Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 13 Rhagfyr 2016.
Diolch, Lywydd. Ar ddiwedd y flwyddyn, mae'n adeg pryd y gallwn ni edrych yn ôl ar y 12 mis diwethaf ar yr hyn yr ydym ni wedi ei gyflawni, neu nad ydym, pa un bynnag sy’n wir. Ac rwy’n meddwl tybed a all y Prif Weinidog, yn gwbl onest, ddweud wrthym ni heddiw beth y mae'n credu y bu methiant mwyaf ei Lywodraeth. Ai mewn ysgolion, lle mae'r canlyniadau PISA wedi dangos mai Cymru yw’r gwaethaf yn y DU unwaith eto; ai yn y gwasanaeth iechyd, lle mae hanner ein byrddau iechyd naill ai’n destun mesurau arbennig neu ymyrraeth wedi'i dargedu; neu ai tlodi yng Nghymru yn gyffredinol, oherwydd, ar ôl bod yn ail o waelod tabl incwm gwledydd a rhanbarthau'r Deyrnas Unedig pan ddaeth Llafur i rym bron i 20 mlynedd yn ôl, rydym ni ar waelod y domen erbyn hyn?