4. 3. Datganiad: Y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 13 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 3:10, 13 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Yn amlwg, rwyf wedi cael fy hun i drafferth ofnadwy drwy geisio’n rhy galed i fod yn rhy neis ac yn rhy hael. Gallaf sicrhau Aelodau ar draws y Siambr na wnaiff hynny ddigwydd eto.

Rwy'n ddiolchgar i Lynne am ei dull o weithio fel Cadeirydd y pwyllgor. Bydd yr Aelodau'n gwybod bod y system pwyllgorau yn rhywbeth sy’n annwyl iawn imi, ac rwyf wedi gwasanaethu fel Aelod a Chadeirydd fel ei gilydd mewn pwyllgorau. Rwy’n gobeithio y gallwn roi’r holl wybodaeth angenrheidiol i'r pwyllgor er mwyn iddynt allu craffu mor fanwl â phosibl ar y ddeddfwriaeth hon. Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn darparu'r wybodaeth ichi—yr wybodaeth ariannol a'r memoranda esboniadol y mae’r Gorchmynion Sefydlog yn eu mynnu—ond hefyd ein bod yn mynd ymhellach na hynny ac yn cyflwyno ichi’r math o ganllawiau y byddwn yn bwriadu eu rhoi i wasanaethau cyhoeddus er mwyn cyflawni'r ddeddfwriaeth hon. Byddwn hefyd yn ceisio ymgynghori ar sut yr ydym yn ceisio gweithredu’r ddeddfwriaeth hon hefyd, a byddwn yn ddiolchgar iawn am farn y pwyllgor am bob un o'r materion hynny.

O ran y pwyntiau a wnaethpwyd gan Lynne Neagle, rwy’n cytuno’n llwyr mai diffyg mynediad at wasanaethau'r GIG, yn rhy aml, sydd wedi effeithio ar deuluoedd ar hyd a lled y wlad. Mae hyn yn annerbyniol. Dewch inni ei gwneud yn hollol glir: mae'n annerbyniol, nid yw'n iawn, ac ni wnawn oddef system lle mae’n rhaid i deuluoedd a rhieni ymladd yn barhaus i gael y math o gefnogaeth sydd ei hangen ar eu plant er mwyn dysgu yn yr ysgol, neu ba bynnag leoliad ydyw.

Dyna yw pwrpas y ddeddfwriaeth hon. Dyna yw diben y rhaglen drawsnewidiol ehangach. Dyna'r weledigaeth, ond dyna hefyd yw beth y cawn ein dal i gyfrif amdano o ran cyflawni. Byddwn wedi methu os oes rhieni'n dal i orfod brwydro’n galed flwyddyn ar ôl blwyddyn i gael y gefnogaeth sydd ei hangen ar eu plant, sy’n ofynnol iddynt ac y dylent ei chael fel hawl. Diben y rhaglen drawsnewidiol hon yw newid hynny a chyflawni newid gwirioneddol i bobl ar draws y wlad. Rwy’n gobeithio, drwy ddod â'r system at ei gilydd, drwy sicrhau bod y plentyn yn ganolog, ein bod yn cyflwyno nid yn unig strwythur newydd, proses newydd, ffordd newydd o weithio, ond yn cyflwyno newid diwylliannol o fewn nifer o wahanol wasanaethau cyhoeddus er mwyn darparu’r gwasanaethau hynny. Mae'n rhaid imi ddweud hyn wrth yr Aelodau: rydym yn treialu hyn mewn gwahanol ysgolion ar hyn o bryd, ac mae'r hyn yr wyf wedi’i weld wedi bod yn gwbl ysbrydoledig o ran dod â phobl ynghyd i weithio gyda'i gilydd a darparu, drwy'r system IDP, y gefnogaeth sydd ei hangen ar y plentyn pan fo ei hangen. Mae'n gweithio yn y mannau lle’r ydym yn gallu ei darparu. Ein her ni heddiw yw creu fframwaith statudol sy'n golygu y caiff ei darparu ledled y wlad gyfan.

Rwy’n deall y pwynt sydd wedi’i godi am anghenion meddygol yn yr ysgol. Does gen i ddim problem gyda’r hyn y mae’r Aelodau wedi'i ddweud y prynhawn yma. Byddwn yn dweud: edrychwch ar y canllawiau pan gânt eu cyhoeddi yn y flwyddyn newydd. Mae'r gwahoddiad i barhau â'r sgwrs yn wahoddiad agored, ac mae'n un yr wyf yn gobeithio y byddwn yn gallu cytuno arno. Os yw Aelodau neu bobl eraill yn parhau i gredu nad yw’r canllawiau y byddwn yn eu cyhoeddi yn y flwyddyn newydd yn ddigonol, yna yn sicr byddwn yn ystyried o ddifrif gwneud newidiadau a gwneud gwelliannau yng Nghyfnod 2 yn ystod y ddadl am y Bil.