Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Rwy’n ddiolchgar; nid wyf yn credu bod unrhyw le i anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau. Rwy’n cytuno â hynny. Mae hwn yn fater a hyrwyddwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig rai blynyddoedd yn ôl, ac rwy’n falch y bydd yna ddatganiad yfory. Ond a gaf fi ddweud: pam ei bod wedi cymryd cyhyd i gyrraedd y pwynt hwn? Eich rhagflaenydd, Rebecca Evans, a gododd y mater hwn yn gyntaf, ac mae wedi cymryd amser hir i gyrraedd y pwynt hwn.