<p>Datblygiadau Cyfansoddiadol</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 13 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 1:36, 13 Rhagfyr 2016

A gaf i ddechrau drwy ddiolch i’r Prif Weinidog am barhau â’r trafodaethau rhwng ei blaid yntau a Phlaid Cymru ynglŷn â dyfodol cyfansoddiadol Cymru, ac yn benodol am y cyfarfod a gawsom ni ddoe? Rydym ni’n edrych ymlaen at weld y gwelliannau a fydd gerbron Tŷ’r Arglwyddi ynglŷn â Bil Cymru, i sicrhau’r broses hon.

Ond, hoffwn i godi mater arall gydag e heddiw, mater sy’n ymwneud â Senedd arall. Mae llywydd Senedd Catalwnia yn wynebu achos llys yn Sbaen am ganiatáu trafodaeth ar ddyfodol cyfansoddiad Catalwnia—hynny yw, caniatáu trafodaeth yn Senedd Catalwnia am annibyniaeth. Nawr, rydym ni i gyd yn gwybod bod Sbaen yn sensitif iawn ynglŷn â’r cwestiwn o annibyniaeth, ond, mewn gwlad ddemocrataidd, fel rydym ni wedi’i weld yn yr Alban ac fel rydym ni’n gweld fan hyn yng Nghymru hefyd, mae trafodaeth am ddyfodol cenedl yn hollbwysig i ddangos bod cenedl yn gallu symud ar y broses yna, gam wrth gam, gyda’i gilydd. A fyddwch chi, felly, yn gallu codi’r materion hyn gyda Llywodraeth San Steffan, gan fynegi pryder bod llywydd Senedd yn wynebu achos llys am ganiatáu trafodaeth mewn senedd?