Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 13 Rhagfyr 2016.
Wel, rwy’n llawn ddisgwyl, fel y dywedais yn gynharach, y dylai unrhyw ddatblygiad gynnwys y defnydd mwyaf posibl o gytundebau adran 106 a’r ardoll seilwaith cymunedol er mwyn gwneud yn siŵr bod cysylltiadau trafnidiaeth cynaliadwy yn cael eu sefydlu i’r datblygiadau hynny. Mae'n gywir i ddweud bod y dyddiau pan yr oedd datblygiad yn cael ei yrru yn gyfan gwbl gan y car wedi dod i ben, ac mae'n bwysig bod pob awdurdod lleol yng Nghymru yn gallu, neu yn ystyried dewisiadau trafnidiaeth cynaliadwy, wrth i ddatblygiad ddigwydd.