Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Diolch yn fawr am yr ateb yna, Ysgrifennydd Cabinet. Fe fyddwch chi’n ymwybodol, wrth gwrs, o’r holl drafodaethau sydd wedi mynd ymlaen ers amser hir ynglŷn â’r datblygiad posib o forlyn llanw ym mae Abertawe. Yr hyn mae’r trigolion lleol eisiau gwybod ydy pryd mae morlyn llanw bae Abertawe yn mynd i gael ei adeiladu.