<p>Prosiectau Cynhyrchu Ynni Lleol</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 14 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Reckless Mark Reckless UKIP 1:33, 14 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Yn ddiweddar, ymwelodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig â phrosiect trydan dŵr cymunedol yng ngogledd Cymru, a chefais sgwrs bellach gydag Ofgem am y mater a godwyd, sef bod yn rhaid i gostau cysylltu â’r grid, lle nad oes digon o gapasiti yn yr ardal eisoes, gael eu talu gan y datblygwr yn gyffredinol, ond y dull a fabwysiadwyd yn yr Alban ar gyfer ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr oedd mai defnyddwyr trydan ledled y DU oedd i dalu am uwchraddio’r grid. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn credu bod y dull yn deg i Gymru ar hyn o bryd ai peidio?