Part of the debate – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 13 Rhagfyr 2016.
Rwy'n ddiolchgar i lefarydd Plaid Cymru am ei eiriau o gefnogaeth. Dewch imi ddweud hyn fel pwynt cyffredinol cyn ceisio ateb y cwestiynau penodol: rwy’n meddwl ei bod hi’n bwysig ein bod ni’n cael dadl eang am y materion hyn yn y ffordd y mae'r Aelod wedi ceisio ei chychwyn, ac mae'n bwysig ein bod ni’n edrych ar y materion y bydd ef ac eraill yn eu codi y prynhawn yma. Hoffwn wrando ar y pryderon hynny a’r cwestiynau hynny. Hoffwn geisio eu hateb heddiw ac yn ystod gwaith craffu Cyfnod 1, ond rwyf hefyd yn barod i wrando eto os nad yw’r atebion hynny’n ddigonol. Rwy'n meddwl ei bod yn bwysig ein bod ni, fel Llywodraeth, yn ogystal â gwrando ar yr hyn a ddywedir yma, yn gwrando ar draws y proffesiynau ac yn gwrando ar ymarferwyr ac yn parhau i wrando. Felly, dyma gychwyn ar broses a fydd yn cynnwys dadl sylweddol, dadl bellach, ac, ar bob adeg, gallaf roi ymrwymiad y byddwn yn mynd ati i wrando a chlywed yr hyn sy'n cael ei ddweud ac yna, os oes angen, gwneud y gwelliannau y mae angen inni eu gwneud.
Dechreuodd yr Aelod ei sylwadau sylweddol drwy sôn am y gwasanaeth iechyd, a bydd yn cydnabod bod y Bil a gyhoeddwyd ddoe yn llawer cryfach na'r drafft a gyhoeddwyd y llynedd. Rwy'n gobeithio bod hynny’n mynd rywfaint o ffordd, neu’n mynd yn bell, at ateb y pryderon a godwyd wrth i’r pwyllgor ystyried y mater hwn cyn yr etholiad eleni. Mae'n amlwg yn fater i’r gwasanaeth iechyd, os ydynt yn canfod problemau neu gyflyrau penodol ac yn rhoi diagnosis ohonynt, i sicrhau bod y cyflyrau hynny’n cael eu trin a'u trin yn unol â’r diagnosis a wnaethpwyd gan weithwyr iechyd proffesiynol, a byddwn yn disgwyl ac yn rhagweld y bydd hynny’n digwydd. Does dim trothwy yn y Bil hwn na’r ddeddfwriaeth hon ar gyfer cyflyrau a fyddai'n galluogi cais neu’n golygu y gellir ysgrifennu cynllun datblygu unigol ar gyfer dysgwr unigol. Rydym yn deall bod deddfwriaeth arall yn cynnwys y trothwyon hynny. Nid yw hon yn gwneud hynny. Mae hon yn ceisio bod yn ymateb cynhwysfawr i anghenion dysgwyr o ba bynnag oedran neu ym mha bynnag leoliad. Felly, does dim trothwy ar gyfer triniaeth, does dim disgwyl y bydd hyn yn golygu baich gweinyddol ychwanegol i’r ysgolion, ac, yn sicr, y profiad a gawsom hyd yma wrth dreialu’r system hon yw bod ymarferwyr yn ei chael yn system sy'n eu galluogi i weithio'n fwy effeithiol gyda'i gilydd, sy'n darparu cynllun llawer mwy cyfoethog sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, yn canolbwyntio ar y plentyn, os mynnwch chi, wedi’i ddarparu gan asiantaethau sy’n gweithio gyda'i gilydd, ac yn sicr dyna yw ein huchelgais ni. Nid creu biwrocratiaeth ychwanegol, ond dod â phobl at ei gilydd a lleihau'r baich ar ymarferwyr unigol wrth wneud hynny.
Felly, bydd, fe fydd yna gyfrifoldebau newydd, a bydd, fe fydd yna gyfrifoldebau ychwanegol i’r staff a nodir yn adran 54, fel y mae ef wedi’i ddweud. Byddwn yn sicrhau bod hyfforddiant yn cael ei ddarparu, a dyma pam yr wyf yn ceisio bod yn glir iawn, iawn, wrth ddadlau a thrafod y ddeddfwriaeth hon, bod y Bil a gyhoeddwyd gennym ddoe yn elfen o, ac yn rhan o, ond nid yn gyfanrwydd, y rhaglen drawsnewidiol yr ydym yn ceisio ymgymryd â hi ar hyn o bryd. Byddwn yn sicrhau bod hyfforddiant ar gael i’r gweithwyr proffesiynol sy'n cyflwyno'r ddeddfwriaeth. Byddwn yn sicrhau bod y canllawiau statudol, a gyhoeddir ym mis Chwefror, ar gael ar gyfer ymgynghoriad fel bod y bobl hynny y bydd angen iddynt weithio gyda nhw yn eu deall ac yn cael cyfle i graffu arnynt cyn inni ddod â nhw gerbron y lle hwn mewn gwirionedd. A byddwn yn sicrhau, pan fydd gennym gyfrifoldebau newydd, bod hyfforddiant ar gael ar eu cyfer.
O ran adnoddau, sef mater arall a gododd yr Aelod, mae’n deall bod y datganiad a wneuthum rai wythnosau'n ôl wedi darparu £2.1 miliwn. Byddwn yn edrych, a byddwn yn parhau i edrych, ar adnoddau. Mae ei ddadansoddiad yn hollol gywir—oni bai bod adnoddau ar gael i ni i gefnogi cyflwyno'r system hon, ni wnaiff weithio ac ni wnawn ni gyflawni ein gweledigaeth, felly byddwn yn ceisio sicrhau bod adnoddau ar gael. Ac wrth wneud hynny, dewch imi ddweud hyn a gwneud hyn yn hollol glir: mae'n gwbl anghywir bod yn rhaid i rieni a theuluoedd ymladd, ymladd ac ymladd eto i gael y gefnogaeth sydd ei hangen ar eu plant i ddysgu'n effeithiol ac i gyflawni eu potensial. Mae'n gwbl anghywir. Diben y ddeddfwriaeth hon yw symud i ffwrdd oddi wrth y system honno, nad yw wedi cyflawni yn y ffordd y byddem yn ei ddisgwyl a’i ragweld, symud i ffwrdd oddi wrth natur wrthwynebol gormod o'r achosion hyn, a symud at system sy’n canolbwyntio ar blant, lle mae pobl yn gweithio ac yn cydweithio â’i gilydd heb iddynt orfod ymladd ac ymgyrchu dros addysg y dylid ei darparu fel hawl. Mae'r system tribiwnlys yno os bydd angen mynd i’r afael ag unrhyw faterion, ond rwy’n meddwl, er mwyn i’r Bil hwn weithio ac er mwyn i’r rhaglen drawsnewid gyflawni ein gweledigaeth, yr hoffem weld llai o angen am gynrychiolaeth gyfreithiol a chymorth cyfreithiol. Dyna un o'r meini prawf y byddwn yn barnu’r Bil hwn yn eu herbyn yn y dyfodol.
Pryd bynnag y byddaf yn dadlau ac yn trafod unrhyw wasanaethau sydd ar gael i blant o dan y ddeddfwriaeth hon, cewch chi gymryd yn ganiataol fy mod i’n disgwyl i’r gwasanaethau hynny fod ar gael yn ddwyieithog ac yn yr iaith Gymraeg lle bo angen. Rwy’n gobeithio bod y geiriad yr ydym wedi’i defnyddio yn y ddeddfwriaeth hon yn ddigon cryf i gyflawni hynny, ond nid wyf yn disgwyl mewn unrhyw ffordd o gwbl y byddwn yn darparu system sy'n cyflawni dros bobl yn yr iaith Saesneg yn unig. Mae'n rhaid darparu hyn yn ddwyieithog ar draws Cymru, ac mae'n rhaid i blant gael y cymorth sydd ei angen arnynt yn y naill neu’r llall o'n dwy iaith genedlaethol lle bo angen. Rwy'n gwbl glir yn fy meddwl fy hun, wrth ddilyn y ddeddfwriaeth hon, mai ein disgwyliadau ni fel Llywodraeth yw y bydd darparwyr gwasanaethau’n darparu'r gwasanaethau sydd eu hangen yn y Saesneg neu'r Gymraeg yn ôl yr angen, ac y bydd pob plentyn sydd ag angen gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn eu cael.