelle Brown Michelle Brown UKIP

(Cyfieithwyd)

Byddwn yn ategu sylwadau fy nghyfaill Gareth Bennett ar yr anawsterau a grëwyd i denantiaid gan ffioedd a thaliadau. Nid yw materion tenantiaeth a ffioedd asiantaethau gosod tai wedi eu cyfyngu i ffioedd ar gyfer gwirio credyd a geirda cyn neu ar ddechrau’r denantiaeth, er hynny. Yn aml, ceir atodlenni o gostau sefydlog y cytunwyd arnynt ymlaen llaw ar gyfer toriadau, atgyweiriadau ac yn y blaen, a thaliadau eraill a godir yn ystod y denantiaeth, sy’n rhoi cyfle i asiantaethau gosod tai diegwyddor—a landlordiaid o ran hynny—gamfanteisio a chodi gormod ar denantiaid.

Mae Tenantiaid Cymru, sefydliad sy’n gweithredu fel llais ar ran tenantiaid yng Nghymru, yn rhoi enghraifft o atodlen ffioedd a thaliadau asiant gosod tai ar eu gwefan. Mae’n cynnwys rhai taliadau diddorol, gawn ni ddweud, megis: newid cyfleustodau—£25; newid tenant—25 y cant o’r rhent misol; ac adnewyddu contract, fel y soniodd Gareth Bennett—£50. Mae beth yn union y mae’r taliadau hyn yn eu cynnwys mewn gwirionedd o ran y gwaith neu’r gwasanaethau a ddarperir gan yr asiant gosod tai neu sut y cânt eu cyfiawnhau gan yr asiantaeth ei hun yn amheus. Efallai mai’r enghraifft orau o’r ffioedd yn yr enghraifft a ddarperir gan Tenantiaid Cymru yw ffi o £25 am ddychwelyd rhent a ordalwyd. Felly, os yw tenant yn gordalu rhent, codir tâl o £25 arnynt am y fraint o gael eu harian wedi’i ddychwelyd iddynt. Mae’n ymddangos yn rhyfedd iawn i mi. Yr atodlen enghreifftiol hon yw un o’r atodlenni gwaethaf o ffioedd a thaliadau a osodir gan asiantaethau gosod tai, neu rwy’n gobeithio hynny o leiaf, ac rwy’n siŵr fod llawer o asiantau nad ydynt mor awyddus i godi taliadau â’r hyn a geir yn yr atodlen honno.

Fodd bynnag, mae’r ffaith fod asiantaethau yn gallu codi taliadau o’r fath heb gael eu cosbi yn dweud llawer am gyflwr y sector rhentu preifat a’r angen dybryd i fynd i’r afael â chostau ychwanegol i denantiaid sy’n llesteirio neu’n eu rhwystro rhag symud i lety mwy addas. Dadleuwyd, yn enwedig gan sefydliadau masnach sy’n cynrychioli asiantaethau gosod tai ac asiantaethau gosod tai eu hunain, y bydd rhenti’n codi os yw’r ffioedd gosod hyn yn cael eu gwahardd. Nid yw’n ymddangos bod hynny’n wir yn ôl yr hyn sy’n digwydd yn yr Alban. Cyfeiriaf yr Aelodau at adroddiad Shelter, ‘End Letting Fees’, yn 2013, a ddaeth i’r casgliad nad oedd landlordiaid yn yr Alban, ar ôl i’r gwaharddiad ddod i rym yno, yn fwy tebygol o gynyddu rhenti na landlordiaid mewn mannau eraill yn y DU.

Hyd yn oed os yw gwahardd y ffioedd hyn yn arwain at godi rhenti, byddwn yn awgrymu, yn gyntaf, o leiaf y bydd y tenant yn talu ffioedd mewn ffordd haws. Bydd y ffioedd yn cael eu rhannu dros fisoedd yn hytrach na gorfod talu cannoedd o bunnoedd ymlaen llaw yn ychwanegol at y bond a’r rhent. Yn ail, mae landlordiaid mewn sefyllfa well i drafod ffioedd a thaliadau synhwyrol gydag asiantaethau gosod tai nag y mae eu tenantiaid, a bydd hynny’n cadw cynnydd yn y rhenti i lawr yn y lle cyntaf.

Gellir gweld arwydd o ba mor broffidiol yw’r ffioedd a’r taliadau hyn i asiantaethau gosod yn y ffordd y disgynnodd prisiau cyfranddaliadau asiantaeth gosod tai Foxtons yn yr oriau’n dilyn cyhoeddi gwaharddiad ar ffioedd yn Lloegr. Mae’n awgrymu, ar wahân i’r ffaith fod costau dilys yn cael eu trosglwyddo i denantiaid, fod y ffioedd a’r taliadau hyn yn ffynhonnell elw i asiantaethau gosod tai. O edrych ar rai o’r ffioedd a’r taliadau yn yr atodlen ffioedd a thaliadau y cyfeiriais ati’n gynharach, mae canran dda o elw i’w gael o’r costau sefydlog hynny i asiantaeth gosod tai ddiegwyddor. Er enghraifft, byddai tâl sefydlog o £400 am beiriant golchi a fyddai ond wedi costio £250 i landlord neu asiantaeth gosod tai osod un arall yn ei le yn arwain at gryn dipyn o elw.

Mae Rhentu Doeth yn debygol o roi mwy o eiddo rhent preifat yn nwylo asiantaethau gosod tai, felly nid yw’r gyfran o denantiaid yng Nghymru yr effeithir arnynt gan y ffioedd a’r taliadau hyn yn mynd i leihau’n fuan iawn. Bydd angen archwiliad manwl o weithrediad asiantaethau gosod tai yng Nghymru felly. Nid oes gennyf unrhyw wrthwynebiad i fentrau masnachol wneud cymaint o elw ag y dymunant gan bobl sydd â digon o rym bargeinio i ddiogelu eu hunain rhag talu gormod a chael eu hecsbloetio. Fodd bynnag, nid dyna’r sefyllfa y mae’r mwyafrif o denantiaid ynddi. Dau opsiwn yn unig sydd gan y rhan fwyaf o denantiaid: talu’r taliadau a bod â gobaith o gael y cartref y maent ei eisiau, neu wrthod talu ac aros lle y maent—os oes lle i fyw ganddynt eisoes, hynny yw. Yn y Siambr hon y ceir yr unig gymorth sydd ar gael i denantiaid yng Nghymru, a byddwn yn annog yr Aelodau i gefnogi’r cynnig. Diolch.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 5:50, 7 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Y bobl sy’n dioddef fwyaf o’r taliadau hyn i asiantaethau gosod tai yw’r rhai a fyddai, yn y gorffennol, wedi cael cartref mewn tŷ cyngor neu eiddo cymdeithas dai. Prinder tai cymdeithasol yn sgil y ddeddfwriaeth hawl i brynu a methiant i adeiladu cartrefi newydd yn lle’r tai hynny sydd wedi gyrru pobl sy’n gymwys i gael lwfans cyflogaeth a chymorth i mewn i’r sector rhentu preifat. Mae yna lawer o bobl agored i niwed mewn iechyd gwael, sy’n byw ar fudd-daliadau, yn cael eu gorfodi i symud bob blwyddyn, hyd yn oed os ydynt yn denantiaid di-fai. Rhaid talu’r ffi i’r asiantaeth gosod tai o’u lwfans cyflogaeth a chymorth—yr arian sydd i fod i gael ei ddefnyddio ar gyfer bwyd, gwres ac eitemau hanfodol eraill fel dillad. Felly, ni all fod unrhyw gyfiawnhad dros barhau â’r ffi hon, sy’n cael ei chodi gan asiantaethau gosod tai ar denantiaid a’r landlordiaid am yr un gwaith. Ar ben hynny, maent yn codi gormod lawer ar y tenantiaid am bethau nad ydynt yn costio cymaint â hynny mewn gwirionedd. Felly, yr unig reswm y gallant wneud hyn yw am mai marchnad y gwerthwr yw hi i raddau helaeth iawn. Rhaid mai’r ateb, felly, yw diddymu ffioedd asiantaethau gosod tai a sicrhau bod unrhyw ffioedd sydd angen eu codi yn cael eu codi ar y landlord. Yn union fel y mae’n digwydd gyda gwerthwyr tai sy’n prynu a gwerthu eiddo, y gwerthwr sy’n talu’r ffi. Felly, rwy’n gobeithio y gallwn ddatrys y mater hwn. Yn amlwg, rwy’n gobeithio y bydd lwc dda’n gwenu arnaf pan ddaw’n adeg i bleidleisio dros Filiau Aelodau unigol ym mis Ionawr, ac y caf fy newis er mwyn i mi allu cyflwyno Bil o’r fath. Ond rwy’n gobeithio y bydd pwy bynnag sy’n lwcus ar y diwrnod hwnnw hefyd yn ystyried y mater pwysig hwn.

Photo of David Melding David Melding Conservative 5:52, 7 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

A gaf fi groesawu’r ddadl hon gan UKIP a chymeradwyo’r araith agoriadol gan Gareth Bennett hefyd, a oedd yn dadansoddi’r sefyllfa bresennol yn effeithiol ac yn drylwyr iawn, ac roeddwn yn meddwl ei fod yn cyflwyno achos argyhoeddiadol iawn? Felly, rydym yn croesawu’r newid polisi hwn yn gyffredinol. Credaf ei bod yn bwysig adlewyrchu’r newid yn y gymdeithas. Erbyn hyn mae gennym genhedlaeth rent. Bydd yn cymryd amser hir i adeiladu’r nifer o dai sydd eu hangen arnom i ni effeithio ar gyflenwad a lleihau cost tai ar gyfartaledd, a fyddai’n sicr o fudd i’r cyhoedd sut bynnag y cyflawnir hynny—drwy adeiladu tai preifat neu gymdeithasol, neu gyfuniad o’r ddau fath o adeiladu. Felly, rwy’n croesawu’n fawr y ffaith fod y Canghellor wedi nodi’r pwnc hwn fel un sy’n deilwng o sylw ac wedi awgrymu gwaharddiad ar ffioedd asiantaethau gosod tai.

Nid wyf yn siŵr ei fod wedi cael ei grybwyll hyd yn hyn, ond yn y 10 neu 15 mlynedd diwethaf, bu cynnydd cyffredinol yn y taliadau a godir gan asiantaethau gosod tai. Hefyd, ychydig iawn o gysondeb a geir rhwng eu dulliau o weithredu, a soniodd un neu ddau o’r Aelodau am hyn. Mae’n ymddangos weithiau nad ydynt ond yn ymgais ar hap i gael tâl ychwanegol, ar adeg pan nad oes gan denant posibl fawr o bŵer, mewn gwirionedd, i wrthwynebu. Beth bynnag, o ran gweithrediad y farchnad, byddai’n well pe bai’r costau hyn yn cael eu talu gan y landlord, a all ofyn am y math mwyaf effeithiol o wasanaeth ac sydd mewn sefyllfa i fargeinio’n effeithiol. Rydym wedi clywed bod yna eisoes brofiad o sut y gallai’r diwygiad weithredu yn yr Alban, lle y maent wedi gwahardd y ffioedd. Ac er bod cynnydd cyffredinol wedi bod yn y rhenti yn—wel, hyd yn oed ers y cwymp ariannol, mae rhenti wedi codi, ond nid wyf yn credu bod tystiolaeth fod rhenti’r Alban wedi codi mwy na chyfartaledd y DU. Felly, byddai hynny’n awgrymu nad yw tenantiaid wedi gorfod ysgwyddo’r baich yn uniongyrchol yn sgil gwahardd ffioedd yr asiantaethau gosod tai. Mae’n ymddangos eu bod wedi cael eu hamsugno i raddau helaeth.

A gaf fi ddweud y byddwn yn ymatal ar y cynnig ei hun, a hynny’n unig er mwyn sbarduno’r newidiadau? Byddwn yn cefnogi’r holl welliannau heblaw am y gwelliant olaf, oherwydd nid wyf yn hollol siŵr lle rydym o ran y fraint sydd gan Lywodraethau mewn perthynas â chyngor cyfreithiol, ac maent angen cyngor cyfreithiol weithiau. Byddai hynny’n wir ar gyfer Llywodraeth y DU yn ogystal â’r Llywodraeth yma, felly byddwn yn ôl pob tebyg yn ymatal ar welliant 4, ond wedyn byddwn yn cefnogi’r cynnig, sut bynnag y caiff ei ddiwygio. Rydym yn gwneud hyn oherwydd credaf fod Llywodraeth Cymru yn iawn i geisio ymgynghori â’r rhanddeiliaid amrywiol ynglŷn â’r ffordd ymlaen. Ond rwy’n credu erbyn hyn fod yn rhaid i’r rhagdybiaeth gyffredinol fod o blaid diddymu’r ffioedd hyn. Diolch.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:55, 7 Rhagfyr 2016

Rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant.

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Lywydd. Diolch i’r cymrodyr am eu cyfraniadau. Mae Jenny Rathbone wedi bod yn hyrwyddo’r cynnig hwn ers misoedd lawer, ac mae hi’n parhau i wneud. Rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle i gael trafodaethau gyda hi ynglŷn â’r union fater hwn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dangos ei hymrwymiad cyson i fargen deg i denantiaid y sector preifat, gan gyflwyno Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn fwyaf diweddar a chyflwyno Rhentu Doeth Cymru, yn wir.

Lywydd, rydym yn mynd ar ôl asiantaethau a landlordiaid diegwyddor ac yn gweithio i godi safonau yn y sector. Nid yw’r ddadl hon yn ymwneud â phwy sy’n malio fwyaf am fuddiannau tenantiaid. Mae’n ymwneud ag un cynnig penodol, ac mae ei effeithiolrwydd eto i’w brofi. Mae’r Prif Weinidog eisoes wedi rhoi ei sicrwydd ein bod yn mynd ati i ystyried gwaharddiad ar ffioedd gosod i denantiaid a’r mater hwn, ac rwy’n hapus i gadarnhau hynny heddiw.

Cyn i mi barhau, mae’n werth nodi cyfraniad Sian Gwenllian heddiw, a oedd angen ychydig mwy o gig ar yr asgwrn o ran y manylion o bosibl. Rwy’n awyddus iawn i gydnabod bod Aelodau o bob plaid ar y cam hwn o ystyried y cynnig, ond byddai’r Aelod yn anghywir i feddwl bod y Ceidwadwyr mewn unrhyw ffordd wedi cefnogi’r Bil rhentu cartrefi. Yn wir, aethant ati i geisio’i atal. Maent wedi gweld y goleuni ynglŷn â ffioedd asiantaethau gosod tai; mewn gwirionedd, pleidleisiasant yn erbyn y ddeddfwriaeth a gyflwynwyd gennym yma yn y Siambr hon. Y ffaith arall y bydd yr Aelod yn dymuno’i hystyried o bosibl yw fy mod yn meddwl ei bod wedi awgrymu ein bod wedi rhannu cyngor cyfreithiol gyda meinciau cefn Llafur. Ni ddywedwyd hynny erioed, ac nid yw’n wir chwaith. Os nad oedd yr Aelod yn awgrymu hynny, rwy’n ymddiheuro, ond o’i geiriad, dyna a ddeallais o’i chyfraniad. Ond os yw hynny’n wir, yna rwy’n cydnabod hynny hefyd.

O ran y cynigion y credaf ein bod i gyd yn eu rhannu am rai o arferion asiantaethau gosod tai, bydd Rhentu Doeth Cymru yn gwella’r ffordd y cânt eu rhedeg, eu busnesau, gyda sancsiynau os nad ydynt yn gwneud hynny. Mae deddfwriaeth a gyflwynwyd drwy Ddeddf Diogelu Defnyddwyr 1987 yn golygu bod yn rhaid i asiantaethau gyhoeddi eu ffioedd ymlaen llaw, ond rwy’n ymwybodol o arolwg Shelter a gynhaliwyd hefyd, ac mae’n rhaid i ni edrych ar hyn yn fwy gofalus o ran yr hyn y mae’r ddeddfwriaeth yn ei ddweud.

Mae’r cynnig yn cyfeirio, yn gwbl briodol, at bryderon ynghylch yr effaith y gall ffioedd asiantaethau ei chael ar denantiaid ac mae’n argymell rhagor o ddeddfwriaeth. Rwy’n deall y meddylfryd sy’n sail i’r cynnig, ond mae yna ddau ddiffyg sylfaenol y mae’n rhaid i chi feddwl drwyddynt cyn i ni ddeddfu. Yn gyntaf, mae’n ymddangos ei fod yn awgrymu ein bod yn ystyried yr effaith ac yna’n symud ymlaen yn uniongyrchol ac yn gyflym iawn at y ddeddfwriaeth honno heb ystyriaeth bellach. Yr hyn sydd ei angen ar hyn o bryd yw ystyriaeth fanwl a gofalus iawn o brofiad mewn mannau eraill—yr Alban, er enghraifft—ac amcanion polisi yr ateb deddfwriaethol a gyflwynwyd. Yn yr un modd, mae angen i ni edrych yn ofalus iawn ar yr hyn sy’n cael ei gynnig ar gyfer Lloegr a’r sylfaen dystiolaeth sy’n sail i hynny hefyd.

Yn ail, mae’r cynnig yn awgrymu na ddylid trosglwyddo costau i denantiaid drwy godi rhent. Ceir trafodaeth ar wahân am ddichonoldeb rheolaethau rhent cynhwysfawr, ond mae hyn yn mynd ymhell y tu hwnt i’r cwestiwn o wahardd ffioedd asiantaethau i denantiaid. Felly, unwaith eto, rydych yn codi pwynt cymhleth yn yr un ddadl y credaf mewn gwirionedd y byddai wedi cael ei drafod yn well, efallai, ar achlysur ar wahân. Ond mae’n rhywbeth rydym yn ei ystyried yn ei gyfanrwydd, fel y mae’r cynnig yn awgrymu. Byddai’r argymhelliad i rwystro asiantaethau rhag cynyddu eu ffioedd i landlordiaid yn galw am system o derfynau wedi’u pennu gan y Llywodraeth ar ffioedd asiantaethau, ac mae’r asiantaethau gosod yn fusnesau. Gyda’i gilydd maent yn cyflogi miloedd o bobl mewn cymunedau ledled Cymru, ond rhaid i ni wneud yn siŵr, gyda deddfwriaeth, ein bod yn rheoli hynny’n iawn.

Am y rhesymau hyn, ni allaf gefnogi’r cynnig heddiw. Mae’r diffygion yng nghynigion UKIP yn dangos yr angen i ystyried y dystiolaeth a’r ymgynghoriad yn llawn cyn i ni symud at ddeddfwriaeth. Yn yr un modd, nid wyf yn gallu cefnogi gwelliant cyntaf Plaid Cymru, sy’n awgrymu y dylem fod wedi gweithredu heb dystiolaeth neu ystyriaeth lawn. Buaswn yn synnu os yw’r Aelod, a’r blaid, yn ystyried mai dyna yw eu safbwynt o ddifrif. Rydym bob amser yn barod i fyfyrio ar yr hyn sydd ar waith a chymryd camau pellach os yw’r dystiolaeth yn dangos bod mwy y gellir ei wneud. Mae tystiolaeth yn dod i’r amlwg yn awr o’r Alban, a dyma’r amser i benderfynu beth y dylem ei wneud yma yng Nghymru. Mae ein dull o weithredu wedi’i nodi yng ngwelliant y Llywodraeth. Mae angen i ni edrych yn ofalus iawn ar y dystiolaeth a gyflwynwyd. Cyflwynodd yr Alban ddeddfwriaeth yn gwahardd ffioedd asiantaethau gosod tai yn gyntaf yn 1984. Atgyfnerthwyd honno ganddi yn 2012, ac er bod y dystiolaeth o ymchwil Shelter yn awgrymu mai prin fu’r effaith ar lefelau rhent, mae tystiolaeth anecdotaidd arall yn awgrymu bod rhenti wedi codi, a cheir mwy fyth o straeon am asiantaethau sy’n dal i godi tâl ar denantiaid. Mae’n rhaid i ni edrych drwy hynny i weld a oes ateb i ni yma yng Nghymru. Ond rwy’n hapus i gynnig ein gwelliant heddiw.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:00, 7 Rhagfyr 2016

Galwaf ar Neil Hamilton i ymateb i’r ddadl.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Wel, mae hwn wedi bod yn un o’r achlysuron dymunol hynny lle y mae pawb yn cytuno’n fras, er fy mod yn gwybod am sawl achlysur o’r fath yn y gorffennol lle roedd pawb yn anghywir. Ond nid wyf yn credu bod hwn yn debygol o fod yn un ohonynt. Rwy’n ddiolchgar am y gefnogaeth a gynigiwyd gan y Blaid Geidwadol a chan Blaid Cymru. Gallaf ddweud ein bod ni, o’n rhan ninnau, yn derbyn gwelliannau Plaid Cymru i’n cynnig.

Roedd yn ddiddorol clywed pwynt Sian Gwenllian ynglŷn â sut y gallai seneddau datganoledig, weithiau, fod yn fwy goleuedig efallai na’r seneddau y daethant ohonynt. Gall y gwrthwyneb fod yn wir hefyd, ond rwyf o blaid cystadleuaeth, yn gyffredinol, ac felly os gallwn elwa o brofiad seneddau datganoledig eraill, mae’n beth da iawn. Felly, mae’n un o fanteision datganoli rwy’n hapus i’w dderbyn.

Cyfeiriodd Jenny Rathbone a fy nghyd-Aelod Michelle Brown at y ffaith mai marchnad y gwerthwr yw hi. Dyma ble y mae’r rhan fwyaf o’r broblem yn codi, wrth gwrs, mai gan yr asiantaethau gosod tai a’r landlordiaid i bob pwrpas y mae’r llaw uchaf ac nid oes gan y tenant bŵer bargeinio cyfartal, sy’n galluogi’r asiantaethau gosod tai i godi’r ffioedd hyn. Gobeithiaf y bydd Jenny Rathbone yn ffodus yn y balot i gael y Bil Aelod preifat hefyd. Gan fy mod yn gwybod ei bod wedi dadlau’n frwd dros y newidiadau arfaethedig hyn ers blynyddoedd lawer, byddai’n sicr yn rhywbeth i’w groesawu pe bai’n cael cyfle i gyflwyno mesur o’r fath.

Yn ystod y ddadl, cafodd rhai o’r cyhuddiadau mwy diegwyddor eu nodi’n eithaf manwl, ac mae’n eithaf amlwg eu bod yn hollol anamddiffynadwy. Gwnaeth Michelle Brown gyfraniad gwerthfawr iawn i’r ddadl yn hynny o beth, rwy’n credu. Felly, mae’n ymddangos bod cytundeb eang ar yr egwyddor gyffredinol. Gallaf ddeall agwedd y Llywodraeth yn dymuno edrych ar brofiad o ddeddfwriaeth o’r fath mewn mannau eraill, yn amlwg, a’r cynigion fel y maent yn mynd i gael eu cyflwyno yn Lloegr. Mae rhwymedigaeth gyfreithiol i ymgynghori, yn amlwg, cyn y cyflwynir mesurau o’r fath, ond rydym yn awyddus i bwysleisio ein cred fod hwn yn fater brys y mae angen ymdrin ag ef.

Felly, os ydym yn pleidleisio yn erbyn y gwelliant Llafur heddiw, nid yw’n golygu ein bod yn credu bod y Llywodraeth yn afresymol yn cynnig yr hyn y mae’n ei wneud, ond yn hytrach am ein bod am danlinellu’r angen i fwrw ymlaen â’r gwaith cyn gynted â phosibl. Rwy’n gobeithio y byddwn yn gallu datrys y dolur llidus hwn, sy’n effeithio ar y mwyaf bregus mewn cymdeithas. Dylem fod yn ofalus, wrth gwrs, rhag peri i’r farchnad dai grebachu, ac felly ni ddylem fynd ar hyd y llwybr cyffredinol o reoli rhenti, ond rwy’n credu y dylid gwneud ffioedd diegwyddor o’r mathau hyn yn anghyfreithlon mor fuan â phosib.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:04, 7 Rhagfyr 2016

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio, felly.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.