Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Ysgrifennydd y Cabinet, y morlyn llanw arfaethedig yn Abertawe fydd y cynllun cyntaf o’i fath yn y byd ac mae’n dechnoleg heb ei phrofi i bob pwrpas. Mae’r datblygwyr yn honni y bydd y cynllun yn darparu 320 MW o gapasiti gosodedig, ond nid oes gennym unrhyw ffordd o wybod faint o drydan fydd yn cael ei gynhyrchu mewn gwirionedd. Fel rydym wedi’i weld o gynllun llanw swnt Dewi, nid yw pethau bob amser yn mynd yn ôl y bwriad. Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau bod y cynllun môr-lynnoedd llanw i Gymru yn darparu’r manteision a nodwyd, o ystyried y buddsoddiad cyhoeddus sylweddol sydd ei angen?