<p>Lleddfu’r Tagfeydd Traffig ar y Ffyrdd yng Nghanol De Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 13 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:31, 13 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, mater i’r awdurdod lleol, wrth gwrs, yw sicrhau, pan fydd datblygiad, bod adran 106 yn cael ei defnyddio i'w heithaf ac y gellir defnyddio’r ardoll seilwaith cymunedol i wneud yn siŵr y gellir darparu seilwaith lle ceir datblygiad. A byddwn yn disgwyl i unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru allu gwneud hynny. Ac, wrth gwrs, bydd y metro, ymhen amser, yn gallu ymestyn ei gyrhaeddiad i rannau o'r ddinas ac, yn wir, y tu hwnt, lle nad oes cyswllt rheilffordd trwm a lle byddai rheilffordd ysgafn, er enghraifft, yn gwneud synnwyr perffaith o ran symud pobl o gwmpas.