Part of the debate – Senedd Cymru am 5:15 pm ar 13 Rhagfyr 2016.
A gaf i ddiolch i’r Cwnsler Cyffredinol am ei ddatganiad, croesawu’r bwriad a chefnogi yn frwd y bwriad i gydgrynhoi a chodeiddio cyfreithiau Cymru? Mae yna ddirfawr angen i symleiddio a’i gwneud hi’n haws i bobl allu deall a darllen un Ddeddf yn yr un lle ar yr un pryd, achos dyna beth yr ydym yn sôn amdano fe yn y bôn yn y fan hyn. Wrth gwrs, rŷm ni’n dyfynnu Aristotle fan hyn. Buaswn i hefyd yn mynd yn ôl i’n hanes ni fel Cymry a Deddfau Hywel Dda. Yn ôl yn y flwyddyn 962, wrth gwrs, roedd gennym ni Ddeddf Gymreig flaenorol—roedd gennym ni Ddeddfau Cymreig, yn naturiol, a oedd yn fwy syml, efallai, na’r rhai sydd wrthi heddiw. Nid wyf yn credu, efallai, fod Hywel Dda wedi meddwl am yr angen i gydgrynhoi a chodeiddio ei gyfreithiau bryd hynny, ond roedd yn arloesi yn y maes, a dyna Ddeddfau cyntaf yn y wlad yma a oedd yn gwneud rhywbeth i edrych ar ôl buddiannau menywod. Roedd Hywel Dda yn arloesi, a buaswn i’n licio meddwl ein bod ni hefyd yn gallu arloesi rŵan, fel yr ydych yn ei ddweud, fel Cynulliad ifanc iawn, yn y materion yma o greu deddfwriaeth.
Ar ddiwedd y dydd, mae’n bwysig cael unrhyw ddarn o Ddeddf y gallwn ni gyd ei ddarllen yn synhwyrol yn yr un lle o dan yr un clawr—dyna beth sydd ddim yn digwydd ar hyn o bryd, ac, wrth gwrs, mae angen gradd yn y Ddeddf i fynd i’r afael â hynny. Fel yr ydych wedi sôn eisoes, mewn lle pan nad yw pobl rŵan yn gallu fforddio cael cyfreithwyr, weithiau, ac yn rhedeg eu hachosion eu hunain, mae’n rhaid inni gael y gallu, neu mae’n rhaid inni gael y gallu cyffredinoli i allu darllen Deddfau heb yr angen i gael gradd yn y maes. Felly, rwy’n croesawu’n fawr y bwriad i’w gwneud hi’n haws i ymdrin â’r gyfraith ac i dacluso beth sydd gennym ni. Fel yr ydych wedi dweud eisoes, mae yna doreth o Ddeddfau ac maen nhw’n gallu cymryd drosodd adeiladau cyfan. Nid yw hynny’n mynd i helpu’r bwriad o allu dilyn unrhyw Ddeddf yn hawdd.
Mae yna gwpwl o gwestiynau, wrth gwrs. Rŷm ni yn creu Deddfau Cymraeg rŵan. Mae yna nifer o Ddeddfau ym maes addysg ac ym maes iechyd yng Nghymru sydd yn sylweddol wahanol rŵan ers datganoli. Wrth gwrs, nid ydyn nhw’n cwympo’n hawdd iawn i mewn i’r maes ‘England and Wales’ yma, fel yr ydych yn ei nodi, felly rŷm ni wedi bod yn creu Deddfau Cymreig, a nifer ohonyn nhw, ers datganoli, yn enwedig yn ddiweddar—nid jest ym meysydd addysg ac iechyd, ond arloesi gyda’r Ddeddf rhoi organau, er enghraifft, sef yr enghraifft gyntaf yn yr ynysoedd hyn. Felly, mae yna gyfle inni fod yn adeiladu ar hynny ac nid jest ein bod ni’n gallu arloesi yn y syniadau am Ddeddfau ond hefyd arloesi o ran sut yr ydym yn ymdrin â’r Deddfau hynny.
Wrth gwrs, mae gennym ni broblem—neu her y dylwn i ei ddweud—yn absenoldeb un awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru. Rŷm ni’n rhannu awdurdodaeth gyfreithiol efo Lloegr. Buaswn yn hoffi gofyn, gyda’r holl siarad yma ynglŷn â Bil Cymru, pa drafodaethau yn benodol y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cael i fynd i’r afael â’r broblem yma. Buasai pethau yn llawer haws petai un awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru. Buasai’n llawer haws—mi fuasai hefyd yn llawer haws petawn ni hefyd wedi cael yr heddlu, y llysoedd ac ati wedi cael eu datganoli i Gymru eisoes, fel gwledydd eraill Prydain, ac fel Manceinion. Beth sydd yn bod arnom ni’r Cymry? Yn wyneb yr her o golli rhai pwerau ym Mil Cymru, buaswn i’n licio gwybod mwy am rôl y Cwnsler Cyffredinol yn gwthio am un awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru, a fuasai’n gwneud pethau’n lawer haws, a hefyd ddim colli’r gafael ar yr angen inni ddatganoli’r heddlu a’r llysoedd yma i Gymru. Buasai hynny’n gwneud pethau lawer yn haws hefyd, gan ein bod ni’n deddfu yn y lle yma, ar ddiwedd y dydd.
Nawr, yn nhermau—roeddech yn sôn am gymhlethdodau posib yn ymwneud ag Ewrop a dod allan o Ewrop. Yn naturiol, mae yna nifer o gymhlethdodau yn fanna, ond beth nad ydym eisiau ei weld eto ydy colli pwerau. Rŷm ni’n disgwyl gweld Deddfau Ewropeaidd sy’n ymwneud â Chymru yn dod i Gymru. Buaswn i’n hoffi cael sicrwydd, yn yr holl drafodaethau, nad ydym ni mewn perygl o golli’r Deddfau yna sy’n berthnasol inni yng Nghymru. Wrth gwrs, yn naturiol, fel rhan o hynny, mi allwn ni dacluso fel rŷm ni’n ymdrin â bod yn rhan o’r cydgrynhoi a chodeiddio yma, ond hefyd, yn bwysicach, efallai, nid ydym eisiau colli pwerau dros y rhannau hynny o Ddeddfau Ewrop sydd nawr yn berthnasol inni yma yng Nghymru.
Mae yna ddimensiwn Cymreig, fel rŷch chi wedi cyfeirio ato eisoes, ac mae yna yn benodol hefyd ddimensiwn iaith Gymraeg. Rŷm ni wedi bod yn datblygu is-ddeddfwriaeth a Deddfau dwyieithog yma ers cychwyn y Cynulliad, ac, wrth gwrs, bydd y Cwnsler Cyffredinol yn ymwybodol nad yw un iaith yn gyfieithiad pur o iaith arall—mae yna elfen o ddehongli hefyd. Ac, wrth gwrs, fel rŷm ni’n datblygu’r arbenigedd cyfreithiol yna yn yr iaith Gymraeg, mae eisiau hefyd ddatblygu’r arbenigedd i allu dehongli i wneud yn siŵr bod beth sy’n cael ei ddweud mewn un iaith yn llwyr yn cael ei drosglwyddo i’r iaith arall, ac mae yna fater o ddehongli, nid jest mater o gyfieithu, ac na choller hynny mewn unrhyw fater o dacluso’r ddeddfwriaeth sydd gerbron.
Fel rŷch chi’n dweud yn fan hyn, mae’n her sylweddol—i gloi—ac rŷch chi’n dyfynnu:
‘a journey of 1,000 miles begins with one small step.’
Yn y Gymraeg, mae yna ddywediad, sy’n dweud, ‘deuparth gwaith ei ddechrau’.
Two thirds of the work is in actually getting started.
Felly, pob lwc i’r Cwnsler Cyffredinol ar ei waith arloesol ymlaen. Diolch yn fawr.