Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Diolch. Rydym yn mynd i’r afael â llygredd sŵn ac aer mewn nifer o ffyrdd. Mae’r rhain yn cynnwys drwy reoli ansawdd aer lleol, rheoleiddio diwydiant, y gyfundrefn gynllunio a hyrwyddo teithio llesol. Ar hyn o bryd rydym yn adolygu’r ymatebion i’r ymgynghoriad cyhoeddus sy’n gofyn am farn y cyhoedd ar beth arall y gallwn ei wneud yng Nghymru.