Part of the debate – Senedd Cymru am 6:19 pm ar 7 Rhagfyr 2016.
A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ymateb i’r datganiad heddiw hefyd? Ac a gaf fi fynegi fy llongyfarchiadau, yn sicr, i’r undebau llafur am ddod â hyn i ben ychydig cyn y Nadolig, beth bynnag, a rhoi rhywfaint o gysur o leiaf?
Ond rwy’n rhannu pryderon Adam Price a David Rees o ran pa ffydd y dylem ei roi yn yr ymrwymiadau y mae Tata Steel wedi eu rhoi heddiw. Yr adeg hon yr wythnos diwethaf roeddem yn sefyll yma’n gofyn cwestiynau i chi ynglŷn â’r hyn roeddech yn ei feddwl o’r ymrwymiadau roedd Tata Steel yn gallu eu rhoi ac ar y pryd, fe sonioch nad oeddech, yn ddealladwy, yn barod i ymateb i ddyfalu yn y wasg, ac rwy’n parchu hynny, ond a allwch roi syniad i ni i ba raddau y cawsoch chi—neu’r Prif Weinidog o leiaf—eich cynnwys yn rhan o’r hyn sydd wedi bod yn digwydd yn ystod yr wythnos ddiwethaf? Rwy’n sylweddoli y gallai rhywfaint o’r wybodaeth honno fod wedi cael ei rhoi’n gyfrinachol ac ni ddylid ei rhannu o reidrwydd, ond rwy’n meddwl y byddem i gyd yn hoffi rhywfaint o sicrwydd nad oes neb yn y Llywodraeth wedi cael ei gau allan rhag cymryd rhan lawn yn y sgwrs sydd wedi bod yn digwydd yn ystod yr wythnos ddiwethaf, os nad yn hwy na hynny.
Yn ail, i fynd yn ôl at y pwynt a wnaeth Adam Price—oherwydd yn amlwg, mae yna wahaniaeth yma rhwng pum mlynedd a 10 mlynedd. Er fy mod yn deall parodrwydd Llywodraeth Cymru i ymrwymo i gyfnod penodol o amser yn unig ar hyn, efallai y byddwch yn cofio cwestiynau rwyf wedi eu gofyn o’r blaen am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn gallu ei wneud o ran diogelu’r pwrs cyhoeddus yn erbyn y posibilrwydd y caiff yr amodau eu torri, nid gan Tata o reidrwydd, ond gan brynwyr yn y dyfodol neu yn sgil uno, yn yr achos hwn. Mae pawb ohonom wedi mynegi ein pryderon am ThyssenKrupp yma yn y gorffennol.
Nawr, rwy’n sylwi yn eich datganiad heddiw, a welais yn weddol ddiweddar, y bydd y pecyn ehangach—y £4 miliwn hwn rydych yn ei ryddhau—yn amodol ar gytuno ar fanylion yr amodau sy’n rhwymo mewn cyfraith. Byddwn yn ddiolchgar, yn gyntaf oll, pe baech yn cadarnhau pwy fydd yn cael eu rhwymo’n gyfreithiol gan yr amodau hynny, oherwydd mae posibilrwydd bob amser fod y trefniant hwn—yn y 10 mlynedd nesaf, gallai Port Talbot, yn arbennig, fod yn destun opsiwn gwerthu arall eto. Yn ail, i ba raddau y byddwch yn gallu rhyddhau manylion yr amodau hynny i ni fel Aelodau’r Cynulliad? Rwy’n cydnabod y bydd gan gyfrinachedd masnachol ran i’w chwarae yma, ond gan gadw mewn cof yn arbennig yr hyn a grybwyllodd David Rees ar fater ymddiriedaeth yn gynharach, ni fuaswn yn hoffi meddwl bod hynny’n cael ei ddefnyddio fel esgus dros beidio â rhannu’r hyn a allwch yn gyfreithiol gyda ni. Diolch.