Part of the debate – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Ceir enghreifftiau niferus o gofrestri cam-drin anifeiliaid yn yr Unol Daleithiau, lle y defnyddir dau fodel gwahanol. Cofrestr agored yw’r cyntaf, megis yn Tennessee, pan fo gwybodaeth am yr unigolyn a gafwyd yn euog yn cael ei gyhoeddi ar-lein gan gynnwys eu ffotograff, eu henw, eu cyfeiriad a’u dyddiad geni. Cofrestr breifat yw’r llall, megis yn Ninas Efrog Newydd, sydd ond ar gael i sefydliadau penodol, fel llochesi anifeiliaid a’r rhai sy’n gwerthu anifeiliaid.
Mae Biwro Ymchwilio Tennessee yn gweithredu nifer o gofrestri: cofrestr troseddwyr rhyw, cofrestr troseddwyr cyffuriau, cofrestr cam-drin a chofrestr cam-drin anifeiliaid. Mae’r gofrestr cam-drin anifeiliaid yn cael ei gweithredu ar draws y dalaith o dan un o ddeddfau talaith Tennessee, y Ddeddf cofrestru cam-drin anifeiliaid. Dyma’r gofrestr gyntaf i fod ar gael i’r cyhoedd yn yr Unol Daleithiau. Ers mis Ionawr eleni, mae wedi postio’r wybodaeth ganlynol: enw’r troseddwr, cyfeiriad, dyddiad geni a’r math o drosedd. Nid yw’n cynnwys rhif nawdd cymdeithasol, rhif trwydded yrru nac unrhyw rif adnabod arall. Cedwir y wybodaeth ar y gofrestr am ddwy flynedd am drosedd gyntaf, ac mae’n codi i bum mlynedd am ail drosedd. Nododd erthygl yn ‘Huffington Post’ nad oedd Biwro Ymchwilio Tennessee, gyda chyflwyno’r ddeddfwriaeth hon, yn wynebu cost sylweddol am gynnal y gofrestr ar ei wefan bresennol.
Ceir cofrestri agored yn sir Albany a sir Orange, y ddwy yn nhalaith Efrog Newydd. Mae’r gofrestr agored ar-lein yn sir Albany yn cael ei chynnal gan loches anifeiliaid, Cymdeithas Ddyngarol Mohawk Hudson, fel gwasanaeth i’r cyhoedd. Fel y cyfryw, nid oes unrhyw gost i’r trethdalwr. Mae angen i unrhyw un a geir yn euog o greulondeb i anifeiliaid yn sir Albany ar ôl mis Ionawr 2012 gyflwyno gwybodaeth i adran y siryf sir Albany, a’i diweddaru bob blwyddyn. Yna, caiff y wybodaeth honno ei throsglwyddo i’r lloches. Dywed ei wefan:
Dylai unrhyw un sy’n gwerthu anifail, rhoi anifail neu fabwysiadu anifail i berson arall yn Albany... archwilio’r gofrestr cyn unrhyw newid mewn perchnogaeth. Mae rhoi, gwerthu neu fabwysiadu anifail i berson ar y gofrestr yn groes i gyfraith y sir.
Crëwyd cofrestr cam-drin anifeiliaid sir Orange yn 2015 gan Ddeddf a elwir yn Ddeddf Rocky yn neddfwrfa sir Orange, ar ôl gorfod difa ci a oedd wedi’i adael allan yn yr eira heb fwyd a dŵr am bum wythnos tra oedd ei berchennog ar wyliau. Caiff y gofrestr ei chadw yn swyddfa’r siryf, ac mae’n ofynnol i unrhyw un sy’n byw yn y sir a geir yn euog o greulondeb i anifeiliaid gyflwyno eu gwybodaeth i swyddfa’r siryf sir Orange, ac yna caiff ei rhoi ar-lein. Codir ffi o $125 arnynt hefyd. Mae’r ddeddf yn mynnu bod yn rhaid i unrhyw un sy’n trosglwyddo perchnogaeth anifail am dâl neu fel arall archwilio cofrestr cam-drin anifeiliaid sir Orange cyn unrhyw newid perchnogaeth. Mae rhoi, gwerthu neu ganiatáu mabwysiadu anifail i berson yn yr ardal yn groes i gyfraith y sir.
Yn Efrog Newydd, mae Deddf Cofrestru Cam-drin Anifeiliaid 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw un sy’n byw yn Ninas Efrog Newydd a geir yn euog o drosedd cam-drin anifeiliaid gofrestru gydag adran iechyd y ddinas, ble y cânt eu hychwanegu at gofrestr cam-drin anifeiliaid Dinas Efrog Newydd. Mae’r wybodaeth sydd arni gryn dipyn yn fwy na’r hyn sydd ei angen ar gyfer cofrestr agored Tennessee, gan gynnwys disgrifiad o’r drosedd, trwydded gyrwyr, taldra, pwysau, ethnigrwydd a lliw llygaid y person hwnnw. Fodd bynnag, y sefydliadau hynny a enwir o dan y Ddeddf yn unig sy’n cael gweld y gofrestr. Mae’r ddeddfwriaeth yn nodi pa fath o fusnesau’n ymwneud ag anifeiliaid y mae’n ofynnol yn gyfreithiol iddynt archwilio’r gofrestr a gwrthod gwerthu neu drosglwyddo perchnogaeth anifail i unrhyw un a restrir ar y gofrestr. Mae hyn yn cynnwys siopau anifeiliaid anwes, llochesi anifeiliaid a milfeddygon yn Efrog Newydd.
Mae dros 20 o Filiau’n sefydlu cofrestri cam-drin anifeiliaid wedi cael eu cyflwyno ar draws America, gan gynnwys Illinois, Maryland, Rhode Island a California. Yn Colorado, gwrthodwyd Bil ar gyfer cofrestr agored ar sail y gost. Fodd bynnag, ar ôl cyflwyno deddfwriaeth fy hun, nid yw cost ynddi’i hun yn ddigon o reswm i’w hatal rhag cael ei chyflwyno; mae’n rhaid cael pwrpas. Nid yw cost ond yn dod yn broblem pan na ellir sefydlu beth yw’r pwrpas hwnnw, neu os oes diffyg ewyllys.
Rwy’n gweld dau bwrpas i gofrestr cam-drin anifeiliaid i Gymru. Y cyntaf yw dangos i droseddwyr a darpar droseddwyr y bydd canlyniad arall i’w hymddygiad troseddol; ein bod yn dechrau symud, fel cymdeithas, tuag at ei gwneud yn gwbl glir bod cam-drin anifeiliaid y tu hwnt i ffiniau ymddygiad derbyniol, yn yr un modd ag y mae gwahanol fathau o ragfarn yn cael eu hystyried yn llawer mwy annerbyniol nag yr oeddent flynyddoedd yn ôl.
Wrth gwrs, ni allwn ddweud bod rhagfarn wedi cael ei ddileu yn gyfan gwbl, ond mae’n symud i’r cyfeiriad iawn. A dyna’r pwynt yma. Ar hyn o bryd, mae pobl sy’n cam-drin anifeiliaid i’w gweld yn fwy tebygol o gael eu cywilyddio a’u ceryddu ar gyfryngau cymdeithasol nag y maent drwy ateb cyfreithiol. Mae angen arf ataliol. Hefyd, nododd ymchwiliad Tŷ’r Cyffredin fater arall sy’n ymwneud â cham-drin anifeiliaid: ei bod yn anodd iawn olrhain y rhai sydd wedi cael eu gwahardd rhag cadw anifeiliaid. Gwelodd y gallai cofrestr hygyrch chwarae rhan bwysig yn diogelu anifeiliaid ac atal camdrinwyr rhag dod i gysylltiad ag anifeiliaid. Ac roedd yn argymell gwaith pellach ar y mater hwn.
Fe ddywedais yn gynharach fod dimensiwn arall i’r ddadl hon. Cynhyrchodd Links Group, sefydliad sy’n cynnwys yr NSPCC, RSPCA a Ffederasiwn Cymorth i Fenywod Lloegr, waith sy’n dweud bod yna fwy o ymchwil a thystiolaeth glinigol sy’n awgrymu bod cysylltiadau weithiau rhwng cam-drin plant, oedolion sy’n agored i niwed ac anifeiliaid, ac y gallai gwell dealltwriaeth o’r cysylltiadau hyn helpu i ddiogelu dioddefwyr, yn bobl ac anifeiliaid, a hybu eu lles.
Os yw plentyn yn greulon i anifeiliaid, canfu’r gwaith y gallai fod yn arwydd fod y plentyn hwnnw wedi dioddef esgeulustod a cham-drin difrifol. Er bod ymchwil diweddar yn y DU yn awgrymu bod cam-drin anifeiliaid gan blant yn eithaf cyffredin, mewn lleiafrif o achosion mwy eithafol, mae’n ymddangos ei fod yn gysylltiedig â cham-drin plant, neu ymddygiad camdriniol dilynol gan y plentyn.
Lle y cafodd anifail ei gam-drin yn ddifrifol mewn cartref, efallai y bydd mwy o debygolrwydd fod rhyw fath arall o drais teuluol yn digwydd, ac y gallai unrhyw blant sy’n bresennol hefyd fod mewn mwy o berygl o gael eu cam-drin. Gall gweithredoedd o gam-drin anifeiliaid, mewn rhai amgylchiadau, gynnwys gorfodi, rheoli a dychryn menywod a phlant i aros yn eu sefyllfa gamdriniol neu i beidio â dweud wrth neb. Gall cam-drin neu fygwth cam-drin anifail anwes atal menywod rhag gadael sefyllfaoedd o drais domestig. Mae creulondeb cyson i anifeiliaid mewn plentyndod wedi’i gysylltu â thebygolrwydd cynyddol o ymddygiad troseddol treisgar yn erbyn pobl pan fyddant yn oedolion. Os yw plentyn yn arddangos ymddygiad ymosodol neu rywioledig eithafol tuag at anifeiliaid, gallai hyn, mewn rhai achosion, fod yn gysylltiedig â cham-drin plant eraill neu oedolion agored i niwed yn nes ymlaen, oni bai bod yr ymddygiad yn cael ei adnabod a’i drin.
Nid oes amheuaeth fod y ddau bwynt olaf yn bwysig mewn perthynas â gorfodi’r gyfraith. Ers peth amser, gwyddys bod llawer o lofruddwyr cyfresol a throseddwyr difrifol eraill wedi dechrau eu taith gyda cham-drin anifeiliaid. Yn wir, mae’r FBI yn America yn ei ddefnyddio’n rhan o waith proffilio troseddol. Ni allaf gredu am eiliad y byddai unrhyw heddlu yng Nghymru yn ystyried na fyddai cofrestr o’r fath o ddefnydd iddynt wrth iddynt fynd ati i ddatrys trosedd, a buaswn yn dadlau y dylai pob asiantaeth gorfodi’r gyfraith gael gweld cofrestr o’r fath.
Un o’r pryderon ynglŷn â chofrestr o’r fath yw sut y byddem yn diffinio cam-drin, ac yn penderfynu pwy ddylai fynd arni a phwy na ddylai. I mi, mae’n ymddangos yn eithaf syml. Os yw rhywun wedi ei gael yn euog—nid ei gyhuddo, ond ei gael yn euog—o greulondeb i anifeiliaid, yna, dylai eu henw fynd ar y gofrestr honno. Mater i’r gyfraith bresennol, sydd â’i gwendidau yn fy marn i, fyddai pennu euogrwydd neu fel arall y rhai a gyhuddir o droseddau o’r fath.
Cyn cyflwyno’r ddadl hon, cefais gyngor a gwneuthum yn siŵr ei fod o fewn ein cymhwysedd yn gyfan gwbl. Fel y gwyddoch, mae gan y Cynulliad hwn bwerau i ddeddfu ar faterion lles anifeiliaid, ond i ddechrau, roeddwn wedi meddwl tybed a oeddem yn y man llwyd hwnnw, fel y gwelsom gyda’r Gorchymyn cyflogau amaethyddol neu Fil undebau llafur Llywodraeth y DU, lle nad oedd neb yn hollol siŵr lle y mae’r ffin cymhwysedd. Ond mae’n llawer symlach na hynny, gan nad oes unrhyw gysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol, a byddai angen i rywun gael ei ddyfarnu’n euog cyn cael ei gofnodi ar y gofrestr. Felly nid yw sefydlu cofrestr o’r fath y tu allan i’n cymhwysedd.
Ym mis Mehefin eleni—er nad wyf bob amser yn cytuno gyda Phlaid yr Unoliaethwyr Democrataidd—cefnogodd Cynulliad Gogledd Iwerddon alwad gan Blaid yr Unoliaethwyr Democrataidd i sefydlu cofrestr hygyrch o’r rhai a gafwyd yn euog o droseddau creulondeb anifeiliaid. Ar y pryd, dywedodd y Gweinidog fod ganddo ddiddordeb yn y syniad, oherwydd er bod gan yr heddlu restr o bobl o’r fath, roedd dadl dros iddi fod ar gael i sefydliadau perthnasol eraill.
Hoffwn ddiolch hefyd, yn olaf, i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig am ymateb mewn modd cadarnhaol tebyg i fy nghwestiwn ar 12 Hydref am gofrestri cam-drin anifeiliaid yma. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, a dyfynnaf,
‘Nid wyf wedi ystyried cyflwyno deddfwriaeth. Rydym yn edrych ar y gwahanol godau ymarfer sydd gennym ar gyfer gwahanol anifeiliaid, ac yn sicr mae’n rhywbeth rwyf wedi gofyn i’r prif swyddog milfeddygol a swyddogion ei fonitro. Ond rwy’n fwy na pharod i edrych ar y pwynt a grybwyllwyd gennych; credaf ei fod yn bwynt diddorol iawn, fel y dywedwch, ynglŷn â thramgwyddwyr gydag anifeiliaid.’
Felly, rwy’n edrych ymlaen yn fawr at yr hyn sydd gan Lywodraeth Cymru i’w ddweud ar y mater hwn ac i geisio symud y ddadl hon yn ei blaen. Ni fydd yn syndod i chi fod llawer iawn o ddiddordeb wedi’i ddangos o bob cwr o’r byd, mewn gwirionedd, yn y ddadl hon yma heddiw. Rwy’n credu bod gan bobl berthynas agos a phwysig iawn gyda’u hanifeiliaid anwes, boed hynny am eu bod yn cadw cwmni iddynt os ydynt yn teimlo’n unig, neu am ei fod yn rhan o’r amgylchedd teuluol. Mae’n rhywbeth y teimlwn ei fod yn estyniad o’r modd rydym yn trin pobl eraill yn ein bywydau hefyd mewn perthynas â sut, felly, rydym yn trin anifeiliaid. Felly, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi anfon eu profiadau ataf drwy e-bost o’r holl wahanol wledydd sydd wedi cysylltu â mi. Rwy’n gobeithio y gall Cymru fod y wlad gyntaf i gyflwyno’r gofrestr hon yn y DU. Diolch yn fawr.