Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Byddaf, yn sicr. Roeddem wedi gobeithio y buasai adroddiad Hendry wedi cael ei gyflwyno i Lywodraeth y DU ychydig yn gynt na’r wythnos diwethaf. Roeddem yn gobeithio y câi ei gyflwyno ddechrau mis Tachwedd, yn sicr. Rwy’n falch iawn ei fod ganddynt bellach. Rydym yn edrych ymlaen at glywed eu barn ar yr adroddiad. Rwyf wedi gofyn, ochr yn ochr â fy nghyd-Aelod Ken Skates, am i ni gael cymryd rhan lawn yn y trafodaethau cyn i unrhyw gyhoeddiadau eraill gael eu gwneud.