Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Diolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydych yn llygad eich lle yn nodi’r ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi adnoddau sylweddol—oddeutu £50,000 rwy’n credu—tuag at yr adroddiad hwn, ac roedd yna argymhellion allweddol, a buaswn yn falch o glywed sut y byddwch yn datblygu’r argymhellion hynny. Ond cyfarfûm â rhai trigolion o gartrefi mewn parciau yr wythnos diwethaf a wnaeth y pwynt fod un o’u prif bryderon yn ymwneud â’r comisiwn pan fyddant yn gwerthu cartrefi mewn parciau—ac mae’r cyfyngiadau ar werthu’r cartrefi mewn parciau hynny’n ôl i’r perchnogion, yn broses feichus a thrafferthus iawn, a chyfyngol iawn hefyd. Nid oedd yr adroddiad yn cynnig ateb i ddatrys y pryder penodol hwnnw a oedd gan berchnogion cartrefi mewn parciau. A ydych yn bwriadu archwilio cyfleoedd pellach i weld a oes modd cael ychydig o gymorth i godi’r mater hwn a chael gwared ar y baich hwn sy’n cael ei roi ar ysgwyddau perchnogion cartrefi mewn parciau ac sydd mor gyfyngol pan fyddant yn penderfynu gwerthu eu cartrefi mewn parciau ar ddiwedd eu deiliadaeth?