4. 3. Datganiad: Y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:31 pm ar 13 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 3:31, 13 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Y cwestiwn yw, oherwydd rwyf hefyd wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd addysg a'r Ysgrifennydd iechyd am hyn, oherwydd dim ond un awdurdod lleol yng Nghymru—cyngor Caerffili—sy’n cydnabod syndrom Irlen mewn gwirionedd, ac sydd â sgrinwyr Irlen yn yr ysgolion, sy'n gweithio’n gynnar i geisio rhoi diagnosis o’r broblem benodol hon. Nawr, y cwestiwn, am wn i, yw a all y Gweinidog edrych ar y posibilrwydd, o fewn paramedrau’r Bil hwn, ac o dan y cod, o gynnig sgrinio cynnar ar gyfer Irlen ym mhob ysgol yn unol â'r cod drafft a nodwyd, fel y byddai ei adnabod ac ymyrryd yn gynnar yn dod o fewn y cwmpas. Mae llawer iawn mwy iddi na hynny, Gadeirydd—