<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 14 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 1:43, 14 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Weinidog, rwyf am siarad am gyfarwyddeb Ewropeaidd arall, ond rwyf am iddo gael ei gofnodi fy mod wedi ysgrifennu atoch yn gofyn i chi fabwysiadu’r dull gwirfoddol mewn perthynas â’r gyfarwyddeb Parthau Perygl Nitradau hefyd. Ond pa asesiadau a wnaethoch o ddyfarniad yr Uchel Lys y mis diwethaf nad oedd cynllun ansawdd aer DEFRA o dan y gyfarwyddeb ansawdd aer yn cydymffurfio mewn gwirionedd?