Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Nid wyf wedi clywed unrhyw gwynion am y cwestiynau na’r ffordd y cafodd yr ymgynghoriad ei roi at ei gilydd. Os ydych wedi derbyn un neu fwy, buasai gennyf ddiddordeb mawr mewn cael nodyn gennych er mwyn i mi allu edrych ar hynny. Mae llawer iawn o feddwl wedi mynd i’r ddogfen ymgynghori honno, ac rwy’n credu bod y cwestiynau rydym wedi eu gofyn yn gwbl briodol.