Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 13 Rhagfyr 2016.
Ynglŷn â’r broses Brexit, mae dau beth sy’n hollbwysig fan hyn, sef, yn gyntaf, dim lleihad ym mhwerau’r sefydliad hwn ac, wrth gwrs, sicrhau bod y pwerau sydd ar hyn o bryd ym Mrwsel yn cael eu trosglwyddo i’r sefydliad hwn ac i bobl Cymru hefyd. A dyna’r egwyddorion yr ydym yn parhau i’w dilyn trwy’r siarad a’r drafodaeth rydym yn eu cymryd ymlaen gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig.