4. 3. Datganiad: Y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 13 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:38, 13 Rhagfyr 2016

A gaf i ddiolch i’r Gweinidog am ei ddatganiad a chroesawu’r ffaith bod y Bil wedi cael ei osod yr wythnos yma, a hefyd datgan diddordeb fel llywodraethwr ysgol, oherwydd mae yna gryn ddyletswyddau yn cael eu gosod ar fyrddau llywodraethwyr, wrth gwrs, yn y Bil yma? A gaf i hefyd ddweud fy mod yn cytuno mai cael Deddf dda, nid Bil cyflym, sydd yn bwysig yn hyn o beth, er, wrth gwrs, ei bod hi’n hen bryd, rwy’n credu, i ni fod wedi cyrraedd y pwynt yma ar ôl blynyddoedd lawer o gydnabod nad yw’r gyfundrefn bresennol efallai ddim yn ffit nac yn addas at y diben?

Mae Plaid Cymru yn cefnogi amcanion y Bil yma fel rŷch chi wedi eu hamlinellu yn eich datganiad. Mi oedd y Bil, wrth gwrs, yn ein maniffesto etholiadol ni, ac mi oedd e hefyd yn rhan o’r cytundeb a wnaethom ni gyda Llafur ar ôl yr etholiad ym mis Mai. Felly, mae sicrhau deddfwriaeth newydd ar anghenion dysgu ychwanegol yn flaenoriaeth i ni, ond, wrth gwrs, nid unrhyw ddeddfwriaeth, ac mi fyddwn ni, fel pob plaid arall, yn craffu ar y Bil ar ei daith drwy’r Cynulliad yma er mwyn sicrhau bod gennym ni yn y pen draw ddeddfwriaeth gref a phwrpasol a fydd yn gwneud gwahaniaeth real a phositif i addysg a bywydau rhai ag anghenion dysgu ychwanegol.

Nawr, mae’r Bil, wrth gwrs, yn rhoi dyletswydd ar gyrff iechyd, ac mae hynny wedi bod yn destun trafodaethau o safbwynt y Bil drafft blaenorol ac yn y blaen, ond, yn y Bil sydd wedi’i osod, rŷch chi’n sôn am ddyletswydd i orfod sicrhau triniaeth neu wasanaeth i blentyn neu berson ifanc pan fo hwnnw’n angenrheidiol ac ar gael, ond a allwch chi roi eglurder i ni a fydd hynny ar gost y gwasanaeth iechyd, neu’r ysgol drwy’r bwrdd llywodraethwyr, neu’r awdurdod addysg? A allwch chi ymhelaethu ynglŷn â sut fydd y cwestiwn yma o pwy sy’n talu yn cael ei ateb o dan y Bil? Achos mae yna bwysau mawr ar gyllidebau ysgolion, fel sydd yna ar draws y sector gyhoeddus, a’r gofid yw y gallai hwn fod yn destun anghydfod pan fo’n dod i ddarparu gwasanaethau. Ac a oes yna risg, Weinidog, yn eich barn chi, oherwydd y diffyg adnoddau sydd yna, y bydd y trothwy ar gyfer ymyrraeth neu gefnogaeth ychwanegol yn codi’n uwch ac yn uwch er mwyn osgoi gwariant? Sut y mae’r Bil yn taclo’r risg yna? Hynny yw, beth sydd yna yn y Bil fydd yn gwarchod yn erbyn y risg honno?

Nawr, mae’r Bil hefyd, wrth gwrs, yn creu swyddogion cydlynu anghenion dysgu ychwanegol—cryn gyfrifoldeb i un person, o bosib—a hynny’n gofyn am ystod o sgiliau a phrofiadau perthnasol. Ac rŷch chi, o bosib, yn mynd i ddweud wrthyf i na fydd hynny yn wahanol iawn i’r SENCOs presennol o ran rhai o’r dyletswyddau hynny, ond, yn adran 54 yn y Bil sydd wedi ei osod, rŷch chi’n dweud y bydd rheoliadau’n cael eu creu i’w gwneud hi’n ofynnol fod gan y cydlynyddion yma gymwysterau rhagnodedig neu brofiad rhagnodedig neu’r ddau. Nid yw’r rheoliadau hynny, wrth gwrs, wedi cael eu llunio ar hyn o bryd, ond a ydych chi’n rhagweld newid o safbwynt y cyfrifoldebau hynny o’u cymharu â’r SENCOs presennol? A ydych chi’n credu y bydd angen lefel uwch o sgiliau, lefel uwch o brofiad? Sut y bydd hynny’n cael ei ddarparu, os felly, a sut y bydd hynny’n cael ei ariannu? Oherwydd mae athrawon yn poeni, yn sgil y Bil yma, wrth gwrs, y bydd baich ychwanegol sylweddol yn cwympo ar eu hysgwyddau nhw.

Mae’n dda gweld bod yna elfennau wedi eu cryfhau o ran eiriolaeth yn y Bil, a hefyd yr hawl i gyngor a mynediad at wybodaeth; mae hynny’n sicr i’w groesawu. O safbwynt darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae hyn yn rhywbeth a oedd wedi cael sylw yn y cyfryngau neithiwr, rydw i’n gweld yn y Bil y dylid bod yn cymryd pob cam rhesymol—dyna’r dyfyniad—i sicrhau darpariaeth dysgu ychwanegol trwy’r Gymraeg. Nawr, mae pawb yn derbyn, wrth gwrs, fod prinder ymarferwyr mewn rhai meysydd ac na fydd hi’n hawdd cyflawni hynny, ond a allwch chi ymhelaethu ar eich cynlluniau chi i sicrhau y bydd y gweithlu addas yn ei le, ac nid dim ond mewn iaith benodol? Rydym ni’n gwybod bod seicolegwyr addysgiadol, ac yn y blaen, yn frid prin iawn, ynghyd, efallai, â nifer o ddisgyblaethau eraill, ond, yn arbennig, felly, hefyd, sut y gallwn ni sicrhau bod mwy o siaradwyr Cymraeg ar gael i sicrhau’r ddarpariaeth yma? A wnewch chi, efallai, ystyried, o safbwynt y Bil, fod iaith yn angen fel egwyddor sylfaenol ar wyneb y Bil, a, thrwy hynny, sefydlu’r hawl i ddewis a derbyn darpariaeth neu wasanaeth cefnogol drwy gyfrwng y Gymraeg? Ac, wrth gwrs, nid dim ond y gweithlu sy’n bwysig fan hyn, o safbwynt yr iaith. Hynny yw, mae adnoddau hefyd yn rhan bwysig o’r hafaliad yna: adnoddau i gael diagnosis, er enghraifft, deunydd prawf ar gyfer dyslecsia, ac yn y blaen. Rydym ni’n gwybod bod yna ddiffygion o safbwynt y Gymraeg yn hynny o beth. Felly, sut ŷch chi’n gobeithio y bydd y Bil yma yn cynorthwyo i ddatrys rhai o’r heriau yna?

Nawr, mae’r cod ymarfer, wrth gwrs, rŷch chi’n cyfeirio ato fe yn mynd i fod yn gwbl allweddol—bron yr un mor allweddol â’r Bil ei hunan—o safbwynt y broses craffu, ac rydw i’n ddiolchgar eich bod chi’n barod i ryddhau drafft o hwnnw i fod yn rhan o’r broses graffu honno ym mis Chwefror. Nawr, nod y ddeddfwriaeth, wrth gwrs, neu un o nodau’r ddeddfwriaeth, yw lleihau anghydfod o fewn y broses, ond mae’n anochel, am wn i, y bydd hynny’n digwydd ar achlysur, ac yn enwedig, efallai, yn y blynyddoedd cyntaf. Nawr, ar hyn o bryd, fel y mae cyd-Aelod i fi, Steffan Lewis, wedi ei amlygu yn ddiweddar, nid oes cwmni cyfreithiol sy’n arbenigo mewn addysg yng Nghymru ar hyn o bryd, a dim ond tri darparwr cymorth cyfreithiol addysg sydd yna ar draws Cymru a Lloegr, a’r tri yn digwydd bod yn Lloegr. Mae cael mynediad at gefnogaeth arbenigol o’r math yna, beth bynnag, am fod yn anodd. Nawr, tra bydd y Bil a’r system tribiwnlys newydd arfaethedig yn lleihau, gobeithio, yr angen am gefnogaeth gyfreithiol arbenigol annibynnol, beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod plant ag anghenion dysgu ychwanegol, a’u teuluoedd, yn cael mynediad i’r cyngor angenrheidiol fydd ei angen arnyn nhw pan fydd hi’n angenrheidiol?

Nawr, rŷch chi wedi crybwyll mewn ateb yr wythnos diwethaf i gwestiwn ynglŷn â chonsýrn gan Diabetes UK a’r Coleg Brenhinol Paediatreg ac Iechyd Plant ynglŷn â’r gofidiau sydd gan blant a phobl ifanc ag anghenion gofal iechyd penodol—. Pa sicrwydd y gallwch chi ei roi i’r rhai ag anghenion gofal iechyd yma, sydd efallai’n teimlo eu bod nhw wedi’u drysu neu mewn ychydig o ‘limbo’, y bydd eu hanghenion nhw yn cael eu diwallu o dan y Bil yma?

Ac, yn olaf, tra bod darpariaeth a dyletswyddau clir yn y Bil yma i blant a phobl ifanc sydd mewn oed addysg statudol, nid wyf yn siŵr os yw hynny’n wir, i’r un graddau, beth bynnag, i’r rhai sydd o oed cyn ysgol a’r rhai hŷn i fyny at 25, er enghraifft, o ran hyfforddiant yn y gweithle, prentisiaethau, ac yn y blaen. Nawr, mi oedd e yn bryder a gafodd ei adnabod gan nifer yn y Bil drafft. A allwch chi ymhelaethu efallai ynglŷn â sut yr ydych chi wedi ymateb i hynny yn y Bil yma? Fel rwyf i’n ei ddweud, rydym yn gyffredinol yn croesawu’r hyn sydd yn y Bil ond, yn amlwg, yn edrych ymlaen at graffu ar y materion rwyf i wedi eu codi, ac rwyf i’n siŵr y bydd yna nifer o faterion eraill y byddwn ni am eu codi yng nghwrs taith y Bil yma drwy’r Cynulliad.