Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 13 Rhagfyr 2016.
Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Yn ddiweddar, ymwelais â mosg Jamia yng Nghasnewydd, sef y mwyaf yng Nghymru ar hyn o bryd, gyda chyfarwyddwr y Prince’s Trust Cymru, Mr Philip Jones, i godi ymwybyddiaeth am y gwaith y mae’r ymddiriedolaeth yn ei wneud i helpu pobl ifanc yn y cymunedau mwyaf difreintiedig i wireddu eu potensial yn eu bywydau. Gan fod eich Llywodraeth yn cael gwared yn raddol ar y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf, a wnewch chi hysbysu’r Cynulliad pa ystyriaeth yr ydych chi’n ei rhoi i ddefnyddio rhaglenni sefydliadau fel y Prince’s Trust Cymru, sydd â hanes profedig o lwyddiant mawr o ran lliniaru tlodi parhaus yng Nghymru, i fodloni amcanion gwrthdlodi Llywodraeth Cymru?