Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Ysgrifennydd y Cabinet, o ystyried bod adnoddau’n brin, fel y dywedodd Llyr Gruffydd, a bod cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd, o ran cyfalaf, yn ddrud iawn, a refeniw yn ogystal, a ydych yn credu y buasai’n amser da yn awr, gyda’r agenda yn symud at fwy o gydweithrediad rhwng awdurdodau lleol, a datblygiadau ar draws awdurdodau lleol, megis metro de Cymru, a dinas-ranbarthau, i edrych ar ranbartholi gwaith amddiffyn rhag llifogydd, yn hytrach na’i adael gydag awdurdodau lleol unigol, er mwyn eu cael i gydweithio’n agosach ac i ddatblygu cynlluniau mwy costeffeithiol a chynaliadwy?