<p>Lagwnau Slyri</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 14 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 1:55, 14 Rhagfyr 2016

Wel, mae’r dasg yn mynd yn fwy anodd achos, yn ôl beth rwy’n ei ddeall, mae cabinet sir Benfro wedi gwrthwynebu’r NVZ, a bore yma, pleidleisiodd Cyngor Sir Gâr yn erbyn yr NVZ hefyd. Ond, wrth gwrs, pwrpas lagŵn slyri yw i gadw slyri nes ei fod yn cael ei ddefnyddio mewn rhyw ffordd bwrpasol ac yn cael ei daenu neu ei ddefnyddio yn y ffordd yna, gan fwyaf. Pa drafodaethau ydych chi’n cael gyda chontractwyr, sydd yn rhan bwysig o’r jigso yma, achos nhw sy’n gyfrifol am fynd â slyri o lagwnau, ac ailddosbarthu’r cyfoeth, os liciwch chi, o gwmpas yr ardal? Byddan nhw’n cael eu heffeithio’n drwm iawn gan y ffaith y bydd yn rhaid iddyn nhw roi i’r neilltu y gweithlu dros y gaeaf os yw’r NVZ yn dod i mewn, ac efallai y bydd hi’n fwy anodd i gael contractwyr i weithio mewn ffordd mor wyddonol ag sy’n bosib, fel sy’n digwydd nawr. A oes trafodaeth gyda chontractwyr o gwmpas y defnydd yma o slyri a’r NVZs?