Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 13 Rhagfyr 2016.
Gallaf. Rwy'n credu fy mod i’n agosach at ei safbwynt hi fel arweinydd Plaid Cymru, mewn gwirionedd, nag unrhyw un arall. Dywedodd hi a minnau rywbeth tebyg iawn yr wythnos diwethaf, sef y dylai fod rhyddid i symud at ddibenion gwaith. Gwnaeth hi’r pwynt ar ryddid i symud i chwilio am waith o fewn cyfnod penodol o amser. Rwy'n credu bod rhinwedd yn hynny. Mewn gwirionedd, dyna mae'r rheoliadau Ewropeaidd yn ei ddweud, os edrychwch chi arnynt gyda’r dehongliad llymaf. Nid wyf yn credu bod ganddi hi a minnau safbwynt gwahanol iawn pan ddaw i ryddid i symud.