Part of the debate – Senedd Cymru am 5:52 pm ar 13 Rhagfyr 2016.
Diolch yn fawr, Lywydd. Bydd Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2016, y gofynnir i’r Aelodau eu cymeradwyo heddiw, yn darparu ar gyfer rhyddhad ardrethi trosiannol i fusnesau bach y mae ailbrisio trethi annomestig 2017 yn effeithio arnyn nhw. Mae angen y rheoliadau hyn i sicrhau bod y £10 miliwn a gyhoeddwyd at y diben hwn ar 30 Medi yn cyrraedd y buddiolwyr y bwriedir eu cyrraedd. Cafodd yr ailbrisiad ei hun ei gyflawni gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, sef y corff statudol sy'n gyfrifol am asesu a dyrannu gwerthoedd ardrethol yng Nghymru a Lloegr. Mae'r swyddfa ar wahân i Lywodraeth Cymru ac mae’n gwbl annibynnol wrth gyrraedd ei gasgliadau prisio. Gan fod yn rhaid i'r ailbrisio fod yn niwtral o ran refeniw, mae'n ailddosbarthu'r ardrethi sy'n daladwy rhwng eiddo ar sail eu gwerthoedd cymharol ar adeg yr ailbrisio. Yn anochel, golyga hyn fod rhai gwerthoedd ardrethol yn codi ac eraill yn disgyn, ac, mewn rhai ardaloedd, mae’r effaith yn waeth yn sgil hyd yr amser ers yr ailbrisio diwethaf.
Fel Llywodraeth, rydym yn cydnabod y gall y newidiadau hyn olygu mwy o gostau i fusnesau bach, yn enwedig y rhai y gallai eu hawl i ryddhad ardrethi busnesau bach leihau o ganlyniad i'r ailbrisio. Felly, mae ein cynllun rhyddhad trosiannol gwerth £10 miliwn yn cael ei dargedu'n benodol at y busnesau bach hynny, sy’n eu caniatáu i gyflwyno unrhyw gynnydd i rwymedigaeth yn raddol dros gyfnod o dair blynedd. Bydd y cynllun hwn sy’n werth £10 miliwn yn rhoi cymorth ychwanegol i fwy na 7,000 o drethdalwyr.
Lywydd, bydd y cynllun yn cael ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru, a chefnogwyd y cynllun hwnnw gan nifer o randdeiliaid allweddol mewn ymateb i'n hymgynghoriad. Ar y llaw arall, mae'r rhyddhad trosiannol sy’n cael ei weithredu gan Lywodraeth y DU yn Lloegr yn cael ei ariannu'n gyfan gwbl gan y trethdalwyr eu hunain. Pan fydd y cynllun rhyddhad trosiannol neu’r rhyddhad ardrethi busnesau bach gwerth £100 miliwn a gostyngiadau gorfodol a dewisol eraill yn cael eu hystyried, bydd gwerth £200 miliwn o gymorth ariannol yn cael ei ddarparu at y dibenion hyn yn 2017-18. Bydd hyn o fudd i fwy na thri chwarter yr holl drethdalwyr yng Nghymru.
Nawr, rwy’n deall bod llawer o’r Aelodau yma wedi gofyn am ragor o gymorth y tu hwnt i'r £10 miliwn sydd wedi ei gynnwys yn y rheoliadau hyn. Byddwch chi wedi clywed yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog yn gynharach y prynhawn yma bod y mater hwn yn parhau i gael ei ystyried. Mae angen i mi fod yn glir, Lywydd, nad yw dim o hynny’n berthnasol i'r rheoliadau hyn. Maen nhw’n cyfeirio at y cynllun a gyhoeddwyd ar 30 Medi ac, os nad yw’r rheoliadau hyn yn cael eu pasio ni fydd y cymorth hwnnw ar gael.
Gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau hyn heddiw fel y gall y rhyddhad trosiannol gwerth £10 miliwn gael ei ddarparu i fusnesau bach yng Nghymru o 1 Ebrill y flwyddyn nesaf.