Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 13 Rhagfyr 2016.
Byddwn yn dychwelyd at hyn yn y man, rwy’n siŵr. Ond heb ddymuno difetha llymder hynaws ein trafodaethau wythnosol, a gaf i ei ganmol ef ar y steil a'r craffter, y ddawn a’r medrusrwydd y mae weithiau’n eu dangos wrth ateb fy nghwestiynau, ac yn amlach wrth eu hochrgamu? Ar ôl blynyddoedd lawer mewn sefyllfa debyg ym myd gwleidyddiaeth, mae'n cymharu'n dda iawn â'r holl wrthwynebwyr yr wyf i wedi eu hwynebu ar draws y blwch dogfennau. Dymunaf yn dda iddo ar gyfer y flwyddyn nesaf, a gobeithiaf y bydd ei Lywodraeth yn fwy llwyddiannus nag y mae wedi bod yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.