Part of the debate – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 13 Rhagfyr 2016.
Hoffwn innau ddiolch i weithwyr proffesiynol a phartneriaid am y rhan y maent wedi’i chwarae wrth gyd-gynhyrchu drafft gweithio nesaf y cod anghenion dysgu ychwanegol. Mae rhaglen helaeth o waith wedi ei gwneud i ddatblygu’r drafft a gyhoeddwyd gennym ym mis Medi 2015. Ddirprwy Lywydd, byddaf yn rhyddhau’r drafft hwn ym mis Chwefror 2017 yn y gobaith y gall gynorthwyo â’r gwaith o graffu ar y Bil. Ar yr un pryd, rwy’n bwriadu cyhoeddi dewisiadau ymgynghori ar gyfer cyflwyno'r system statudol newydd. Mae nifer o ffyrdd y gallwn gyflwyno'r system newydd, a hoffwn sicrhau bod manteision y dull newydd ar gael yn amserol, gan sicrhau bod yr amserlen yn realistig ac yn ymarferol i bartneriaid cyflawni. Felly, hoffwn glywed eu barn nhw am y dulliau yr ydym yn eu defnyddio.
Rydym wedi bod yn glir o'r cychwyn cyntaf ein bod yn cydnabod y bydd symud o'r system bresennol i'r system newydd yn heriol. Byddwn yn gofyn llawer gan bartneriaid cyflenwi, ond bydd ganddynt ein cefnogaeth lwyr. Mae ein grŵp gweithredu strategol ar anghenion dysgu ychwanegol eisoes wedi’i sefydlu ac mae eisoes yn gweithio ar ddulliau ymarferol o ateb yr her o bontio’n effeithiol. Byddwn hefyd yn darparu pecyn sylweddol o gymorth ariannol. Mae hyn eisoes wedi dechrau; mae cronfa arloesi gwerth £2.1 miliwn ar waith ar gyfer y ddwy flynedd nesaf. Byddaf yn dweud mwy am ein bwriadau ynghylch y cyllid pontio y flwyddyn nesaf.
Er bod y ddeddfwriaeth yn darparu'r fframwaith statudol ac yn ysgogi newid, ni all fod ac ni ddylai fod y stori gyfan. Dyna pam mae'r Bil yn rhan o raglen ehangach sydd â’r nod o drawsnewid y system anghenion dysgu ychwanegol i sicrhau dyfodol llwyddiannus i’n holl ddysgwyr. Mae ein rhaglen drawsnewidiol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol yn cynnwys cyfres gynhwysfawr o ffrydiau gwaith sydd â’r nod o gyflwyno gwelliannau i ymarfer nawr, heddiw, er budd i ddysgwyr o fewn y system bresennol, ac un agwedd sylfaenol ar hynny yw datblygu'r gweithlu. Ond mae angen inni hefyd wneud y newidiadau diwylliannol a gweithredol sydd eu hangen i sicrhau y rhoddir y system newydd ar waith yn effeithiol, gan gynnwys datblygu arferion gweithio aml-asiantaeth. Mae'n bwysig cofio nad yw’r diwygiadau hyn yn fater ymylol. Byddant yn effeithio'n uniongyrchol ar chwarter y dysgwyr yng Nghymru, a bydd yr effaith yn ymestyn y tu hwnt i hyn. Mae gwneud pethau'n iawn i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yn golygu gwneud pethau'n iawn i bawb. Felly, bydd y gwelliannau y bydd y Bil a'r diwygiadau ehangach yn helpu i’w cyflwyno yn arwain at well canlyniadau i bob un o'n dysgwyr.
Mae hefyd yn wir na ellir cyflawni'r diwygiadau i’r system ehangach, fel y weledigaeth a nodwyd yn 'Cwricwlwm i Gymru', oni bai bod gennym system, a gweithlu, sy'n cofleidio addysg gynhwysol ac yn cyflawni ar gyfer pob dysgwr ym mhob lleoliad. Mae hyn yn fater o wella’r system gyfan. Mae'n un o gonglfeini ein rhaglen uchelgeisiol o ddiwygio addysg yng Nghymru. Felly, byddwn nawr yn symud i gyfnod newydd gyda’r diwygiadau hyn. Rwyf am barhau â'r ddadl, ond rwyf hefyd am symud y drafodaeth yn ei blaen. Rwyf wedi egluro fy mwriad i weithio ar y cyd ac ar draws pob plaid yn y lle hwn heddiw. Hoffwn gael Deddf dda, ac nid Bil cyflym. Mae gennym ddyletswydd i ddarparu'r fargen orau ar gyfer ein dysgwyr mwyaf agored i niwed. Dyna’r her inni i gyd, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda'n gilydd i’w chyflawni. Diolch yn fawr iawn.