7. 6. Datganiad: Codau Cyfraith Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:05 pm ar 13 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 5:05, 13 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Lywydd. Fel deddfwrfa ifanc gyda phwerau cymharol newydd i ddeddfu, mae gennym ni yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru gyfle unigryw i ddod â threfn i’r deddfau yr ydym wedi'u hetifeddu ac i ddefnyddio dull gwahanol o wneud deddfau newydd. Byddai'r dull hwn yn rhoi’r dinesydd—defnyddwyr deddfwriaeth yn y pen draw—yn gyntaf, drwy sicrhau bod ein cyfreithiau yn glir, yn hygyrch ac wedi’u cadw yn dda. Fel y dywedodd Aristotle, mae cyfraith yn drefn, ac mae cyfraith dda yn drefn dda.

Ein cyfle yw arwain y ffordd yn y Deyrnas Unedig drwy ddechrau ar lwybr o gyfuno a chodeiddio ein cyfraith. Gallai codau cyfraith Cymru fod yn sail i'n hawdurdodaeth gyfreithiol ac yn fwy cyffredinol ffurfio rhan o sylfeini ein cenedl. Mae pryderon wedi'u codi am nifer o flynyddoedd am gymhlethdod y gyfraith yn y Deyrnas Unedig a chyflwr anhrefnus ein llyfr statud helaeth a gwasgarog. Mae'r problemau yn arbennig o ddwys o ran Cymru gan nad yw ein cyfreithiau yn gyffredinol yn adlewyrchu ein safbwynt gwleidyddol a chyfansoddiadol o fewn y DU. Er bod y sefyllfa yn newid yn gyflym, mae’r cyfreithiau sy'n berthnasol i Gymru yn unig yn gymharol brin. Yn hytrach, mae'r rhan fwyaf yn dal yn berthnasol i Gymru ac i Loegr, neu i Brydain Fawr neu i'r DU yn ei chyfanrwydd.

Mae rhywfaint o'r cymhlethdod yn deillio o'r ffaith nad oes unrhyw gorff ffurfiol o gyfraith Cymru. Nid ydym yn gallu sôn am gyfraith Cymru, dim ond cyfraith Cymru a Lloegr—a adnabyddir gan y rhan fwyaf, fel y mae’n rhaid ei ddweud, fel cyfraith Lloegr. Mae absenoldeb awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru yn rhan o'r rheswm pam mae’r sefyllfa gyfreithiol yn gybolfa ddryslyd, anhreiddiadwy i'r rhan fwyaf o bobl. Mae gwneud deddfau Cymru o fewn y cyd-destun hwnnw, a dyna wrth gwrs yw ein swyddogaeth ni fel deddfwyr, yn fwy anodd nag y dylai fod. Efallai mai diffyg mwyaf Bil Cymru yw nad yw’n cynnig unrhyw ateb i'r broblem hon, problem na allwn ni yn y ddeddfwrfa hon fynd i'r afael â hi ar ein pennau ein hunain.

Mae llawer o'r cymhlethdod, fodd bynnag, yn deillio yn fwy syml o’r cynnydd yn nifer y deddfau sydd wedi datblygu dros y degawdau diwethaf yn y Deyrnas Unedig. Mae'r llyfr statud yn cynnwys bron i 5,000 o Ddeddfau a mwy na 80,000 o offerynnau statudol, llawer ohonynt yn ddegawdau neu hyd yn oed yn ganrifoedd oed. Gan gymryd cyfraith addysg fel enghraifft, ceir bron i 30 o Ddeddfau Seneddol a Mesurau a Deddfau'r Cynulliad, yn ogystal â rhai cannoedd o offerynnau statudol sy'n cael effaith yng Nghymru ar y pwnc hwnnw yn unig. Mae'r gyfraith felly yn anodd i gyfreithwyr ei llywio, heb sôn am y dinesydd lleyg.

Mae'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyfuno’r gyfraith mewn meysydd datganoledig, fel y mae’r Arglwydd Brif Ustus wedi ei wneud hefyd. Ym mis Mehefin, cyhoeddodd Comisiwn y Gyfraith ei adroddiad 'Ffurf a Hygyrchedd y Gyfraith sy’n Gymwys yng Nghymru' yn dilyn prosiect dwy flynedd a gychwynnwyd gan Lywodraeth Cymru. Roedd hwn yn golygu cryn ymgynghoriad â chymdeithas ddinesig Cymru a thu hwnt. Mae Comisiwn y Gyfraith wedi argymell bod rhaglen barhaus, hirdymor o gyfuno cyfraith Cymru yn cael ei datblygu, gan ddod i'r casgliad y byddai hyn yn cyflwyno manteision cymdeithasol ac economaidd clir. Yn eu barn hwy, mae proses o gyfuno a ffurf o godeiddio wedyn yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod ein cyfreithiau yn hygyrch. Byddai'r broses hon hefyd yn arwain at weld ein cyfreithiau yn dod yn gwbl ddwyieithog, a fyddai yn ei dro yn helpu i ddatblygu'r Gymraeg ymhellach fel iaith y gyfraith. Yn sylfaenol, hefyd, byddai hyn yn y dyfodol yn gwneud ein gwaith mewn datblygu deddfau newydd ac wrth graffu arnynt gryn dipyn yn symlach a mwy effeithlon.

Mae codeiddio ein cyfreithiau yn rhywbeth nad yw erioed wedi ei wneud o'r blaen yn y DU ac ni allaf ond dyfalu pam mae hynny’n wir, ond rwy’n amau ​​ei fod oherwydd maint a chost y dasg, ac efallai oherwydd diffyg ewyllys gwleidyddol oherwydd bod dewisiadau proffil uwch eraill yn cymryd blaenoriaeth. Felly, mae gwneud hyn yn flaenoriaeth efallai'n fwy anodd nag erioed, o gofio’r gostyngiadau mewn cyllidebau sy'n ein hwynebu. Ond gellid dweud y byddai dod â threfn i'r gyfraith yn fwy na gwerth chweil, o gofio’r manteision cymdeithasol y byddai'n eu rhoi i bobl Cymru, y mae eu mynediad at gyfiawnder yn fwy cyfyngedig nag erioed o'r blaen yng ngoleuni toriadau i gymorth cyfreithiol a chau llysoedd. Byddai hefyd enillion effeithlonrwydd ar draws pob sector, gan ddod â manteision ariannol i'r economi a mwy o eglurder i'n system gymhleth iawn o lywodraethu. Mae'r rhain hefyd yn faterion a ddylai fod yn destun pryder i ni fel deddfwrfa gyfrifol sy’n aeddfedu.

Mae'r sefyllfa bresennol, yn fy marn i, yn dod yn fwyfwy anghynaladwy. Nid wyf yn credu bod gennym fawr o ddewis heblaw cychwyn ar yr hyn a fydd yn llwybr hir ac anodd i ddatrys yr hyn yr ydym wedi ei etifeddu, ac i ddatblygu systemau mwy trefnus o wneud a chyhoeddi’r gyfraith yn y dyfodol. Ond nid oes gennyf unrhyw amheuaeth ynghylch cymhlethdod a maint y dasg, a hyd y llwybr. Rwyf hefyd yn ymwybodol iawn ein bod yn byw mewn cyfnod ansicr ac yn debygol o wynebu heriau cyfansoddiadol eithriadol eraill yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod.

Digwyddodd canlyniad y refferendwm ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd ar ôl datblygiad argymhellion Comisiwn y Gyfraith, ac ni ystyriwyd dylanwad cyfraith Ewrop ar ein trefniadau cyfansoddiadol yn uniongyrchol. Mae’r angen tebygol dros y blynyddoedd nesaf i ailddatgan neu ddisodli cyfraith Ewrop, fodd bynnag, yn gysylltiedig â'r mater o gyfuno’r gyfraith. Mae cyfraith Ewrop yn ychwanegu at gymhlethdod y llyfr statud, ac mae'n amlwg bod gorgyffwrdd rhwng ein dyhead i godeiddio’r gyfraith a'r hyn a allai ddod yn angen na ellir ei osgoi i ailddatgan cyfraith Ewrop yn y cyd-destun domestig. Fodd bynnag, nid yw'n glir eto beth fydd yn deillio o'r tynnu allan sydd ar fin digwydd yn y DU o'r Undeb Ewropeaidd, ac nid yw'n glir, o safbwynt Llywodraeth Cymru, pa oblygiadau o ran adnoddau a ddaw i’r swyddogion hynny sy'n ymwneud â datblygu deddfwriaeth. Efallai y bydd angen yr un adnoddau prin y gellid eu defnyddio i gyfuno'r gyfraith at ddibenion eraill.

Ond ni ddylai’r anawsterau hyn ein hatal rhag cychwyn ar y llwybr o leiaf. Yng ngeiriau'r athronydd Tsieineaidd Lao Tzu, mae taith o 1,000 o filltiroedd yn dechrau gydag un cam bach. Felly, efallai y byddwn yn gwneud cynnydd cyflym ar rannau o'r daith, ond gwn y bydd angen i ni droedio'n ofalus a byddwn heb os yn cael ein harafu ar hyd y ffordd. Felly, fy nghynnig, felly, yw ein bod yn cychwyn prosiect o gyfuno, codeiddio a gwell cyhoeddi ar y gyfraith fel cynllun arbrofol, i gael ei werthuso tuag at y flwyddyn nesaf, ac rwy’n gobeithio y bydd y cynllun arbrofol yn ddechrau proses tymor hir a fydd yn arwain at godau yn y rhan fwyaf o feysydd y gyfraith sy'n effeithio ar ddinasyddion Cymru. Felly, yn ystod y cynllun arbrofol hwn, byddwn yn dechrau ar y dasg hanfodol o gyfuno ein rhannau helaeth o gyfraith bresennol yn y meysydd datganoledig. Byddwn hefyd yn gwerthuso’r argymhellion niferus a manylach a wnaed gan Gomisiwn y Gyfraith, megis creu swyddfa cod deddfwriaethol bwrpasol a datblygu rhaglen ffurfiol o gyfuno a chodeiddio.

Cyn cychwyn ar broses newydd a fyddai'n gofyn am adnoddau sylweddol dros flynyddoedd lawer, rwyf hefyd yn awyddus i sicrhau y byddai digon o fuddion yn cronni. Er y byddai’n anodd mesur, rwy’n credu y byddai'n ddoeth gwerthuso budd cyfuno a chodeiddio deddfau a’u cyhoeddi ar wefan Cyfraith Cymru, Law Wales, mewn nifer fach o feysydd cyn symud ymlaen ymhellach. Yn yr un modd, bydd angen i ni werthuso’r galwadau y bydd cyfuno’r gyfraith yn eu rhoi ar adnoddau prin, yn enwedig yng ngoleuni'r tasgau eraill sy'n debygol o gymryd blaenoriaeth.

Felly, yn rhan o'r broses hon, mae hefyd yn hanfodol i sicrhau ein bod ni, ar y cyd, fel Cynulliad, yn gwbl gefnogol i'r fenter hon, mewn egwyddor ac, yn fwy penodol, o ran cyfuno'r gyfraith mewn meysydd penodol sy'n cynnwys darpariaethau, er enghraifft, y gellid eu hystyried yn wleidyddol ddadleuol. I gyrraedd diwedd ein taith, mae’n rhaid i ni weithio gyda'n gilydd. Felly, oni bai bod yr ewyllys gwleidyddol yn bodoli i hwyluso cyfuno trwy fabwysiadu gweithdrefnau addas, ni fydd y fenter yn llwyddo. Rwyf wedi ysgrifennu at y Llywydd ac rwy’n gobeithio ymgynghori yn eang â chydweithwyr a chynrychiolwyr y Cynulliad yn y gobaith y gallwn gydweithio.

I gloi, rwy’n credu bod gennym gyfrifoldeb i ymdrin â phroblem na chafodd ei chreu gennym ni, ond mae gennym gyfle hefyd i arwain y ffordd. Bydd digwyddiadau yn ymyrryd, a gall y cynnydd fod yn araf ar adegau, ond rwy’n cynnig ein bod yn dechrau ar y broses o gyfuno cyfraith Cymru a chychwyn ar lwybr tuag at ddatblygu codau cyfraith Cymru.