1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau i’r Ysgrifennydd Cabinet. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, amser cinio heddiw, roeddwn yn cyd-noddi sesiwn briffio Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, gydag Angela Burns, ar gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer parthau perygl nitradau. Ceir rhai pryderon difrifol iawn mewn perthynas â’r cynigion ymgynghori, a allai osod baich enfawr ar ffermwyr a’u gorfodi allan o fusnes o ganlyniad. O ystyried bod y Prif Weinidog wedi dweud mai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yn awr yw penderfynu pa gyfreithiau y dylid eu cadw ac na ddylid eu cadw yn dilyn penderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd, a allech chi egluro pam fod Llywodraeth Cymru wedi bwrw ymlaen â’r ymgynghoriad hwn i gyflwyno parthau perygl nitradau, sy’n deillio o gyfarwyddeb Ewropeaidd?
Oherwydd ein bod yn dal i fod yn yr Undeb Ewropeaidd.
Wel, mae angen i mi ddweud wrth Ysgrifennydd y Cabinet fod ganddi gyfle yma i edrych ar y cynigion hyn unwaith eto o ystyried ein bod yn awr yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Rwy’n sylweddoli bod angen i ni gynnal ansawdd ein hamgylchedd naturiol ac am y rheswm hwnnw, mae’n peri pryder, gyda llaw, nad oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi’i gynnal ochr yn ochr â’r ddogfen ymgynghori, oherwydd mae asesiad effaith rheoleiddiol yn sicr yn hanfodol i ddangos sut y bydd y cynigion hyn yn arwain at wella ansawdd ein dŵr a’n hamgylchedd naturiol. A allwch chi, felly, egluro wrthym pam nad oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â chynigion Llywodraeth Cymru?
Rwy’n mynd yn ôl at eich cwestiwn cyntaf: mae gweithredu’r gyfarwyddeb nitradau yn rhwymedigaeth Ewropeaidd, a thra byddwn yn dal i fod yn rhan o’r Gymuned Economaidd Ewropeaidd, ac rydym yn mynd i fod yn rhan o’r Gymuned Economaidd Ewropeaidd am y ddwy flynedd a hanner nesaf o leiaf, rydym yn ymrwymedig i gydymffurfio â’r rhwymedigaethau hyn. Mae’n rhaid i mi ddweud bod safonau gofynnol ar gyfer storio slyri wedi cael eu cyflwyno dros 25 mlynedd yn ôl—25 mlynedd yn ôl—ac mae’r asesiadau rydym wedi eu gwneud yn dangos nad yw tua 65 y cant o ffermydd yn bodloni’r safonau hyn. Y neges rwyf wedi bod yn ei rhoi i ffermwyr, pan fyddant yn sôn wrthyf am hyn, yw y buasai cost cydymffurfio â gofynion Parthau Perygl Nitradau yn fach iawn i’r rhai hynny sydd eisoes yn bodloni safonau storio cyfredol. I mi, mae hynny’n gwobrwyo arfer da, ac rwy’n credu bod hynny’n bwysig iawn. Fel rwy’n ei ddweud, rydym yn ymgynghori a bydd asesiad effaith rheoleiddiol yn cael ei gyhoeddi maes o law.
Wel, mae’n siomedig nad oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi’i gyhoeddi ochr yn ochr â’r ddogfen ymgynghori, ac onid yw’n wir nad oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi’i gyhoeddi oherwydd nad oes digon o dystiolaeth wyddonol i gefnogi cynlluniau Llywodraeth Cymru? Nid yn unig nad oes digon o dystiolaeth wyddonol, ond bydd y cynigion hyn yn niweidio ffermwyr ledled Cymru mewn gwirionedd ac yn cael effaith sylweddol ar yr economi wledig ehangach. Ac mae’n ymddangos i mi mai gordd i dorri cneuen yw’r cynigion hyn yn y bôn a diau y bydd canfyddiadau’r ymgynghoriad yn adleisio’r pryderon hyn mewn gwirionedd. Felly, o dan yr amgylchiadau, a allwch ddweud wrthym pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu dull gwirfoddol o weithredu ar y mater hwn, ac yn dilyn yr ymgynghoriad, a fyddwch yn awr yn ystyried barn ffermwyr ac yn wir, y diwydiant amaethyddol ac yn ystyried gweithio gyda hwy drwy fabwysiadu mesurau gwirfoddol yn lle hynny?
Nid wyf yn cytuno â’r cwestiwn rydych yn ei ofyn i mi. Nid wyf am achub y blaen ar yr ymgynghoriad. Rwy’n hapus iawn i weithio gyda’r diwydiant. Soniais yn fy ateb blaenorol i chi pa mor hir y mae’r safonau hyn wedi bodoli, yr hyn y mae ein hasesiadau wedi’i ddangos a sut y buasai’r gofyniad yn fach iawn ar gyfer y rhai sydd eisoes yn bodloni safonau storio cyfredol. Ac rwy’n credu bod hynny’n bwysig iawn ac mae’n wirioneddol bwysig ein bod yn cydnabod ac yn gwobrwyo ymddygiad da.
Llefarydd Plaid Cymru, Simon Thomas.
Diolch, Lywydd. Weinidog, rwyf am siarad am gyfarwyddeb Ewropeaidd arall, ond rwyf am iddo gael ei gofnodi fy mod wedi ysgrifennu atoch yn gofyn i chi fabwysiadu’r dull gwirfoddol mewn perthynas â’r gyfarwyddeb Parthau Perygl Nitradau hefyd. Ond pa asesiadau a wnaethoch o ddyfarniad yr Uchel Lys y mis diwethaf nad oedd cynllun ansawdd aer DEFRA o dan y gyfarwyddeb ansawdd aer yn cydymffurfio mewn gwirionedd?
Mae swyddogion yn sicr yn edrych ar yr achos llys a gynhaliwyd ac a ddyfarnodd, wrth gwrs, yn erbyn Llywodraeth y DU. Nid oes gennyf y wybodaeth honno ar hyn o bryd, ond rwy’n hapus iawn i’w rhannu pan fyddaf yn ei chael.
Wel, diolch i chi, Weinidog. Rwy’n credu ei fod yn achos llys pwysig iawn ac er mai yn erbyn DEFRA y’i cynhaliwyd, cyfrifoldeb adrodd y DU o dan y gyfarwyddeb ansawdd aer ydyw mewn gwirionedd. Felly, mae’n effeithio arnom ni, ac roedd yn goddiweddyd neu’n cydredeg â’ch ymgynghoriad chi ar ansawdd aer, a ddaeth i ben ar 6 Rhagfyr. Yn yr ymgynghoriad ar ansawdd aer fe ddywedoch hyn:
‘Mae cryn ansicrwydd ynghylch i ba raddau y byddwn yn dal i orfod cadw at ein dyletswyddau presennol yn yr Undeb Ewropeaidd—’ er bod eich ymateb i Paul Davies yn swnio fel pe baech wedi eich rhwymo gan eich dyletswyddau UE presennol—
‘gyda golwg ar lygredd aer a sŵn ar ôl i’r Deyrnas Unedig ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Felly, ni allwn ddweud yn fanwl eto pa gamau pellach y bwriadwn fwrw ymlaen â nhw yn ystod ail, trydedd, pedwaredd a phumed flwyddyn y Cynulliad hwn.’
A gaf fi ddweud wrthych, Weinidog, ar ôl cael amcangyfrif gan Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint bod llygredd aer yng Nghymru yn gysylltiedig â dros 1,300 o farwolaethau cynnar—dyna ffigur Cymru; rydym wedi clywed ffigurau’r DU o’r blaen; dyna ffigur Cymru—a allwch chi wir fod mor laissez-faire yn eich ymateb ar fynd i’r afael â llygredd aer?
Na, nid wyf yn laissez-faire o gwbl, ac oherwydd fy mhryderon y lansiais yr ymgynghoriad mor fuan ar ôl i mi gychwyn yn y swydd. Mae gennym fframweithiau deddfwriaethol Ewropeaidd a chenedlaethol ar waith yng Nghymru. Mae’n peri pryder mawr i mi. Mae gennym yn sicr ardaloedd â phroblem, os mai ardaloedd â phroblem yw’r term cywir, lle y ceir ansawdd aer gwael iawn, sy’n peri pryder i mi. Fe sonioch am yr ymgynghoriad a ddaeth i ben ar 6 Rhagfyr. Mae swyddogion eisoes wedi dechrau dadansoddi’r ymatebion, a byddaf yn gallu cyflwyno mwy o wybodaeth pan fydd hwnnw wedi’i gwblhau, yn amlwg.
Wel, rwy’n gobeithio y bydd y wybodaeth honno hefyd yn cynnwys eich ymateb i ddyfarniad yr Uchel Lys, ac rwy’n gobeithio hefyd y gallwch ystyried y polisi cyhoeddus sy’n newid yn gyflym yn y maes hwn. Mae pump o’r dinasoedd y credaf eich bod wedi ymuno â hwy mewn rhwydwaith rhanbarthol yn dilyn Marrakech wedi cefnogi’r cynnig i wahardd trafnidiaeth ddiesel o’r dinasoedd. Yn aml, mae ceir diesel yn cael eu gweld fel problem benodol, er mai lorïau a thrafnidiaeth ddiesel sy’n creu’r rhan fwyaf o’r llygredd mewn gwirionedd. Mae Jeremy Corbyn wedi awgrymu gwahardd pob car tanwydd ffosil; efallai nad dyna ei awgrym mwyaf—. [Torri ar draws.] Pob car, mewn gwirionedd; ie, o bosibl. Efallai nad dyna ei awgrym mwyaf chwerthinllyd, mewn gwirionedd, gan fod Copenhagen eisoes wedi awgrymu hynny mewn 10 mlynedd. Mae Paris yn edrych ar y syniad. Mae ceir yn cael eu gwahardd bob yn ail ddiwrnod mewn nifer o ddinasoedd ledled y byd. Ond wrth gwrs, nid ymosod ar geir preifat yw’r ateb; yr ateb yw newid i seilwaith trydan. A’r ateb yw defnyddio’r offer sydd gennym yma yng Nghymru eisoes—Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 a Deddf Amgylchedd (Cymru) 2016 i gyflawni’r cynigion polisi hynny. Felly, mewn ymateb i’r hyn y mae dinasoedd eraill yn ei wneud, sut y gall Cymru gamu i’r adwy a chyflawni’r trawsnewidiad hwnnw o drafnidiaeth tanwydd ffosil personol i gerbydau trydan a thrafnidiaeth gyhoeddus integredig sy’n llawer mwy cynaliadwy?
Rydych yn hollol gywir. Y C40—y grŵp o ddinasoedd rydych yn cyfeirio atynt—cyfarfûm â sawl un o’r meiri pan oeddwn yn Marrakech yn COP22, ac roedd yn ddiddorol iawn clywed am eu cynlluniau i roi diwedd ar y defnydd o geir diesel, er enghraifft, erbyn 2025. Mae gwledydd eraill yn ystyried gwneud hynny hefyd erbyn 2030, 2035, ac mae’n rhaid i ni ddal i fyny, fel arall byddwn yn edrych fel deinosoriaid. Felly, mae’n hynod bwysig ein bod yn gwneud hynny. Rwy’n cael trafodaethau gyda fy nghyd-Aelod Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, ynghylch trafnidiaeth gynaliadwy. Rwy’n credu bod angen i ni osod rhai targedau, ac fe grybwyllais yn y datganiad ynni yr wythnos diwethaf fod yn rhaid i ni gael targed realistig, ond rwy’n hapus iawn i edrych ar hynny. Rwyf hefyd yn hapus iawn os oes unrhyw ddinasoedd—. Mae’n debyg fod Caerdydd, rwy’n credu, wedi gwneud rhai sylwadau fod Caerdydd yn ystyried gwneud hynny hefyd, felly rwy’n hapus iawn i gael y trafodaethau hynny, ond mae gwir angen i ni sicrhau ein bod yn aros ar flaen y gad mewn perthynas â’r cyhoeddiadau hyn mewn gwirionedd.
Llefarydd UKIP, Neil Hamilton.
Diolch, Lywydd. Rwy’n credu y bydd ffermwyr ac, yn wir, busnesau bach yn gyffredinol yn siomedig iawn gyda’r ymateb cyndyn a roddodd ysgrifennydd yr amgylchedd i gwestiwn Paul Davies yn gynharach. Mae Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr wedi cynnal arolwg o ffermwyr a’r effaith y buasai cyflwyno parthau perygl nitradau yn ei gael arnynt a’u diwydiant, ac maent wedi canfod nad oes gan 73 y cant o’r ffermwyr sy’n cynhyrchu slyri yng Nghymru ddigon o gyfleusterau storio i fodloni gofynion y cynigion Parthau Perygl Nitradau, ac y byddai’r gost gyfartalog o gydymffurfio â hwy bron yn £80,000. Mewn byd lle y mae incwm ffermydd yn isel ac yn plymio—mae incwm ffermydd wedi gostwng 25 y cant yn y flwyddyn ddiwethaf—bydd dull ansensitif o fynd i’r afael â’r broblem hon yn syml yn golygu y bydd busnesau nifer fawr o ffermwyr, yn enwedig yn y diwydiant llaeth, yn mynd i’r wal. Yn sicr, nid wyf yn credu fod hwnnw’n bris gwerth ei dalu am yr enillion tymor byr y mae ysgrifennydd yr amgylchedd yn ymgynghori yn eu cylch.
Wel, rwy’n credu bod ‘ansensitif’ yn un gair na allwch ei briodoli i mi, ac yn sicr nid wyf yn ansensitif i hyn. Cyfarfu fy swyddogion â chynrychiolwyr Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yn gynnar ym mis Hydref, a chawsant gyfarfod adeiladol iawn. Rwyf hefyd wedi cyfarfod ag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ar sawl achlysur, ac roedd y cyfarfod diwethaf wythnos i ddydd Iau diwethaf, rwy’n credu. Yn amlwg, maent yn pryderu ac maent wedi dod â’r pryderon hynny i fy sylw. Heb ymgynghoriad—nid wyf am achub y blaen ar yr ymgynghoriad hwnnw, ac rwy’n mynd yn ôl at fy ateb i Paul Davies pan ddywedais y buasai’r gost gydymffurfio’n fach iawn i’r rhai sydd eisoes yn bodloni’r safonau storio presennol.
Wel, mae’r ffeithiau, wrth gwrs, yn gwrth-ddweud hynny, ac rwy’n credu bod Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yn ymgynghoreion eithaf dibynadwy ar y materion penodol hyn. Ond mae yna atebion eraill i broblem llygredd nitrad, ac maent wedi cael eu gweithredu yn Lloegr. Mae’r Gwasanaeth Datblygu a Chynghori Amaethyddol wedi cynhyrchu llyfryn sy’n dwyn y teitl, ‘101 ways to reduce nitrates’. Yn wir, yng Nghymru, mae’r defnydd o wrtaith nitrad wedi gostwng 43 y cant rhwng 1990 a 2013, felly nid yw fel pe na bai dim byd yn digwydd yn y byd go iawn. Ac mewn gwirionedd, yn ardal Cleddau yn Sir Benfro, roedd yn rhaid i un hufenfa dorri 8 tunnell fetrig oddi ar ei gwastraff nitrad, a daeth ffermwyr lleol at ei gilydd i ffurfio cwmni cydweithredol—25 ohonynt—a llwyddodd pob un ohonynt i dorri tunnell yr un oddi ar eu gwastraff nitrad eu hunain. Felly, llwyddasant mewn gwirionedd i dorri cyfanswm o 25 tunnell oddi ar y gwastraff nitrad yn yr ardal honno. Nawr, mae hynny wedi digwydd heb ddull llawdrwm y gyfundrefn y mae Ysgrifennydd yr amgylchedd yn ymgynghori arni ar hyn o bryd. Felly, rwy’n meddwl tybed os gallaf gael—heb achub y blaen ar ganlyniad yr ymgynghoriad, yn amlwg—ymrwymiad meddwl agored ganddi i edrych ar bethau yn eu cyfanrwydd ac i ystyried, er hynny, y posibilrwydd o gyfundrefn wirfoddol os nad yw canlyniad yr ymgynghoriad yn bendant.
Rwyf bob amser â meddwl agored pan fyddaf yn ymgynghori, ond rwy’n mynd yn ôl at yr hyn a ddywedais, nad yw 65 y cant o’n ffermydd yn bodloni’r safonau—safonau sydd wedi bod ar waith ers 25 mlynedd. Ond wrth gwrs, ochr arall y geiniog yw bod 35 y cant yn cyrraedd y safonau hynny. Felly, efallai y dylem wneud yn siŵr fod arfer gorau o’r 35 y cant o ffermydd yn cael ei rannu â’r 65 y cant arall, ond mae gennyf feddwl agored yn sicr.
Da iawn. Wel, rwyf wrth fy modd yn clywed hynny. Rydym yn gwneud cynnydd, ond wyddoch chi—
Mor nawddoglyd.
Wel, rydym yn gwneud cynnydd. Rwy’n golygu hynny fel canmoliaeth. Wel, mae’n rhaid i mi ddweud, yn ei hatebion i mi o’r blaen, Lywydd, y cwbl rwyf wedi’i gael yw atebion unsill ar fater asesiadau effaith rheoleiddiol, er enghraifft, sy’n rhan o god ymddygiad y Llywodraeth ei hun. Maent wedi addo cael asesiadau effaith rheoleiddiol fel rhan o ymgynghoriadau fel hyn, ac nid oes un, ac rwy’n credu mai’r rheswm am hynny yw’r hyn y cyfeiriodd Paul Davies ato.
O gofio y byddwn yn gadael yr UE o fewn y ddwy neu dair blynedd nesaf, erbyn i’r ymgynghoriad hwn ddod i ben ac erbyn y bydd y rheoliadau mewn sefyllfa i gael eu gweithredu, efallai mai dim ond mater o fisoedd fydd ar ôl beth bynnag. Yn sicr, mewn amgylchiadau fel hyn, lle y mae gennym gyfle i deilwra rheoliadau sy’n gweddu i Gymru fel endid ar wahân, yn hytrach na threfn sy’n cwmpasu cyfandir cyfan, mae’n rhaid ei bod yn gwneud synnwyr i gael moratoriwm ar fesurau fel hyn, a all effeithio’n ddinistriol ar fusnes ar gyfer gwelliannau ymylol yn ansawdd yr amgylchedd, o gofio bod yna ffyrdd eraill o ddatrys y broblem.
Rwy’n siŵr y buasai’r Aelod wrth ei fodd yn gadael yr UE yn llawer cyflymach nag y byddwn yn ei wneud, ond rydym yn dal i fod yn yr UE. Tra byddwn yn yr UE, mae angen i ni barchu ein dyletswyddau i’r UE. Felly, yn anffodus nid wyf yn cytuno â chi ar y pwynt hwnnw. Yn y dyfodol, ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, bydd yn fater cwbl wahanol, os mynnwch. Mae angen i ni sicrhau felly fod y polisïau penodol hyn yn iawn i Gymru. Ond ar hyn o bryd, rydym yn dal i fod yn yr UE.