Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn eich ymateb ar fôr-lynnoedd llanw roeddech yn tynnu sylw at sut y gallent chwarae rhan bwysig yn darparu ynni gwyrdd a rhan o’r fasged gymysg o gyfleoedd ynni adnewyddadwy y byddwch chi fel Llywodraeth yn ei hyrwyddo. Ond hefyd yn y fasged honno o gyfleoedd ynni cymysg mae’r gallu i gael prosiectau adnewyddadwy llai ar y tir. Mae’r broblem go iawn yn ymwneud â chael cysylltiad â’r grid i lawer o’r prosiectau hynny. Gwn fy mod wedi gofyn y cwestiwn hwn i chi o’r blaen, ond a ydych yn gwneud cynnydd gyda’r darparwyr ynni, megis Western Power—neu’r darparwyr seilwaith, dylwn ddweud—i’w galluogi i gynorthwyo fel y gall prosiectau ynni bychan gael y cysylltiadau hynny, a chynorthwyo gyda chymwysterau ynni gwyrdd Cymru?