6. 5. Datganiad: Strategaeth Tlodi Plant Cymru — Adroddiad Cynnydd 2016

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:31 pm ar 13 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 4:31, 13 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Fel y dywed Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru, mae ffigurau swyddogol y Llywodraeth a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2016 yn dangos bod 29 y cant o'r holl blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol, sy'n cyfateb i 200,000 o blant. Roedd y Rhwydwaith yn dweud bod hyn yn dal i fod yn uwch na chyfartaledd y DU ac yn fwy na’r gwledydd datganoledig eraill. Sut, felly, ydych chi’n ymateb i'w galwadau ar Lywodraeth Cymru, yn gyntaf i ddarparu arweiniad clir a chryf ar fynd i'r afael â thlodi plant i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn gallu cyrraedd ei botensial llawn, gan gynnwys ymgysylltu â Llywodraeth y DU, cyrff cyhoeddus yng Nghymru a phob sector, gan gynnwys cyflogwyr; yr alwad i sefydlu monitor, cynllun darparu tlodi plant penodol sy’n cynnwys, ac rwy’n dyfynnu, cerrig milltir a thargedau uchelgeisiol ... sy'n hyrwyddo rhaglenni a gwasanaethau gyda thystiolaeth; a’r drydedd alwad, i sicrhau bod mynd i'r afael â thlodi plant yn parhau i fod yn flaenoriaeth o fewn trefniadau newydd o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015? Maent yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau hefyd fod mesurau atebolrwydd clir ar waith.

Mae eich datganiad yn cyfeirio at gynnydd wrth fynd i'r afael â thlodi plant yn cael ei asesu gan y dangosyddion cenedlaethol sy'n sail i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), ac rydych yn cyfeirio at gyhoeddi cyfres o amcanion lles ym mis Tachwedd, gan ddangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi teuluoedd a chael pwyslais clir ar drechu tlodi. Sut, felly, fyddwch chi’n sicrhau bod diben Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) i wneud i gyrff cyhoeddus weithio'n well gyda phobl, gyda chymunedau a gyda'i gilydd, gan gymryd, ac rwy’n dyfynnu, 'dull cydgysylltiedig', a ddisgrifiwyd gan y comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn ei hadroddiad cyntaf fel 'cyd-gynhyrchiad', mewn gwirionedd yn mynd yn ei flaen ar lawr gwlad? Dydw i ddim eisiau dechrau hollti blew am dermau; mae'n derm rhyngwladol a gefnogir gan gannoedd o sefydliadau bellach ledled Cymru. Mae'n ymwneud yn fwy â sut mae’r dull cydgysylltiedig hwnnw ar lefel y stryd yn digwydd mewn gwirionedd, gan droi'r grym wyneb i waered, dylunio’r system tuag yn ôl, gan sicrhau bod pethau'n cael eu gwneud gyda’r bobl, yn hytrach nag iddynt neu ar eu cyfer.

Rydych yn dweud ei bod yn amser am ddull Llywodraeth gyfan newydd o adeiladu cymunedau cydnerth, ac rwyf i’n credu hynny yn amlwg hyd heddiw ac yn flaenorol yng nghyd-destun eich safbwyntiau am y dyfodol o ran Cymunedau yn Gyntaf. Ar y pryd, gofynnais i chi a fyddech yn gallu ymateb i'r alwad gan Oxfam Cymru i Lywodraeth Cymru ymgorffori ei dull o weithredu bywoliaethau cynaliadwy wrth ddarparu pob polisi a gwasanaeth, gan fod hwnnw wedi ei anelu at helpu pobl i dorri’n rhydd o dlodi. Roedd hynny’n seiliedig ar eu rhaglen tair blynedd Adeiladu Bywoliaethau a Chryfhau Cymunedau yng Nghymru, a helpodd dros 1,100 o bobl ac a gafodd ganlyniadau clodwiw a mesuradwy iawn. Rwy’n gobeithio, erbyn hyn, eich bod wedi cael cyfle i edrych ar hynny ac y gallech ymateb gyda’ch sylwadau ar eu galwad a’r model hwnnw fel rhywbeth y gellid ei ddatblygu.

Rydych chi yn amlwg, ac yn briodol, wedi cyfeirio at yr angen i liniaru effeithiau profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Ac wrth gwrs rydych wedi penodi fy nghydweithiwr, David Melding i gadeirio gweithgor sy’n edrych ar y maes hwn. Ond beth yw eich disgwyliadau chi o ran sut y bydd yr hyn yr ydych yn ei wneud yn y maes hwn yn newid pethau? Ac, yn benodol, o ran un demograffig, sut y bydd hyn yn ail-lunio naratif y plant mewn gofal a gofal maeth?

Fel y soniais yr wythnos diwethaf, mae’r elusennau Cynhalwyr Cymru, Cyswllt Teulu Cymru ac Anabledd Dysgu Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried ei bwriad i wneud toriadau ariannol o £5.5 miliwn, sy'n darparu grantiau hanfodol i deuluoedd ar incwm isel sydd â phlant difrifol wael neu anabl yng Nghymru. Maen nhw’n dweud ei bod yn ymddangos bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud y penderfyniad heb ystyried yr effaith y byddai hynny’n ei chael ar y teuluoedd mwyaf agored i niwed sydd â phlant anabl neu, byddwn yn ychwanegu, y costau ychwanegol llawer mwy y byddai hyn yn ei olygu i’r sectorau statudol, yn enwedig iechyd, addysg a gwasanaethau cymdeithasol neu blant.

Rydych yn cyfeirio at bron 72,000 o blant yn byw mewn cartrefi heb waith. Mae hynny'n agos at ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf, a oedd yn dweud bod un o bob wyth o blant Cymru yn byw mewn cartref heb waith tymor hir—yn uwch na chyfartaledd y DU. Diffinnir y rhain yn gartrefi lle mae pob oedolyn wedi bod allan o waith am fwy na blwyddyn neu ddim erioed wedi bod mewn gwaith cyflogedig. O ystyried y gwaith ymchwil sy’n dangos nad yw plant sy'n byw gyda rhieni di-waith yn y tymor hir yn gwneud cystal yn yr ysgol a’u bod mewn mwy o berygl o fod yn ddi-waith yn ddiweddarach mewn bywyd, pa waith ydych chi'n ei wneud gyda'ch cydweithwyr yn y Cabinet, yn enwedig eich cydweithiwr Democratiaid Rhyddfrydol yn hyn o beth, gan gydnabod hynny a'r cydgysylltiad a’r rhyngberthynas â’ch agenda?

Mae'r gyfres olaf o gwestiynau sydd gennyf yn ymwneud â'r comisiwn ar symudedd cymdeithasol a thlodi plant a'i adroddiad ar gyflwr y genedl 2015 sy'n ymwneud â Chymru. Dywedodd y comisiwn, er bod tueddiadau mewn cyflogaeth yn symud i'r un cyfeiriad â'r DU yn ei chyfanrwydd,

“mae gan Gymru gyfraddau uwch o gyflogau isel na gwledydd eraill y DU, gan gadw llawer o blant mewn teuluoedd gweithio tlawd”.

Maent yn dweud bod cyrhaeddiad addysgol yng Nghymru ar bob lefel yn parhau i fod yn annerbyniol o isel ac yn sylweddol is na rhannau eraill o'r DU. Dydw i ddim yn mynd i ailadrodd ffigurau diweddar, ond yn syml maent yn atgyfnerthu’r pryderon hynny. Dywedodd y comisiwn

“mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau y bydd gwasanaethau a chymorth ar gael i bob teulu, gan gynnwys y rhai nad ydynt wedi'u lleoli yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig”.

Felly sut ydych chi’n ymateb, yn eich ystyriaeth ehangach am y dyfodol, am adeiladu cymunedau cydnerth, i’w canfyddiadau fod mwy na 65,000 o blant y mae eu teuluoedd yn derbyn budd-daliadau di-waith neu gredydau treth plant yng Nghymru nad ydynt yn byw mewn ardaloedd rhaglen Cymunedau yn Gyntaf ac, mewn gwirionedd, mae mwy na 25,000 o blant mewn teuluoedd sy'n derbyn budd-daliadau di-waith neu gredydau treth plant yn byw yn y 40 y cant uchaf o ardaloedd o amddifadedd mwyaf yng Nghymru, ond yn dal ddim mewn ardaloedd sy'n elwa ar Gymunedau yn Gyntaf; ac at eu hargymhellion y dylai Llywodraeth Cymru gymryd ymagwedd seiliedig ar dystiolaeth fwy trylwyr at leihau tlodi gydag adolygiad er mwyn sicrhau bod eglurder ynghylch pa broblem y mae’r polisïau yn ceisio mynd i'r afael â nhw, yr hyn y maent wedi ei gyflawni a sut y byddant yn ei gyflawni; ac i’w galwad ar Lywodraeth Cymru i wella ansawdd y gweithlu mewn ysgolion, gan argymell gwneud addysgu yn fwy deniadol i athrawon o ansawdd da ac annog myfyrwyr i ddod yn athrawon yng Nghymru; a’u galwad ar Lywodraeth Cymru, yn olaf, i wella busnes yn ei hymgyrch i leihau tlodi plant a chynyddu symudedd cymdeithasol, gan weithio gyda chwmnïau a datblygu compact busnes i hyrwyddo mynediad tecach at gyflogaeth o ansawdd uchel? Rwy'n siarad am addysg a chyflogaeth, ond mae hyn yng nghyd-destun tlodi plant a sut yr ydym yn mynd i'r afael, nid yn unig â’r achosion sylfaenol yn eu bywydau ifanc nhw, ond hefyd y ffactorau cyfrannol economaidd-gymdeithasol ehangach. Diolch.