Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 13 Rhagfyr 2016.
Rydym ni’n edrych ar ffyrdd newydd o weithio ac yn gweithio gyda sefydliadau sydd â phrofiad llwyddiannus ar lawr gwlad heb golli, wrth gwrs, yr arbenigedd a ddatblygwyd eisoes dros y blynyddoedd trwy Cymunedau yn Gyntaf. Mae'n galonogol gweld bod nifer yr aelwydydd sydd mewn tlodi wedi gostwng yng Nghymru am y tro cyntaf ers cryn amser. Mae hynny'n arwydd bod yr hyn yr ydym ni’n ei wneud o ran galluogi pobl i gael y sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer y dyfodol, o ran denu buddsoddiad i Gymru, yn dechrau dwyn ffrwyth.