<p>Lleddfu’r Tagfeydd Traffig ar y Ffyrdd yng Nghanol De Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 13 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Neil McEvoy Neil McEvoy Plaid Cymru 1:32, 13 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Brif Weinidog, yn Ewrop, mae 460,000 o bobl yn marw cyn pryd bob blwyddyn o lygredd aer. 6.5 miliwn yw’r ffigur yn fyd-eang. Yng Nghymru, mae miloedd yn marw bob blwyddyn, ac mae Sefydliad Iechyd y Byd yn rhestru Caerdydd fel un o'r ardaloedd gwaethaf o ran llygredd aer. Nawr, mae cynlluniau Llafur ar gyfer Caerdydd yn cynnwys rhoi 10,000 o geir ychwanegol ar y ffyrdd. Felly, sut mae hyn yn cyd-fynd ag amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, gan gymryd i ystyriaeth y bydd y 10,000 o geir ychwanegol hynny yn chwythu mygdarthau gwenwynig ar fy etholwyr?