<p>Torri’r Biblinell Olew yn Nantycaws</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 14 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 2:11, 14 Rhagfyr 2016

Roeddwn i mewn cyfarfod cyhoeddus yn lleol wythnos diwethaf ac mae’n rhaid i mi ddweud yr oedd yna gryn anniddigrwydd ymhlith trigolion lleol yn wyneb absenoldeb cwmni Valero, ond hefyd rwy’n credu oherwydd diffyg gwybodaeth sy’n dod o du awdurdodau cyhoeddus. Felly, a allaf ofyn i’r Ysgrifennydd Cabinet fynnu bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyhoeddi canlyniadau yr holl brofion y maen nhw wedi’u cynnal ar y tir ac ar yr afonydd? Nid ydynt wedi gwneud hynny hyd yn hyn. Pa waith monitro a fydd yn mynd ymlaen yn y dyfodol? A allith hi hefyd ddwyn pwysau ar yr Asiantaeth Safonau Bwyd i roi’r wybodaeth angenrheidiol i ffermwyr lleol ynglŷn ag unrhyw halogiad posib sydd wedi bod o’r tir a’r gadwyn fwyd? A oes modd cadarnhau pa gamau gorfodi y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn eu cymryd er mwyn sicrhau y bydd yr holl waith adfer y mae’r cwmni wedi’i addo, ac sydd wedi cael ei ofyn amdano gan drigolion lleol, yn cael ei wneud cyn gynted ag sy’n bosib?