<p>Gwasanaethau Rhewmatoleg </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 13 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 2:13, 13 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Ymddiheuraf am gwestiwn tebyg, ond, Brif Weinidog, gyda thua 400,000 o blant yn byw yn y de, mae'r ffaith bod y rhanbarth yn dal i fod heb wasanaeth rhewmatoleg pediatrig amlddisgyblaeth pwrpasol yn ddychrynllyd. Ar hyn o bryd, mae gwasanaethau yn cael eu darparu yn rhan amser gan riwmatolegydd oedolion, ond nid oes rhwydwaith clinigol ffurfiol na mewnbwn amlddisgyblaeth digonol. Pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i sefydlu gwasanaeth rhewmatoleg pediatrig trydyddol yn y de?