Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Diolch. Ein polisi yw cyflwyno rhaglenni sy’n dod â phobl, grwpiau, busnesau a sefydliadau lleol at ei gilydd i ddarparu gwasanaethau i wella lle y maent yn byw neu’n gweithio. Mae hyn yn cynnwys ein rhaglen eco-sgolion, sy’n cynnwys 20 o ysgolion yng nghanol Casnewydd, sy’n grymuso ac yn ysbrydoli pobl ifanc i wneud newidiadau amgylcheddol cadarnhaol i’w bywydau.