Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Mae wedi bod yn broblem dros amser maith, ac mae’n rhywbeth y mae gennyf ddiddordeb arbennig ynddo ers i mi gychwyn yn y swydd ym mis Mai. Yn ddiweddar, cyfarfûm â Gweinidog DEFRA, oherwydd roeddwn eisiau cymryd rhan mewn trafodaethau gyda hwy i weld a allem gael rhyw fath o gynllun a mentrau ar y cyd yn y dyfodol. Roedd yn awyddus iawn hefyd i siarad â’r Alban a Gogledd Iwerddon i weld a fuasem yn gallu mabwysiadu dull o weithredu ar draws y DU. Fodd bynnag, mae angen ei wneud yn gyflym, ac os na chaiff ei wneud yn gyflym, bydd gennym ein cynllun ein hun, fel y dywedaf, a byddwn yn edrych ar beth arall y gallwn ei wneud. Ond rwy’n cytuno: mae angen iddo gael ei wneud yn gyflym iawn. Fel y dywedaf, bydd datganiad ysgrifenedig yn cael ei gyhoeddi yfory, cyn toriad y Nadolig, gyda mwy o fanylion.