Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ateb hwnnw. Ysgrifennydd y Cabinet, rydym wedi cael newyddion da yn ddiweddar mewn perthynas ag ansawdd llwybr arfordir Cymru a’r manteision y mae’n eu cynnig i Gymru. Rhagwelwyd o’r cychwyn y buasai llwybr yr arfordir yn cael ei gysylltu ag ardaloedd trefol drwy lwybrau cylchol. Tybed a allech chi ddweud wrth y Cynulliad pa gynnydd a wnaed o ran y gobeithion a’r cynlluniau hynny ac a allech chi gefnogi’r syniad o sefydlu’r llwybrau hynny yng Nghasnewydd ac mewn mannau eraill.