<p>Lleddfu’r Tagfeydd Traffig ar y Ffyrdd yng Nghanol De Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 13 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 1:30, 13 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb. Fel y byddwch yn sicr yn ymwybodol, mae datblygiadau tai mawr wedi’u cynllunio ar gyfer cyrion Caerdydd, a fydd, heb amheuaeth, yn cynyddu tagfeydd traffig ar y ffyrdd yn ystod y blynyddoedd nesaf. Wrth gwrs, rydym ni’n obeithiol y bydd metro de Cymru yn cyrraedd yn y pen draw. Ond, yn y tymor canolig, a oes unrhyw gamau y gallai'r Llywodraeth yma eu cymryd i liniaru unrhyw gynnydd posibl i dagfeydd ar y ffyrdd, a allai o bosibl droi Caerdydd yn faes parcio enfawr, fel y mae defnyddwyr ffordd yn ei ddweud yn gynyddol?