Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, amser cinio heddiw, roeddwn yn cyd-noddi sesiwn briffio Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, gydag Angela Burns, ar gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer parthau perygl nitradau. Ceir rhai pryderon difrifol iawn mewn perthynas â’r cynigion ymgynghori, a allai osod baich enfawr ar ffermwyr a’u gorfodi allan o fusnes o ganlyniad. O ystyried bod y Prif Weinidog wedi dweud mai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yn awr yw penderfynu pa gyfreithiau y dylid eu cadw ac na ddylid eu cadw yn dilyn penderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd, a allech chi egluro pam fod Llywodraeth Cymru wedi bwrw ymlaen â’r ymgynghoriad hwn i gyflwyno parthau perygl nitradau, sy’n deillio o gyfarwyddeb Ewropeaidd?