– Senedd Cymru am 5:47 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Rwy’n galw ar Bethan Jenkins i gyflwyno’r cynnig yn ei henw hi.
Diolch. Cyn i mi ddechrau heddiw, hoffwn dalu teyrnged arbennig i’r tri ymgyrchydd diflino y mae eu hangerdd a’u hymrwymiad wedi sbarduno’r mater rwy’n mynd i siarad amdano yma heddiw, ac sydd fan lleiaf yn haeddu gwrandawiad llawn a theg i’r cynnig blaengar hwn. Y cyntaf yw fy etholwr Jenna Satterley, a wynebodd drasiedi yn ddiweddar, byrgleriaeth yn lloches Ty-Nant yn y Cymer yn fy rhanbarth ym mis Gorffennaf, pan gafodd tair cath eu hanafu’n ofnadwy a’u lladd. Defnyddiodd Jenny y digwyddiad i roi hwb newydd i’r syniad cadarnhaol hwn. Y ddau arall yw Maxine a Brian Berry o ymgyrch Justice for Chunky. Fel deddf Rocky, gweithred o greulondeb erchyll yn erbyn ci a barodd i’r pâr ddechrau eu hymgyrch dros gyflwyno cofrestri cam-drin anifeiliaid yn y DU. Yn anffodus, nid wyf yn meddwl bod gennyf ddigon o amser i fanylu ar eu gwaith gofalus sy’n nodi’r tirlun deddfwriaethol, ond rwy’n siŵr y byddent yn fodlon i mi rannu’r hyn rydym wedi ei wneud a’r hyn y maent hwy wedi ei wneud gyda Llywodraeth Cymru.
Mae hon yn ddadl na fuaswn yn dymuno ei chael yma heddiw. Mewn cymdeithas ddelfrydol, gwyddom na fyddai’r fath beth â chreulondeb i anifeiliaid. Ac i’r mwyafrif llethol ohonom, mae gweithred o falais disynnwyr yn erbyn anifail yn rhywbeth sy’n troi arnom, ac yn rhywbeth na allwn ei ddirnad, ond mae’n bodoli. Y mis hwn, cafodd cath fach nad oedd yn fwy nag ychydig wythnosau oed ei churo i farwolaeth gyda rholbren a’i thaflu i uned gwaredu bwyd gan staff y gegin mewn gwesty ym Metws-y-coed. Cymerodd brotest ar gyfryngau cymdeithasol a bygythiad i fusnes yn ôl pob tebyg, i’r rheolwyr ymddiheuro a diswyddo’r rhai a oedd yn gyfrifol. Yn y cyfamser, cŵn yw’r anifeiliaid sy’n cael eu cam-drin fwyaf yng Nghymru o hyd. Ym mis Gorffennaf, bu’n rhaid i’r RSPCA ddifa ci defaid Almaenig o’r enw Sindy ar ôl iddi gael ei gadael wedi’i chlymu wrth reiliau yn Sir y Fflint gydag anafiadau i’w choesau a nodyn yn dweud na allai ei pherchennog ymdopi.
Felly, ni waeth sut y mae’r rhan fwyaf ohonom yn teimlo am ddigwyddiadau o’r fath, mae’n anwarineb ac mae’r ffaith ei fod yn digwydd mor rheolaidd yn mynnu ein bod yn dod o hyd i ffyrdd i ddileu cam-drin anifeiliaid, gan mai dyna ddylai fod yn nod i ni—dileu creulondeb i anifeiliaid yn llwyr.
Mae’r hyn rwy’n ei gynnig heddiw o fewn y cymhwysedd. Mae hefyd wedi cael ei sefydlu a’i brofi mewn mannau eraill, er mai dyma’r tro cyntaf y byddai’n digwydd yn y DU, ac mae iddo fanteision posibl y tu allan i les anifeiliaid a thu allan i’r hyn y mae’r Cynulliad hwn yn ei wneud. Yn y pen draw, os gallwn gefnogi gorfodi’r gyfraith, yna fe ddylem, hyd yn oed os nad oes gennym y pwerau. Nid yw hynny’n rheswm dros wrthod y cynnig hwn.
Wrth gynnig cofrestr cam-drin anifeiliaid i Gymru, fel y dywedais, nid oes angen ail-greu’r olwyn. Mae gennym fodelau sy’n gweithio eisoes yn yr Unol Daleithiau. Er nad yw’n ateb Cymreig, am ei fod yn perthyn i fframwaith cyfreithiol gwahanol, mae’n darparu’r sail ar gyfer adeiladu cofrestr wrth edrych ar y newidiadau angenrheidiol i ddeddfwriaeth—os oes angen deddfwriaeth—ac yn nodi problemau posibl.
Felly, fel y dywedais, ar hyn o bryd nid oes unrhyw gofrestr cam-drin anifeiliaid yng Nghymru, Lloegr, yr Alban na Gogledd Iwerddon. Yn ddiweddar, edrychodd pwyllgor yn San Steffan ar sefydlu cofrestr anifeiliaid yn Lloegr fel rhan o ymchwiliad i les anifeiliaid anwes yn y cartref. Argymhellodd yr ymchwiliad y dylai Llywodraeth y DU archwilio’r potensial ar gyfer sefydlu cofrestr cam-drin anifeiliaid. Mae hyn yn dilyn deiseb y Cynulliad yn 2012 a alwai am gofrestr troseddwyr anifeiliaid yng Nghymru. Archwiliodd y Pwyllgor Deisebau nifer o faterion a theimlai ar y pryd na fyddai’n ymarferol. Fodd bynnag, mae digwyddiadau wedi symud ymlaen yn ddigonol i’r syniad hwn gael ei ailystyried. Maent wedi cael eu sefydlu mewn mannau eraill a gallwn weld eu bod yn gweithio.
Ceir enghreifftiau niferus o gofrestri cam-drin anifeiliaid yn yr Unol Daleithiau, lle y defnyddir dau fodel gwahanol. Cofrestr agored yw’r cyntaf, megis yn Tennessee, pan fo gwybodaeth am yr unigolyn a gafwyd yn euog yn cael ei gyhoeddi ar-lein gan gynnwys eu ffotograff, eu henw, eu cyfeiriad a’u dyddiad geni. Cofrestr breifat yw’r llall, megis yn Ninas Efrog Newydd, sydd ond ar gael i sefydliadau penodol, fel llochesi anifeiliaid a’r rhai sy’n gwerthu anifeiliaid.
Mae Biwro Ymchwilio Tennessee yn gweithredu nifer o gofrestri: cofrestr troseddwyr rhyw, cofrestr troseddwyr cyffuriau, cofrestr cam-drin a chofrestr cam-drin anifeiliaid. Mae’r gofrestr cam-drin anifeiliaid yn cael ei gweithredu ar draws y dalaith o dan un o ddeddfau talaith Tennessee, y Ddeddf cofrestru cam-drin anifeiliaid. Dyma’r gofrestr gyntaf i fod ar gael i’r cyhoedd yn yr Unol Daleithiau. Ers mis Ionawr eleni, mae wedi postio’r wybodaeth ganlynol: enw’r troseddwr, cyfeiriad, dyddiad geni a’r math o drosedd. Nid yw’n cynnwys rhif nawdd cymdeithasol, rhif trwydded yrru nac unrhyw rif adnabod arall. Cedwir y wybodaeth ar y gofrestr am ddwy flynedd am drosedd gyntaf, ac mae’n codi i bum mlynedd am ail drosedd. Nododd erthygl yn ‘Huffington Post’ nad oedd Biwro Ymchwilio Tennessee, gyda chyflwyno’r ddeddfwriaeth hon, yn wynebu cost sylweddol am gynnal y gofrestr ar ei wefan bresennol.
Ceir cofrestri agored yn sir Albany a sir Orange, y ddwy yn nhalaith Efrog Newydd. Mae’r gofrestr agored ar-lein yn sir Albany yn cael ei chynnal gan loches anifeiliaid, Cymdeithas Ddyngarol Mohawk Hudson, fel gwasanaeth i’r cyhoedd. Fel y cyfryw, nid oes unrhyw gost i’r trethdalwr. Mae angen i unrhyw un a geir yn euog o greulondeb i anifeiliaid yn sir Albany ar ôl mis Ionawr 2012 gyflwyno gwybodaeth i adran y siryf sir Albany, a’i diweddaru bob blwyddyn. Yna, caiff y wybodaeth honno ei throsglwyddo i’r lloches. Dywed ei wefan:
Dylai unrhyw un sy’n gwerthu anifail, rhoi anifail neu fabwysiadu anifail i berson arall yn Albany... archwilio’r gofrestr cyn unrhyw newid mewn perchnogaeth. Mae rhoi, gwerthu neu fabwysiadu anifail i berson ar y gofrestr yn groes i gyfraith y sir.
Crëwyd cofrestr cam-drin anifeiliaid sir Orange yn 2015 gan Ddeddf a elwir yn Ddeddf Rocky yn neddfwrfa sir Orange, ar ôl gorfod difa ci a oedd wedi’i adael allan yn yr eira heb fwyd a dŵr am bum wythnos tra oedd ei berchennog ar wyliau. Caiff y gofrestr ei chadw yn swyddfa’r siryf, ac mae’n ofynnol i unrhyw un sy’n byw yn y sir a geir yn euog o greulondeb i anifeiliaid gyflwyno eu gwybodaeth i swyddfa’r siryf sir Orange, ac yna caiff ei rhoi ar-lein. Codir ffi o $125 arnynt hefyd. Mae’r ddeddf yn mynnu bod yn rhaid i unrhyw un sy’n trosglwyddo perchnogaeth anifail am dâl neu fel arall archwilio cofrestr cam-drin anifeiliaid sir Orange cyn unrhyw newid perchnogaeth. Mae rhoi, gwerthu neu ganiatáu mabwysiadu anifail i berson yn yr ardal yn groes i gyfraith y sir.
Yn Efrog Newydd, mae Deddf Cofrestru Cam-drin Anifeiliaid 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw un sy’n byw yn Ninas Efrog Newydd a geir yn euog o drosedd cam-drin anifeiliaid gofrestru gydag adran iechyd y ddinas, ble y cânt eu hychwanegu at gofrestr cam-drin anifeiliaid Dinas Efrog Newydd. Mae’r wybodaeth sydd arni gryn dipyn yn fwy na’r hyn sydd ei angen ar gyfer cofrestr agored Tennessee, gan gynnwys disgrifiad o’r drosedd, trwydded gyrwyr, taldra, pwysau, ethnigrwydd a lliw llygaid y person hwnnw. Fodd bynnag, y sefydliadau hynny a enwir o dan y Ddeddf yn unig sy’n cael gweld y gofrestr. Mae’r ddeddfwriaeth yn nodi pa fath o fusnesau’n ymwneud ag anifeiliaid y mae’n ofynnol yn gyfreithiol iddynt archwilio’r gofrestr a gwrthod gwerthu neu drosglwyddo perchnogaeth anifail i unrhyw un a restrir ar y gofrestr. Mae hyn yn cynnwys siopau anifeiliaid anwes, llochesi anifeiliaid a milfeddygon yn Efrog Newydd.
Mae dros 20 o Filiau’n sefydlu cofrestri cam-drin anifeiliaid wedi cael eu cyflwyno ar draws America, gan gynnwys Illinois, Maryland, Rhode Island a California. Yn Colorado, gwrthodwyd Bil ar gyfer cofrestr agored ar sail y gost. Fodd bynnag, ar ôl cyflwyno deddfwriaeth fy hun, nid yw cost ynddi’i hun yn ddigon o reswm i’w hatal rhag cael ei chyflwyno; mae’n rhaid cael pwrpas. Nid yw cost ond yn dod yn broblem pan na ellir sefydlu beth yw’r pwrpas hwnnw, neu os oes diffyg ewyllys.
Rwy’n gweld dau bwrpas i gofrestr cam-drin anifeiliaid i Gymru. Y cyntaf yw dangos i droseddwyr a darpar droseddwyr y bydd canlyniad arall i’w hymddygiad troseddol; ein bod yn dechrau symud, fel cymdeithas, tuag at ei gwneud yn gwbl glir bod cam-drin anifeiliaid y tu hwnt i ffiniau ymddygiad derbyniol, yn yr un modd ag y mae gwahanol fathau o ragfarn yn cael eu hystyried yn llawer mwy annerbyniol nag yr oeddent flynyddoedd yn ôl.
Wrth gwrs, ni allwn ddweud bod rhagfarn wedi cael ei ddileu yn gyfan gwbl, ond mae’n symud i’r cyfeiriad iawn. A dyna’r pwynt yma. Ar hyn o bryd, mae pobl sy’n cam-drin anifeiliaid i’w gweld yn fwy tebygol o gael eu cywilyddio a’u ceryddu ar gyfryngau cymdeithasol nag y maent drwy ateb cyfreithiol. Mae angen arf ataliol. Hefyd, nododd ymchwiliad Tŷ’r Cyffredin fater arall sy’n ymwneud â cham-drin anifeiliaid: ei bod yn anodd iawn olrhain y rhai sydd wedi cael eu gwahardd rhag cadw anifeiliaid. Gwelodd y gallai cofrestr hygyrch chwarae rhan bwysig yn diogelu anifeiliaid ac atal camdrinwyr rhag dod i gysylltiad ag anifeiliaid. Ac roedd yn argymell gwaith pellach ar y mater hwn.
Fe ddywedais yn gynharach fod dimensiwn arall i’r ddadl hon. Cynhyrchodd Links Group, sefydliad sy’n cynnwys yr NSPCC, RSPCA a Ffederasiwn Cymorth i Fenywod Lloegr, waith sy’n dweud bod yna fwy o ymchwil a thystiolaeth glinigol sy’n awgrymu bod cysylltiadau weithiau rhwng cam-drin plant, oedolion sy’n agored i niwed ac anifeiliaid, ac y gallai gwell dealltwriaeth o’r cysylltiadau hyn helpu i ddiogelu dioddefwyr, yn bobl ac anifeiliaid, a hybu eu lles.
Os yw plentyn yn greulon i anifeiliaid, canfu’r gwaith y gallai fod yn arwydd fod y plentyn hwnnw wedi dioddef esgeulustod a cham-drin difrifol. Er bod ymchwil diweddar yn y DU yn awgrymu bod cam-drin anifeiliaid gan blant yn eithaf cyffredin, mewn lleiafrif o achosion mwy eithafol, mae’n ymddangos ei fod yn gysylltiedig â cham-drin plant, neu ymddygiad camdriniol dilynol gan y plentyn.
Lle y cafodd anifail ei gam-drin yn ddifrifol mewn cartref, efallai y bydd mwy o debygolrwydd fod rhyw fath arall o drais teuluol yn digwydd, ac y gallai unrhyw blant sy’n bresennol hefyd fod mewn mwy o berygl o gael eu cam-drin. Gall gweithredoedd o gam-drin anifeiliaid, mewn rhai amgylchiadau, gynnwys gorfodi, rheoli a dychryn menywod a phlant i aros yn eu sefyllfa gamdriniol neu i beidio â dweud wrth neb. Gall cam-drin neu fygwth cam-drin anifail anwes atal menywod rhag gadael sefyllfaoedd o drais domestig. Mae creulondeb cyson i anifeiliaid mewn plentyndod wedi’i gysylltu â thebygolrwydd cynyddol o ymddygiad troseddol treisgar yn erbyn pobl pan fyddant yn oedolion. Os yw plentyn yn arddangos ymddygiad ymosodol neu rywioledig eithafol tuag at anifeiliaid, gallai hyn, mewn rhai achosion, fod yn gysylltiedig â cham-drin plant eraill neu oedolion agored i niwed yn nes ymlaen, oni bai bod yr ymddygiad yn cael ei adnabod a’i drin.
Nid oes amheuaeth fod y ddau bwynt olaf yn bwysig mewn perthynas â gorfodi’r gyfraith. Ers peth amser, gwyddys bod llawer o lofruddwyr cyfresol a throseddwyr difrifol eraill wedi dechrau eu taith gyda cham-drin anifeiliaid. Yn wir, mae’r FBI yn America yn ei ddefnyddio’n rhan o waith proffilio troseddol. Ni allaf gredu am eiliad y byddai unrhyw heddlu yng Nghymru yn ystyried na fyddai cofrestr o’r fath o ddefnydd iddynt wrth iddynt fynd ati i ddatrys trosedd, a buaswn yn dadlau y dylai pob asiantaeth gorfodi’r gyfraith gael gweld cofrestr o’r fath.
Un o’r pryderon ynglŷn â chofrestr o’r fath yw sut y byddem yn diffinio cam-drin, ac yn penderfynu pwy ddylai fynd arni a phwy na ddylai. I mi, mae’n ymddangos yn eithaf syml. Os yw rhywun wedi ei gael yn euog—nid ei gyhuddo, ond ei gael yn euog—o greulondeb i anifeiliaid, yna, dylai eu henw fynd ar y gofrestr honno. Mater i’r gyfraith bresennol, sydd â’i gwendidau yn fy marn i, fyddai pennu euogrwydd neu fel arall y rhai a gyhuddir o droseddau o’r fath.
Cyn cyflwyno’r ddadl hon, cefais gyngor a gwneuthum yn siŵr ei fod o fewn ein cymhwysedd yn gyfan gwbl. Fel y gwyddoch, mae gan y Cynulliad hwn bwerau i ddeddfu ar faterion lles anifeiliaid, ond i ddechrau, roeddwn wedi meddwl tybed a oeddem yn y man llwyd hwnnw, fel y gwelsom gyda’r Gorchymyn cyflogau amaethyddol neu Fil undebau llafur Llywodraeth y DU, lle nad oedd neb yn hollol siŵr lle y mae’r ffin cymhwysedd. Ond mae’n llawer symlach na hynny, gan nad oes unrhyw gysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol, a byddai angen i rywun gael ei ddyfarnu’n euog cyn cael ei gofnodi ar y gofrestr. Felly nid yw sefydlu cofrestr o’r fath y tu allan i’n cymhwysedd.
Ym mis Mehefin eleni—er nad wyf bob amser yn cytuno gyda Phlaid yr Unoliaethwyr Democrataidd—cefnogodd Cynulliad Gogledd Iwerddon alwad gan Blaid yr Unoliaethwyr Democrataidd i sefydlu cofrestr hygyrch o’r rhai a gafwyd yn euog o droseddau creulondeb anifeiliaid. Ar y pryd, dywedodd y Gweinidog fod ganddo ddiddordeb yn y syniad, oherwydd er bod gan yr heddlu restr o bobl o’r fath, roedd dadl dros iddi fod ar gael i sefydliadau perthnasol eraill.
Hoffwn ddiolch hefyd, yn olaf, i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig am ymateb mewn modd cadarnhaol tebyg i fy nghwestiwn ar 12 Hydref am gofrestri cam-drin anifeiliaid yma. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, a dyfynnaf,
‘Nid wyf wedi ystyried cyflwyno deddfwriaeth. Rydym yn edrych ar y gwahanol godau ymarfer sydd gennym ar gyfer gwahanol anifeiliaid, ac yn sicr mae’n rhywbeth rwyf wedi gofyn i’r prif swyddog milfeddygol a swyddogion ei fonitro. Ond rwy’n fwy na pharod i edrych ar y pwynt a grybwyllwyd gennych; credaf ei fod yn bwynt diddorol iawn, fel y dywedwch, ynglŷn â thramgwyddwyr gydag anifeiliaid.’
Felly, rwy’n edrych ymlaen yn fawr at yr hyn sydd gan Lywodraeth Cymru i’w ddweud ar y mater hwn ac i geisio symud y ddadl hon yn ei blaen. Ni fydd yn syndod i chi fod llawer iawn o ddiddordeb wedi’i ddangos o bob cwr o’r byd, mewn gwirionedd, yn y ddadl hon yma heddiw. Rwy’n credu bod gan bobl berthynas agos a phwysig iawn gyda’u hanifeiliaid anwes, boed hynny am eu bod yn cadw cwmni iddynt os ydynt yn teimlo’n unig, neu am ei fod yn rhan o’r amgylchedd teuluol. Mae’n rhywbeth y teimlwn ei fod yn estyniad o’r modd rydym yn trin pobl eraill yn ein bywydau hefyd mewn perthynas â sut, felly, rydym yn trin anifeiliaid. Felly, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi anfon eu profiadau ataf drwy e-bost o’r holl wahanol wledydd sydd wedi cysylltu â mi. Rwy’n gobeithio y gall Cymru fod y wlad gyntaf i gyflwyno’r gofrestr hon yn y DU. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ymateb i’r ddadl, Lesley Griffiths.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch iawn eich bod wedi cyflwyno’r pwnc hwn, Bethan, ar gyfer eich dadl fer heddiw. Fel y dywedwch, fe wnaethoch ei ddwyn i fy sylw mewn cwestiwn llafar yn ôl ym mis Hydref a’r wythnos diwethaf, atebais gwestiwn ysgrifenedig a gyflwynwyd gan Paul Davies, sydd yn y Siambr. Dywedais wrth y ddau ohonoch nad oedd yn rhywbeth roeddwn wedi ei ystyried erioed, ond ers hynny, rwyf wedi gofyn i swyddogion edrych ar y mater, a byddaf yn dweud ychydig mwy am y math o gyngor a thrafodaethau rydym yn eu cael.
Oherwydd nid oeddwn erioed wedi meddwl am y peth o’r blaen o safbwynt iechyd a lles anifeiliaid, ond wrth wrando ar Bethan yn sôn am lefelau creulondeb i anifeiliaid, mae’n wers lesol mewn gwirionedd. Rwy’n meddwl bod y ffordd rydym yn trin ein hanifeiliaid yn dweud llawer am y math o gymdeithas sydd gennym. Felly, mae’n drist iawn clywed am yr achosion roeddech yn siarad amdanynt ar ddechrau eich dadl.
Rwy’n deall yn iawn hefyd y sylwadau a wnaeth Bethan ynglŷn â sut y mae’r rhai sy’n cam-drin anifeiliaid yn aml yn gysylltiedig â mathau eraill o gam-drin. Yn anffodus, ceir gormod o enghreifftiau lle y caiff cam-drin anifail ei ddilyn gan gam-drin aelod arall o’r teulu neu unigolyn arall. Cefais achos yn fy nghymhorthfa fy hun mewn gwirionedd, lle nad oedd gwraig am adael y sawl a oedd yn cyflawni cam-drin domestig oherwydd ei chi. Felly, mae’n bendant yn rhywbeth y dylem fod yn ymwybodol iawn ohono.
Rwyf hefyd yn ymwybodol o waith yr RSPCA ar eu lloches anifeiliaid anwes ac yn yr un modd, rwy’n ymwybodol o’r pryderon eang y gwn eu bod wedi’u mynegi ar draws y DU ar y mater hwn, nid Cymru yn unig, gan nifer o sefydliadau. Mae’n fater cymhleth iawn—rydych yn iawn, mae gennym y cymhwysedd a byddaf yn parhau i roi ystyriaeth ddifrifol iawn i’r holl bwnc ac yn arbennig mewn perthynas â pherchnogaeth gyfrifol ar anifeiliaid. Felly, comisiynodd Llywodraeth Cymru adolygiad ar berchnogaeth gyfrifol ar gŵn, ac mae llawer o’r canlyniadau’n berthnasol ar draws yr holl fathau o berchnogaeth ar anifeiliaid. Credaf hefyd fod angen i mi ystyried y pwnc hwn gyda fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet, oherwydd cwmpas posibl y materion hyn—er y byddech yn meddwl i gychwyn efallai eu bod yn perthyn i fy mhortffolio, rwy’n meddwl bod yna oblygiadau y tu allan i fy mhortffolio.
Rwy’n meddwl y dylai fod dull cenedlaethol o weithredu unrhyw system o’r fath er mwyn iddi fod yn effeithiol ac yn gynhwysfawr, ac unwaith eto mae’n rhywbeth y buaswn yn hoffi ei drafod gyda chyd-Weinidogion o bob rhan o’r DU. Cafwyd trafodaethau blaenorol yn uned diogelu’r cyhoedd Llywodraeth y DU, sy’n gyfrifol am y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, sef y Swyddfa Cofnodion Troseddol yn flaenorol, ynglŷn â defnyddio systemau presennol, gan fy mod yn credu bod angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn defnyddio unrhyw gronfeydd data sy’n bodoli eisoes mewn ffordd lawer gwell bellach, drwy well cysylltedd a rhannu gwybodaeth. Felly, unwaith eto, rwyf wedi gofyn i swyddogion wneud ymholiadau yn yr adran briodol yn Llywodraeth y DU yn awr.
Mae yna gwestiynau hefyd rwy’n meddwl y byddai’n rhaid i ni eu gofyn pe baem yn datblygu polisi o’r fath: diogelu data, a fyddai cael proses adnabod o’r fath yn syniad da; a yw’n ymarferol a beth fyddai cofrestr yn ei gyflawni o ran lles anifeiliaid nad yw’r trefniadau presennol yn ei gyflawni? Fe sonioch chi, Bethan, am heddluoedd ac y byddai’n ddefnyddiol iddynt hwy. I’r awdurdodau lleol hefyd rwy’n credu, ac i agweddau eraill ar y sector cyhoeddus mae’n debyg.
Yng Nghymru, rydym yn credu bod atal yn well na gwella. Dyna’r rheswm pam rydym yn rhoi cymaint o bwyslais ar les anifeiliaid a phwysigrwydd perchnogaeth gyfrifol a rôl milfeddygon. Rwy’n cyfarfod â Chymdeithas Milfeddygon Prydain y mis nesaf, a byddaf yn trafod y mater hwn gyda hwy, a’u canllawiau cynhwysfawr ar gyfer timau milfeddygol ar adnabod cam-drin mewn anifeiliaid a phobl a gyhoeddwyd ganddynt fis Ionawr diwethaf.
Felly, rydym yn mynd i barhau i ddatblygu ein syniadau ar y materion a nododd Bethan heddiw. Byddwn yn gwneud hynny wrth i ni wneud cynnydd ar ein gwaith ar berchnogaeth gyfrifol ar anifeiliaid hefyd. Rydym yn disgwyl i’r safonau uchaf o ran lles anifeiliaid fod ar waith ar gyfer pob anifail a warchodir yma yng Nghymru. Mae gennym ddyletswydd gofal. Mae wedi’i gwreiddio yn y Ddeddf Lles Anifeiliaid, a gychwynwyd bron i 10 mlynedd yn ôl. Ond rwy’n credu bod y pwnc rydych wedi tynnu sylw ato eto heddiw, Bethan, angen ei ystyried o ddifrif eto. Byddwn yn hapus iawn i weithio ar hynny gyda chi. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr iawn. A’r cyfan sydd gennyf ar ôl i’w wneud yw dweud wrth bawb sydd ar ôl—cyfarchion y tymor i chi i gyd, a gobeithio y bydd pawb ohonom yn dychwelyd yn y flwyddyn newydd. Dyna ddiwedd y trafodion am heddiw—am eleni, mewn gwirionedd. Dyna ni. Diolch yn fawr iawn.