Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 13 Rhagfyr 2016.
Wel, rwy’n ddiolchgar am y ganmoliaeth, er mai dim ond yn ymhlyg oedd hi. Ond, o ran addysg, mae adroddiad PISA yn dweud na all 21 y cant o fyfyrwyr 15 oed ddarllen yn ddigon da i gymryd rhan yn effeithiol ac yn gynhyrchiol mewn bywyd, na all 23 y cant ddatrys problemau a wynebir yn rheolaidd gan oedolion yn eu bywydau bob dydd gan na allant gyfrif, a dyma’r bedwaredd set o ganlyniadau PISA y mae Cymru wedi perfformio'n waeth ynddynt nag unman arall yn y Deyrnas Unedig. Cymru a'r Alban yw'r unig rannau o'r DU sydd wedi gwaethygu yn ystod y degawd diwethaf. Onid dyna fethiant gwirioneddol ei Lywodraeth?