Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Wel, fel y dywedaf, mae’n rhywbeth rwyf wedi cymryd diddordeb arbennig ynddo, wyddoch chi, chwe mis—wel, saith mis—i mewn i’r swydd. Rwyf wedi cael nifer o drafodaethau. Rwyf wedi cyfarfod â Gweinidog DEFRA bellach. Rydym wedi bod yn aros i weld—. Nid oes gennym unrhyw syrcasau trwyddedig yma yng Nghymru mewn gwirionedd; maent yn cael eu trwyddedu yn Lloegr. Felly, rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn fod gennym ddull traws-Lywodraethol o weithredu ar hyn.