<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 13 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:40, 13 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

[Anghlywadwy.]—ydw, rwy’n cymeradwyo'r cytundeb. Rwy'n credu ei fod yn gytundeb da iawn, o'i gymharu’n benodol â’n sefyllfa yn y gwanwyn, pan roedd y sefyllfa yn arbennig o lwm i ddur—y cynhyrchu dur pen trwm ym Mhort Talbot. Ac mae'n deyrnged i'r holl waith caled sydd wedi cael ei wneud gan lawer iawn o bobl ein bod ni mewn sefyllfa nawr lle gall Port Talbot yn enwedig edrych i’r dyfodol. Ac yn sicr, rwy’n meddwl bod y cytundeb hwn yn gytundeb y gallaf ei gymeradwyo’n bendant, ac yn gytundeb a all gynnig dyfodol i'r gwaith dur.